Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ar ymylon y teulu fel petai oedd Modryb Marged. Peidiwch â fy nghamddeall, nid rhyw berthynas dlawd yr oedd pawb yn awyddus i'w chuddio oedd hi, a doedd dim byd o gwbt yn bod arni. 'Roedd gyda'r prydferthaf yn y fro yn ei dydd a'r gorau yn yr ardal am wneud crysau gwlanen i ddynion. Na, rhyw berthyn pell oedd hi, rhyw berthynas debyg i gyfnlther i taid. Marged oedd hi i nhaid, Marged Tŷ Capel i mam a Modryb Marged i mi, o ran hwylustod yn fwy na dim. Mae'n debyg, felly, mai am fy mod yn perthyn i'r hynaf o'm cenhedlaeth y cefais y swydd answyddogol o fod yn gynorth- wywr cynnau lampau'r capel. Hefyd 'roedd Modryb Marged yn mynd i oed ac er ei bod yn wraig annibynnol iawn ei natur aeth y cyfle i gael help rhywun sionc a heini i ddal hyn a 'nôl y llall yn drech nag oes o annibyniaeth. Felly ar nos Suliau yn y gaeaf, yn fras o droi'r clociau 'nôl awr nes adennill yr awr honno yn y gwanwyn wedyn byddwn yn cyrraedd y tŷ capel o leiaf hanner awr o flaen pawb arall ac yn fuan wedyn byddai gosgordd o ddau yn ymlwybro allan o'r drws ffrynt ac yn teithio y deg cam, fwy neu lai, at ddrws y capel a'r goleuni o ffenestr y tŷ yn ddigonol i ddangos y ffordd. Fi fyddai'n agor drws y capel oherwydd 'roedd dwylaw Modryb yn llawn o'r taclau angenrheidiol at y gwaith oedd o'n blaen. Wedi agor y drws a chyrraedd y lobi, byddai Modryb yn gosod y taclau i lawr ar y step bren a redai ar draws un ochr iddo o flaen sêt oedd wrth y wal lle gallai'r hwyr- ddyfodiad eistedd i ddisgwyl yr emyn nesaf cyn mynd trwy'r drws dwbwl yn ben-isel i'r capel a'r gwasanaeth. Wedi imi gau'r drws allan, taniai Modryb y gannwyll oedd yn sefyll mewn canhwyllbren, rhoi'r bocs matsys ym mhoced ei barclod, ac efo'r gannwyll yn un llaw a chadach neu ddau yn y llall, fe'i dilynwn drwy'r drws dwbwl i'r capel hyd at y lamp gyntaf. 'Roedd 'na saith o lampau yn y capel. (Saith llusern oedd yn Nhabernacl yr Iddewon hefyd, yn Exodus 25. Oedd 'na gysylltiad tybed?) Crogai un lamp bob ochr i'r pulpud i oleuo'r Gair a'i gennad; pabwrdd neu wic crwn, simdde wydr hir a phwlan wen i wasgaru'r golau oedd bob un o'r rhain. Un lamp oedd yn y sêt fawr GANNWYLL IFAN DAVIES "Fflam fechan y gannwyll oedd ffynhonnell y goleuni mawr A thra fod un fflam unig yn cynnau yn enw'r Arglwydd mae gobaith cael goleuni mawr." lamp ar ben polyn addurniedig ac 'roedd hon yn fwy o dipyn na lampau'r pulpud a phowlen wydr clir efo patrwm o flodau oedd o amgylch y simdde o wydr. 'Roedd dwy lamp arall debyg hon hanner y ffordd i ddwy gornel pellaf y capel hefyd ond rhyw unwaith y cofiaf iddynt gael eu goleuo-Gwasanaeth Diolchgarwch mae'n debyg. Dyna bump o'r lampau, ond y piece de resistance, neu bencampwyr y goleuo oedd y ddwy lamp yng nganol y llawr. Dwy lamp fawr oeddynt yn crogi ar gadwyn hir a ddiflannai drwy'r nenfwd uchel a'r rhyfeddod mawr imi oedd fod pwysau rywle rhwng y nenfwd a'r tô oedd yn gyfrifol am symudiad esmwyth y lampau mawr yma i fyny ac i lawr, fel y byddai'r galw. Er mwyn hwyluso'r symud yma, 'roedd fframwaith haearn fel dwy glust wrth ochrau'r ddwy lamp. Byddwn yn gafael yn y ddwy glust yma a thynnu'n ysgafn a deuai'r lamp i lawr i'r uchder addas i'w goleuo. Wedi'r goleuo, gafael eto'n ysgafn yn y ddwy glust a'u gwthio'i fyny yn ddiymdrech. Hei Iwc i'r dechnoleg fodern! Un o'r lampau mawr a oleuem gyntaf yng ngoleuni'r gannwyll. Modryb yn dal y gannwyll, finnau'n sefyll ar ben y sêt flaenaf o'r seti ochr a thynnu'r lamp i lawr yn ddigon isel i'w goleuo. Codwn y simdde wydr fawr, archwiliai Modryb y pabwyr ac o'i gael yn foddhaol, tanio. 'Roedd y broses o danio pob lamp yr un fath. Yng nghafn y ganhwyllbren 'roedd tua dwsin o fatsys wedi'u tanio. Gafaelai Modryb yn un o'r rhain, ei tharo yn fflam y gannwyll nes iddi ennyn fflam ei hun yna trosglwyddo'r fflam honno i'r lamp. Dim gwastraffu matsien newydd ar bob lamp a'r Achos yn talu! Os na fyddai'r pabwyr wrth ei bodd, byddai'n rhaid ei lanhau efo'r cadach ac weithiau siswrn er mwyn cael fflam wastad ar yr pebwyr crwn. Fflam felyn-wen fyddai'n cynnau i ddechrau a theithiai honno'n araf o gylch y pabwrdd nes cyrraedd nôl lle dechreuodd a chwblhau'r cylch. Yn raddol, troai gwaelod y fflam yn lâs a'i blaen yn felyn ac yna byddwn yn troi'r pabwyr fyny i'r uchder iawn fel y byddai'r capel yn llawn goleuni pan fyddai'r ddwy lamp ar eu gorau. Safwn ar y sêt yr eilwaith i godi'r ddwy lamp yn ôl i'r uchder cywir. Pan gyrhaeddem y sêt fawr, dal y simdde wydr i fyny fyddwn i er mwyn i Modryb gyrraedd y pabwyr a'i danio; yna gosodwn y simdde'n ôl yn ofalus. Yr un drefn fyddai gennym wrth gynnau lampau'r pulpud. Wedi cwblhau'r goleuo, byddai canol y capel yn llawn goleuni cynnes ond byddai rhyw wyll yn y comeli cefn am fod y lampau a ddylai oleuo yno yn dywyll. Wedi gorffen y gorchwyl o oleuo, di- ffoddem y gannwyll ac am funud neu ddau byddai arogl unigryw gwêr poeth yn llanw'r capel. Allan â ni wedyn i'r Tŷ Capel cyn i'r gynulleidfa brin gyrraedd i oedfa'r nos yng ngwres y lampau a'r Efengyl. Ac eisteddwn innau trwy'r oedfa efo llygad barcud ar berfformiad pob lamp. Ar ôl yr oedfa, diffoddem y lampau o un i un, gan ddechrau gyda rhai'r pulpud a gorffen efo'r olaf o'r ddwy fawr ar y llawr. Gwaith hawdd oedd eu diffodd. Trwy wasgu i lawr fraich fach oedd wrth ochr pob lamp, symudai cylch dros y fflam a'i difa'n llwyr. Cyn gwneud hynny i'r lamp fawr olaf, byddai Modryb yn tanio'r gannwyll ac yng ngoleuni honno aem allan at y byd a'i bethau. Fflam fechan y gannwyll oedd ffynhonnell y goleuni mawr. Trwy ddeugain mlynedd o ormes ar Oleuni'r Byd yn Latvia ac Estonia llosgodd fflamau bychain yn ddirgel a thrannoeth i derfyn yr omes gwelwyd hwy'n llosgi'n glir yn yr amlwg yn Nhy'r Arglwydd. A thra fod un fflam fach unig yn cynnau yn enw'r Arglwydd mae gobaith cael Goleuni Mawr. Un nôs Sul, dlffoddodd Modryb a minnau y lampau am byth. Ond mae 'na ganhwyllau'n dal Iosgi yn y fro o hyd. Gwae nl, os ânt allan. O'r "Cylch", cylchgrawn gofalaeth Porthaethwy.