Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

anghrediniwr neu'n atheist go iawn. Stori hynod yw'r hanes amdano'n dychwelyd i'r gorlan. Croniclodd gryn dipyn ohono yn ei lyfr Surprised Byjoy Rhag inni gamddeall, ni ddaeth i gyswllt eto â Joy Davidman ei wraig, Americanes o dras Iddewig. Dylid nodi bod y teitl yn dod o Wordsworth- "Surprised by joy impatient as the wind': Mae'r gair Joy yn allweddol gan Lewis: o bryd i'w gilydd ar hyd ei oes aflonyddwyd (!) arno gan yr ymdeimlad o ryw Lawenydd na ddelir ei rin mewn geiriau. Fodd bynnag, roedd yr Aflonyddwr Mawr yn ymboeni ag ef, a chafodd ei yrru o dipyn i beth yn erbyn ei ewyllys ar y cyntaf i dderbyn yr athrawiaeth Gristnogol am Dduw, neu'n hytrach yr athroniaeth theistaidd, ac yna i dderbyn o argyhoeddiad gyflawnder yr Efengyl am yr Ymgnawdoliad, y Croeshoeliad a'r Atgyfodiad. Felly y gwelwyd dychwelyd un o ladmeryddion effeithiolaf ein cyfnod i ddehongli'r Ffydd Gristnogol. Adroddodd Lewis ei brofiad a chymhwyso'i weledigaeth yn fwyaf effeithiol yn ei lyfrau ac wrth gael ei arwain i faes y radio a darlledu. Roedd yn bencampwr yn y ddau gylch. Ym Medi 1931 roedd Lewis yn mynd i Whipsnade yng nghwmni'i frawd a'i gydymaith agos, Warren. Dyma'i gofnod allweddol am ei brofiad ar y Ffordd Damascus honno "When we set out I did not believe that Jesus Christ is the Son of God, but when we reached the zoo I did. Yet I had not exactly spent the journey in thought. Nor in great emotion': Trwy ddirgel ffyrdd yn wir! Ysgrif yn bwrw golwg dros yr argraffiad diweddaraf o Iythyrau. C.S. Lewis (Gol. H. Lewis a Walter Hooper) Letters, Collins, Llundain, 528tt. £ 5.95. Co 8. Lewis: Y LLYTHYRWR TIM SAUNDERS "Y diwrnod y lladdwyd yr Arglwydd Kennedy Soniwch am hyn ac fe fydd pawb sy'n ddigon hen yn cofio ar unwaith ymhle 'rydoedd pan glywodd y newydd. Ond y Dydd Gwener hwnnw, Tachwedd 22ain, 1963, 'roedd un ty yn Rhydychen eisoes yn llawn o'i alar ei hun: "After lunch he fell asleep in his chair. I suggested that he would be more comfortable in bed, and he went there. At four I took his tea andfound him drowsy but comfortable. Our few words then were the last: at fwe-thirty I heard a crash and ran in, to fìnd him lying unconscious at the foot of his bed. He ceased to breathe some three or four minutes later: (op. cit. tt.45-6). Ond nid yw'r ffaith iddo farw'r un diwrnod â'r Arlywydd Kennedy yn egluro pam fod pobl, yn enwedig plant, yn dal i ysgrifennu at Clive Staples Lewis, a aned yn yr Iwerddon yn 1898 ac a fu farw yn Lloegr y diwrnod tyngedfennol hwnnw ychydig dros chwarter canrif yn ôl. EI GYFFREDINEDD Ei gyffredinedd yw cyfrinach apêl C.S. Lewis, p'un a ydym yn cytuno'r un iot ag ef ai peidio. Mae'i nofelau, ei ysgrifau CYMORTH I BREGETHWR Cyrhaeddodd at gyhoedd eang iawn o ddarllenwyr pan y cyhoeddwyd The Srewtape Letters. Llyfr diddan a dawnus yn llawn ergydion yn amlinellu cynghorion un o wasanaethwyr y Gwr Drwg at brentis mewn aml benbleth yn y gwaith o demtio. Mae'n siwr y bydd y llyfr yn parhau yn ei apêl. Daeth fflyd o lyfrau'n trafod y dwys gwestiynau: The Problem ofPain, Miracles, Mere Christianity, ac yn y blaen. Bu'n gymorth i lawer un yn ei stydi pan fentrodd i faes esboniadaeth ysgrythurol. Trysorwyd y gyfrol fach clawr papur, Reflections on the Psalms gan fwy nag un enaid blin yn paratoi ar gyfer y Sul. Roedd yn ddigon rhad i bregethwr prin ei geiniogau'r adeg honno! Anglicanwr oedd Lewis. Byddai rhai sylwebyddion am ei ddisgrifio'n uchel eglwyswr. Ond nid oedd yn cydymffurfio bob amser â'r ddelwedd ddisgwyliedig. Un o'i gas bethau oedd miwsig yr organ yn yr eglwys. Ac emynau, o ran hynny! Roedd yn Sais nodweddiadol, yn cyplysu'r eglwys a'r dafarn yn rhwydd. Yn hoff o gwmni i ddadlau a thrafod ac yfed cwrw. Tuedd Rhydychen yn hytrach na Belfast? Fe'i gwelais unwaith ar y stryd yng Nghaerfyrddin. Wedi dod i annerch rhyw gyfarfod o eglwyswyr, siwr o fod. Llais fel taran ganddo. Roedd yn digwydd bod yn ddiwrnod mart: roedd Lewis yn debyg i lawer o'r ffermwyr yn ei hen gôt-law a'i het wedi gweld gwell dyddiau. Gallai droi i mewn i'r mart yn eu cwmni: neu i'r dafarn. beirniadol, ei draethodau diwinyddol a'i lythyron i gyd yn llawn o'r teimladwy, y gweladwy a'r cyffyrddadwy. Mae gwres dysgleidiau enfawr o de ar groen y dwylo, ergyd wyneb caregog lôn fach ar sodlau, arogl gwair newydd ei ladd, a sibrwd tudalennau memrwn yn cael eu troi, i gyd yn rhan o'i waith, boed hwnnw'n ddiwinyddol neu fel arall. Oherwydd y diriaethol yw craidd ei brofiad, a phrofiad yw sylfaen ei ddadl bob tro. Yn lle cefnu ar y Cread bydd y gẁr anghyffredin o gyffredin hwn yn mynnu mynd i mewn iddo er mwyn cyrraedd yr hanfod sy'n fwy diriaethol byth. Ac fe welwn linyn y cyffyr- ddadwy yn rhedeg drwy'i brofiad i gyd, drwy'r gwahanol ddaliadau fu'n meddiannu'i enaid ac yn uno pob agwedd ar ei fywyd, boed yn gariad at bobl neu at dir, yn ymroddiad i alwedigaeth, yn safbwynt mewn dadl gyhoeddus neu'n gydwybod artistig. Mae'r ffeithiau bywgraffyddol yn ddigon syml ac yn ddigon hysbys. Fe'i ganed yn ninas Béal Feirste ym 1898, a cholli'i fam yn ifanc iawn. Wedi cael ei glwyfo yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, aeth i Rydychen lle y graddiodd mewn Saesneg ac yn y diwedd ennill swydd fel tiwtor yn y pwnc yng Ngholeg