Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ar eglwys ar ei fantais yn hyn o beth wrth reswm, gan ei fod yn adnabod ei gynull- eidfa, ond nid felly gyda'r pregethwr a ddaw ar ei dro. Ni ddylai hwnnw o ganlyniad gymryd gormod o bethau'n ganiataol. Mae 11e mawr i gredu mai pregethu syml a dirodres sy'n gweddu orau i lawer o gynulleidfaoedd Cymru heddiw. UNO AR DIR IAITH Yma yng nghymoedd y De clywir ysgrifenyddion ein heglwysi'n achwyn yn fynych ei bod yn mynd yn anos bob blwyddyn i sicrhau oedfa Gymraeg bob Sul gan fod nifer y rhai sy'n medru pregethu yn yr iaith honno'n prinhau, ac y mae hynny, wrth reswm, yn rhwym o ddwysáu'r broblem ymhellach gyda'r Gymraeg yn graddol adennill ei bri y dyddiau hyn ym mywyd y genedl ac yn dechrau hawlio ei lle mewn cylchoedd ehangach, onid teg yw disgwyl i'r sawl sydd yn flaenllaw ym myd hollbwysig crefydd wneud ymdrech lewach i'w meistroli a'i harddel? Teg yw cofnodi ar yr un pryd y gwelir ymdrech ganmoliadwy ar ran rhai o offeiriaid ieuainc yr Eglwys yng Nghymru a'r Eglwys Babyddol (Saeson a Gwyddelod yn eu plith) i unioni'r cam. Yn y cylch yr wyf yn byw ynddo, gyda'n heglwysi Cymraeg yn trist ddihoeni mewn adeiladau mawr a aeth yn rhy gostus i'w cynnal, mae mwy nag un cyfaill o aelod wedi mynegi'r awydd am weld sefydlu eglwys uniaith Gymraeg. Erbyn heddiw fe gollodd enwadaeth lawer o'i grym, ac er bod capelyddiaeth yn parhau i fod yn rhwystr cyndyn ar ffordd undod, onid buddiol fyddai i eglwysi ystyried uno ar dir iaith? Byddai llawer mwy o urddas a bri ar y Gymraeg o dan drefniant felly nag wrth raddol golli'r dydd o dan amodau niweidiol dwyieithrwydd. Mae'n wir y byddai cam o'r fath yn golygu llawer o ad-drefnu a diwreiddio, ond gyda digon o raslonrwydd ac ewyllys da fe ellid cyflawni'r gwaith yn llwyddiannus. Eithr yn y cyfamser mae'n ofynnol inni gymryd y broblem o ddifrif a cheisio ei datrys yn yr ysbryd gorau posibl fel sy'n gweddu i bobl Dduw gan osgoi pob anoddefgarwch a diffyg amynedd. Da a beth fyddai gweld y Cymry Cymraeg yn ein heghvysi'n ymhyfrydu'n fwy yn eu hiaith a'u treftadaeth, a'r di-Gymraeg hwythau'n ymroi'n ddycnach i ddysgu'r iaith er mwyn cyfoethogi eu bywyd diwylliannol ac ysbrydol. JOHN EDWARD WILLIAMS Yn ddiweddar rhoddodd llyfrwerthwr yn y Gelli Gandryll lyfr ysgrifennu câs caled imi yn cynnwys amryw byd o lythyrau Cymraeg a gopïwyd yn ofalus a gafodd ef ymhlith cruglwyth o lyfrau a brynasai i lawr yn yr hen Sir Gaerfyrddin. Ni wyddai beth ydoedd gan mai Sais ydyw, ond ni farnai ei fod o unrhyw werth a rhoddodd ef yn rhad rodd i mi. Ffordd fonheddig, goelia' i, o gael ei wared! Wedi dychwelyd adref a'i archwilio cefais mai llythyrau cydymdeimlad a dderbyniasai plant y diweddar Barchedig William Thomas a Mrs. Thomas, Gwynfe ydoedd cynnwys y llyfr ysgrifennu. Buasai'r gweinidog a'i wraig farw o fewn tri mis ar ddeg i'w gilydd, efyn Rhagfyr 1899 a hithau yn Ionawr 1901, a dyma Jennie, un o'u hwyth plentyn, yn mynd ati i gopïo tri ar ddeg ar hugain o'r llythyrau a dderbynia- sent yn eu dwy brofedigaeth. Y mae ei llawysgrifen yn glir, yn gadarn ac yn gain ryfeddol. Teimlwn ias gysegredig yn fy ngherdded wrth ddarllen a throi dail yr hyn a gododd hi mor ofalus. Pa beth a ddywedai, ysgwn-i, pe gwyddai fod ei champwaith wedi syrthio i ddwylo dieithryn hollol? Gallwn dawelu ei meddwl trwy ei sicrhau i mi gael bendith o'i ddarllen, i mi deimlo'n wir ddiolchgar iddi am ei thrafferth gariadus ac y trysoraf ef yn ofalus. Ac nid "nodyn byr" gan hwn a'r llall yw'r llythyrau hyn ond llythyrau sylweddol, meithion a thrwm. Yr oedd tad Jennie yn weinidog mawrbarch yn ei ddydd a boneddigeidd- rwydd a charedigrwydd ei mam yn ddihareb bro. Ysgrifennwyd cofiant rhagorol i'w thad ynghyd ag ysgrif nodedig ar y fam gan y mab hynaf Gwyn, y Parchg. T. Gwyn Thomas, Ilkeston. Cyhoeddwyd y cofiant gan W. Spurrell a'i Fab, Caerfyr- ddin yn 1903 ac y mae'n werth ei ddarllen. Cofiant ffyddlon, di-ormodiaith a digwmpas ydyw. Fe'i darllenais ddwywaith a chael goleuni i'm pen a gras i'm calon o gael fy nhywys i gwmni'r fath ddyn. Ceir cyfeiriad ato hefyd yng nghyfrol gampus Urien William, Tu Hwnt i'r Mynydd Du. O dan ei weinidogaeth rymus ef aeth tri bachgen o gefn-gwlad Gwynfe i'r maes cenhadol, David Williams, Cwm Llwyd, William Griffith, Glanmeilwch a Griffith Griffiths, Deri Bach. Pa deyrnged uwch a ddymunai unrhyw weinidog? Gyda hynyna o eglurhad ar y cefndir mae'n rhywyr imi ddyfod at y llythyrau. Llythyrau a dderbyniwyd oddi wrth enwogion enwad yr Annibynwyr ydynt, William Thomas, Gwynfe pobl fel y Dr. Pan Jones, Watcyn Wyn, Beriah Gwynfe Evans (a fu'n ysgolfeistr ifanc yn y cylch ac a fabwysiadodd enw'r ardal yn enw canol arno ef ei hun),J. Towyn Jones, yr aelod seneddol, Penar Griffiths, Thomas Johns ac amryw eraill. Soniant, wrth gwrs, am y golled greulon a gawsant hwy y plant ym marwolaeth y tad a'r fam, soniant am gymeriadau gloywon y ddau a gipiwyd ac am addewidion Duw i'w bobl. Y mae mêr yr Efengyl yma, yn bendifaddau. Dylid ychwanegu bod eu Cymraeg yn gadarn-rywiog hefyd. Celfyddyd goll yw ysgrifennu llythyrau erbyn hyn. Oes y cardiau-post yw hon a rhaid cael llun ar un ochr o'r rheini! Yn sicr yr oedd goreugwyr y Sentars Cymreig yn eu dydd yn ei medru-hi. Ac yn oes y cardiau-cydymdeimlad bondigrybwyll amheuthun yw darllen y llythyrau cydymdeimlad cynnes hyn. Nid yw'n rhyfedd i Jennie eu copïo mor gymen ac yr wyf yn siwr iddi droi atynt laweroedd o weithiau yn ei hiraeth ar lethrau'r Mynydd Du gefn gaeaf a'r eira'n hel a sugno cysur ohonynt. Er mai angau yw'r unig beth sicr yn hyn o fyd, cael ein synnu a wnawn o hyd pan glywn am farwolaeth rhywun. Nid ydym yn cynefino dim ag ef. Pery'n fythol newydd. Ond dywaid y llythyrau hyn ddau beth am angau sy'n dragwyddol gyfoes: mai'r unig ateb iddo yw Duw a bod dau beth na all ef-er ei raib anniwall a'i greulondeb didostur yn ein golwg ni yn aml byth eu cymryd oddi arnom, ein hatgofion a'n gobaith. Dyna ddigon i neb wyneb yn wyneb â phrofedigaeth. Rhof y llythyrau'n ddiogel yn y drôr. Ni welais Lyfr Du Caerfyrddin erioed, na Llyfr Gwyn Rhydderch, na Lyfr Coch Hergest o ran hynny, ond gallaf frolio bellach fod "Llyfr Llwyd Gwynfe" yn fy meddiant i. Un o glasuron anghyhoeddedig y traddodiad Cristionogol Cymraeg, yn ddiau.