Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MORGAN D. JONES Meredydd Evans Hyfryd oedd cael darllen ar dudalennau Cristion yn ddiweddar ymdriniaeth gwbl deg a rhesymegol Dr. Meredydd Evans â Her y Mewnlifíad. Eithr wrth werth- fawrogi ei safiad dewr a digymrodedd ef dros briod hawliau ei gyd-genedl, ni ellid llai na gresynu at ymateb y bobl hynny a gyhuddai Dr. Evans o fod yn anghristnogol ei agwedd at y mewnfudwyr. Mae'n anodd gweld sut y gallai unrhyw Gymro ystyriol lai na derbyn yr haeriad ein bod ni'r Cymry o dan reidrwydd moesol i warchod ein tref- tadaeth genedlaethol ac mai arwynebol a di-sail yw'r ddadl fod crefydd yn bwysicach nag iaith. Wrth drafod effaith y mewnlifiad ar ein heglwysi Cymraeg gyda'r alwad gynyddol am roi mwy a mwy o le i'r Saesneg mewn gwasanaethau dwy-ieithog dangosodd Dr. Evans gymaint o fygythiad yw hyn oll i safle a ffyniant yr iaith Gymraeg. Dangosodd yn eglur hefyd fod gan y Cristion o Gymro, fel y Sais yntau, yr hawl i addoli Duw yn ei iaith ei hunan ac mai "braint a dyletswydd capeli ac eglwysi Cymraeg yw cynnal a chyfoethogi'r traddodiad crefydd- 01 graenus a draddodwyd i ni gan ein hynafiaid". AELODAU'N COLLI'R IAITH Mae'n amlwg mai maint y cynnydd ym mewnlifiad y Saeson i Gymru yn y blynydd- oedd diwethaf hyn a barodd i Dr. Evans weld yr angen am dynnu sylw ei gyd-Gymry at y broblem, ond mae'n briodol hefyd roi sylw i'r ffaith fod ein heglwysi Cymraeg yn y rhannau hynny o'r wlad a Seisnigeidd- iwyd wedi bod yn ymgodymu â'r broblem hon ers blynyddoedd maith trwy fod y PHROBLEM IAITH Gymraeg wedi colli tir ymhlith y Cymry eu hunain. Yr hyn sy'n gwneud y broblem yn un ddyrys yw'r ffaith fod llawer o'r dosbarth hwn ymhlith ffyddloniaid ein heglwysi Cymraeg a bod yn well ganddynt aros yn aelodau yn yr eglwysi hynny, er na allant gyfranogi'n llawn o'r addoliad. Fel pregethwr lleyg a gaiff y fraint o wasanaethu yn rhai o eglwysi cymoedd y De o bryd i'w gilydd, rwyf yn hen gyfar- wydd â'r cais i roi "ychydig o Saesneg" yn y bregeth, yn arbennig ar gyfer y sawl sy'n cael anhawster i ddilyn y gwasanaeth yn Gymraeg. Wrth gydsynio â'r cais, a theimlo ar yr un pryd nad yw'r ambell air neu gymal digyswllt o Saesneg a deflir o bryd i'w gilydd i'r aelodau hyn o fawr fudd iddynt, ceisiaf ddyfalu beth yw'r ateb i'r broblem hon sy'n dal i flino ein heglwysi Cymraeg. Ceir bod rhai eglwysi a fu gynt yn uniaith Gymraeg wedi troi erbyn hyn yn uniaith Saesneg. Ar y llaw arall, gwelwn eto ambell eglwys yn ei sêl dros warchod y Gymraeg yr ei hoedfaon yn gwrthod rhoi lle o gwbl i'r Saesneg, er bod ymhlith ei haelodau rai a gaiff anhawster i ddilyn iaith yr addoliad. Ond mae'r rhan fwyaf o eglwysi Cymraeg erbyn hyn yn teimlo bod arnynt reidrwydd i wneud rhyw fath o ddarpariaeth ar gyfer yr aelodau hynny sydd mewn anhawster. Mewn ambell eglwys trefnir oedfaon Cymraeg a Saesneg ar wahân ac fe olyga hynny fod yr eglwys yn cael ei rhannu i raddau mwy neu lai yn ddwy gynulleidfa wahanol. Ond y trefniant yn y mwyafrif o eglwysi yw rhyw gymysgedd di-lun o Gymraeg a Saesneg gyda'r olaf yn raddol ennill tir. Yr hyn a geir, fel y dangosodd Dr. Evans, yw "ambell emyn Gymraeg, ambell ran o weddi Gymraeg, a thalpiau bob yn eilwers o Gymraeg a Saesneg yn ystod y bregeth": trefniant sy'n hollol anfoddhaol i'r addol- wyr ac sy'n rhwym o danseilio safle ac urddas y Gymraeg. Mae'r dryswch ieith- yddol yn cael ei gymhlethu ymhellach gan y ffaith y gellir cael yn yr un gynulleidfa, gnewyllyn bychan sy'n hyddysg yn yr iaith lenyddol, safonol, nifer mwy sy'n siarad y dafodiaeth leol, a'r gweddill sydd heb feddu mwy na gwybodaeth elfennol iawn o'r iaith. Mae safle'r Gymraeg yn cael ei erydu ymhellach o dan yr amodau hyn oherwydd bod tuedd anffodus ymhlith rhai o'r Cymry Cymraeg i siarad Saesneg â'i gilydd, a'u bod trwy hynny yn creu awyrgylch Seisnig, gan esgeuluso eu dyletswydd i roi esiampl a chymhelliad i'r rhai sy'n awyddus i ddysgu Cymraeg. Mae'n rhaid cyfaddef, ar y llaw arall, ei bod yn anodd deall paham na welir mwy o ymdrech ymhlith y di-Gymraeg i ddysgu'r iaith i'r diben o geisio cyfoethogi eu bywyd diwylliannol ac ysbrydol. Gan fod mwy o gyfleusterau ar gael heddiw nag erioed i ddysgu Cymraeg, pur gloff yw esgusodion y sawl na fynno ymgymryd â'r gwaith. Mae'r dimensiwn ysbrydol sydd mewn oedfa yn gwneud problem dwy- ieithrwydd yn un fwy difrifol nag mewn cylchoedd seciwlar, canys wrth fethu dilyn y gwasanaeth yn llawn oherwydd prinder eu gwybodaeth o'r Gymraeg, mae rhan o'r gynulleidfa yn rhwym o golli dogn helaeth o'u maeth ysbrydol. IAITH Y PULPUD Mae'r dirywiad crefyddol sydd wedi ymledu fel malltod dros ein heglwysi y dyddiau hyn wedi trymhau gwaith ein gweinidogion a'n pregethwyr ac wedi gwneud y gwaith o gyfathrebu'n llawer anos. Gan fod ansawdd oedfa yn dibynnu i raddau helaeth ar y math o arweiniad a roddir gan y sawl sydd yn y pulpud, mae'n bwysig fod hwnnw neu honno yn rhoi'r sylw dyladwy i broblem dwy-ieithrwydd. Mae'n ddiddorol yn y cyswllt hwn alw i gof farn Emrys ap Iwan am Gymraegy Pregethwr yn ei oes ef. Wrth nodi diffygion iaith y pulpud galwodd y Cymro pybyr hwnnw ar bregethwyr i arfer iaith bur, ystwyth, eglur a naturiol. Ac yn ein cyfnod ni dyma'r diweddar Barchg. Lewis Valentine yn ysgrifennu i'r perwyl hwn, "Credwn yn fwy bob dydd nad y Gymraeg ydvw yr anhawster mawr yn ein heglwysi yng Nghymry, ond iaith, nid ydyw bobl yn deall geiriau ffydd a dieithr ganddynt idiom crefydd ym mha iaith bynnag y'i lleferir" (Seren Cymru). Gwelir felly ei bod yn bwysig i'n pregethwyr gadw dau beth mewn golwg wrth bregethu yn eglwysi Cymru heddiw, sef yn gyntaf, nad yw ein cynulleidfaoedd heddiw ddim mor hyddysg yn nhermau'r ffydd a gwybodaeth ysgrythurol ag y bu eu tadau, ac yn ail, mai gwybodaeth annigonol o'r Gymraeg sydd gan lawer o'n haelodau. Yn wyneb hyn mae'n ofynnol i'n pregethwyr fod ar eu heithaf i wneud eu cenadwri mor glir a dealladwy ag sydd bosibl Mae'n anodd deall felly paham y mae cynifer ohonynt mor gyndyn i ddefnyddio'r Beibl Cymraeg Newydd sydd yn ei ddiwyg ddiweddar gymaint yn fwy dealladwy i gynulleidfaoedd heddiw. Fel y bu raid i'r Apostol Paul gyflwyno ei genadwri mewn dull a oedd yn dderbyniol i'w wrandawyr yn Athen, fe ddaeth yr amser i bregethwyr Cymru roi mwy o sylw i gyraeddiadau ysgrythurol ac ieithyddol eu cynulleidfaoedd. Mae'r sawl sy'n weinidog