Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Amlinelliad o ddatblygiad cerddoriaeth eglwysig a gwerthfawrogiad o dâp newydd o'r Litwrgi Uniongred yn Gymraeg OFFEREN DDWYFOL CLEDWYN JONES Flynyddoedd lawer yn ôl clywais gôr o Rwsia yn canu'r Credo. Côr ydoedd a berthynai i'r Eglwys Uniongred Rwseg, ac fe'm gwefreidd- iwyd gan y sain gerddorol a gynhyrchwyd. Rwsiaid ar ffo oedd y rhain ac wedi ymsefydlu ym Mharis. Canu digyfeiliant oedd o, gyda'r lIeisiau'n cynganeddu'n hynod drawiadol ac unigryw. Yn y datganiad teimlwn eu hiraeth am eu gwlad, gwelwn ehangder gwastatir diffaeth y wlad honno, ond yn fwy na dim, teimlwn eu diffuantrwydd cre- fyddol yn y ffordd y defnyddient y gerddoriaeth i dreiddio i wir ystyr y geiriau. Gwnaeth y perfformiad hwn argraff ddofn ar fy meddwl a'r ffordd y dylid defnyddio cerddoriaeth yn ein gwasanaethau crefyddol. Yn rhyfedd iawn, rai dyddiau'n ôl, 'roeddwn mewn cyngerdd yn Theatr Gwynedd i groesawu un o esgobion yr Eglwys Uniongred Rwseg o Kazan a'i gyfeillion o Gymru, gan gynnwys y Tad Deiniol, offeiriad yr eglwys Uniongred ym Mlaenau Ffestiniog. Cymro glân yw'r Tad Deiniol, yn wreiddiol o Fôn, ac yn ymhyfrydu yn ei Gymreictod. Y mae ganddo ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth grefyddol a phwysigrwydd cerddoriaeth yn ein gwahanol wasanaethau. Ar ôl rhai blynyddoedd o arbrofi, llwyddodd osod geiriau Cymraeg ar yr Offeren Rwseg a defnyddio cerddoriaeth y wlad honno. Llwyddodd yn anghyffredin trwy ddefnyddio côr Cymraeg lleol i recordio'r offeren ar dâp, ac y mae'r tâp hwnnw, erbyn hyn, ar werth yn ein siopau. Y mae llawer o Gymry â diddordeb arbennig mewn canu crefyddol, er nad ydynt o angenrheidrwydd yn addolwyr cyson yn ein capeli a'n heglwysi. Er mwyn gwir werthfawrogi cynnwys y tâp hwn, da o beth fyddai ceisio egluro'n fras a chyffredinol hanes dablygiad cerddoriaeth yn yr eglwys. CERDDORIAETH YR IDDEW Y mae gwahaniaeth mawr rhwng gwasanaeth eglwysi'r gorllewin a'r eglwysi hynny a berthyn i Eglwys Uniongred Groeg, neu Eglwys y Dwyrain. Cangen o'r Eglwys Uniongred yw'r Eglwys yn Rwsia a'i litwrgi'n gysylltiedig ag eglwysi'r dwyrain, sef Jerwsalem, Alecsandria, Antiochia a Chaergystennin. I ddeall datblygiad cerddoriaeth yn yr eglwys Gristnogol gynnar rhaid cofio'r lle'r blaenllaw a roddwyd i gerddoriaeth yng nghrefydd yr Iddewon. Y mae bodolaeth Llyfr y Salmau a'r cyfeiriadau cyson at wahanol offerynnau cerdd yn dystiolaeth i'r lle a roddwyd i gerddoriaeth o fewn gwasanaethau'r Deml, ac yn ddiweddarach yn y synagogau a sefydlwyd gan yr Iddewon ar wasgar mewn gwahanol wledydd. Yn y synagogau, cerddoriaeth leisiol yn unig ydoedd, ac yn sicr yr oedd hyn yn wir ar ôl dinistrio'r Deml gan y Rhufeiniaid yn 70 OC. Gan mai Iddewon oedd y Cristnogion cynnar a fynychai'r Deml yn rheolaidd ar ôl eu bedyddio'n Gristnogion, naturiol oedd iddynt fabwysiadu cerddoriaeth y Deml yn eu cyfarfodydd Cristnogol. Yr unig gyfeiriad at ganu yn yr efengylau yw Math. 26:30, ond y rheswm am hynny yw mai ar ddigwyddiadau a dywediadau'r Arglwydd lesu y mae eu pwyslais. Pan sefydlodd Paul ei eglwysi ymhlith y cenhedloedd yn Asia Leiaf ac Ewrop argymhellodd hwy i ddefnyddio salmau, emynau a chaneuon ysbrydol yn eu haddoliad (Effes. 5:19; Col. 3:16). Sylwer mai pobl oedd y rhain nad oeddynt yn gyfarwydd â'r gerddoriaeth a ddefnyddiwyd yn y synagogau. Felly, yn ogystal â mabwysiadu cerddoriaeth yr Iddewon, treiddiodd cerddoriaeth Roegaidd yn ddwfn i'r gwasanaethau Cristnogol yn ystod y pedair canrif cyntaf. Pa fath o gerddoriaeth oedd honno? Y mae'n amhosibl bod yn bendant, ond y mae'n bur debyg mai canu unsain ydoedd heb fod yn annhebyg i'r blaengan (plainsong) a ddefnyddir yn yr eglwysi Catholig ac Uniongred heddiw. Ymddengys mai canu digyfeiliant ydoedd, ac yn yr Eglwys Uniongred yn Rwsia heddiw ni ddefn- yddir unrhyw offeryn. Y mae'r cyfan yn gorawl a digyfeiliant. Cafwyd sefyllfa gyffelyb yn y wlad hon yn ystod gwladwriaeth Cromwell (1649-60) pan wnaethpwyd ffwrdd â'r organau a'r corau o'r eglwysi o dan ddylanwad y Piwritaniaid. Y DYLANWAD GROEGAIDD At ba salmau ac emynau y cyfeiria Paul yn ei epistolau? Mae'n debyg mai at y gymysgedd o gerddoriaeth Iddewig a Groegaidd y cyfeiriai, a phan gofiwn i Jwdea fod o dan ddylanwad ac awdurdod Groeg o gyfnod Antiochus Epiphanes hyd amser y Macabeiaid, hawdd credu lawer o ddylanwadau cerddorol Groegaidd effeithio ar gerddoriaeth Hebreig hyd ddiwedd llinach Hasmoneaid y ganrif gyntaf O.C. Wedi'r cyfan, gosodasid framwaith ffurfiol a mathemategol i gerddoriaeth ers 550 C.C. pan gyflwynodd Pythagoras i'r byd ei raddfa gerddorol. Ef a fu'n gyfrifol am rannu'r raddfa yn wyth nodyn a rhannu'r wyth nodyn yn ddau detracord (h.y. dau grwp o bedwar nodyn). Iddo ef, y nodau pwysicaf o fewn y raddfa oedd y pedwerydd a'r pumed nodyn. Y dôn felly oedd mesur safonol y raddfa. 'Roedd y ddau detracord wedi eu rhannu'n gyfartal 1 tôn, 1 tôn, 1/2 tôn yn y tetracord cyntaf a 1 tôn, 1 tôn a 1/2 tôn yn yr ail. Dyma, mewn gwirionedd, ein d' r' m1/2* f s' I' t1/2d' ni heddiw mewn Sol-fa. Dyma'r raddfa a fabwysiadwyd gan offerynwyr Groeg o amser Pythagoras. O'r raddfa hon y deilliodd y moddau eglwysig a ddefnyddiwyd, mae'n debyg, o'r ganrif gyntaf O.C. Os nad ydych yn gyfarwydd â'r moddau eglwysig (ecclesiastical modes), ewch at y piano a chwarae o D-D ar y nodau gwynion yn unig, a dyna chi'n cael y modd Dorianaidd; E-E (nodau gwynion) y modd Phrygiaidd; F F (nodau gwynion) y modd Lydiaidd; G G (nodau gwynion) y Mixo-Lydiaidd. Y mae gwahaniaeth pendant rhwng modd a graddfa. Erys graddfa yn ddigyfnewid o ran adeiladwaith, y traw