Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Can mlynedd yn ôl i'r llynedd cyhoeddwyd y gyfrol Lux Mundi. Yn yr ysgrif hon y mae'r Athro Emeritws Dafydd Jenkins yn trafod cyfraniad pennod o'r gyfrol honno i'n dealltwriaeth o ysbrydoliaeth y Beibl. YSBRYDOLIAETH AC AWDURDOD DAFYDD JENKINS Gyda chyhoeddi erthygl Dr. Brynley Roberts yn Cristion Gorffennaf/Awst, gellir cyfrif fod dathlu Beiblaidd 1988 ar ben. Gan fod pob Cristion yn parchu'r Beibl, a phob Cymro call yn cydnabod gwasanaeth y Beibl Cymraeg i'r genedl, yr oedd yn iawn inni, yn ystod y dathlu, ymwrthod â thrafod yn fanwl yr amrywiol agweddau sydd gennym at ysbrydoliaeth ac awdurdod y Beibl. Ond wedi i'r dathlu fynd heibio, mae'n iawn inni geisio cael gweledigaeth eglurach ar y pwnc ac yn y llith hwn mae un Eglwyswr lleyg yn rhoi ar bapur amlinelliad o agwedd at y Beibl sydd, gobeithio, o fewn terfynau uniongrededd Anglicanaidd (sy'n ddigon llydan i gynnwys agweddau eraill hefyd). Ac i Eglwyswr mae'n briodol gwneud hynny yn 1989 am mai yn 1889 y cyhoeddwyd Lux Mundi, ac mai traethawd golygydd y casgliad, Charles Gore, The Holy Spirit and Inspiration, a ddenodd fwyaf o feirniadaeth y pryd hwnnw. Dilyn Gore o hirbell y byddir yma. YSGRYTHUR A THRADDODIAD Ond cyn mynd ymhellach rhaid sôn am y cyferbyniad a wneir mor aml rhwng agweddau gwahanol garfannau Cristnogol, fod rhai'n rhoi'r flaenoriaeth i draddodiad yr Eglwys, ac eraill yn honni dibynnu ar y Beibl yn unig. Mae'r cyferbyniad yn gamarweiniol: yn un peth yn natur pethau mae'n amhosibl seilio awdurdod unrhyw ddogfen ar gynnwys y ddogfen ei hun. Ac yn bwysicach efallai, traddodiad yr Eglwys yn unig a ddysgodd inni fod arbenigrwydd i'r Beibl: yn wir, yr Eglwys a greodd y rhan fwyaf arwyddocáol o'r Beibl Cristnogol drwy ddyfarnu fod rhai gweithiau Cristnogol i'w cyfrif yn Ysgrythur. Ac os atebir fod y "traddodiadolion" wedi mynnu datblygu traddodiad, rhaid ateb fod y "Beiblyddion" hefyd wedi gwneud hynny, drwy fwrw allan yr Apocryffa o'r Beibl, a thrwy ddatblygu ffurfiau newydd o wasanaeth crefyddol. Ac wrth gwrs, ni ellir dangos yn y Beibl awdurdod dros waith yr Eglwys yn cadw'r Sul yn Ddydd yr Arglwydd yn 11e'r Sadwrn, na'r rhithyn lleiaf o awdurdod dros droi Dydd yr Arglwydd yn Saboth Phariseaidd fel y gwnaed mor aml ym Mhrydain. Fe gymerodd y Beiblyddion ryddid llawn i ddatblygu traddodiadau newydd wrth ddehongli'r Beibl, ac i'r graddau y bu hynny'n foddion i ddeall Duw yn well, roedd hynny i'w ganmol. Dichon yn wir mai dyna'r rheswm na wnaeth yr Eglwys erioed agwedd arbennig ar yr Ysgrythur yn fater dogma pwynt y mae Gore yn ei bwysleisio. Wrth ddechrau ystyried awdurdod y Beibl mae'n naturiol i Eglwyswr ddyfynnu'r colect am yr Ail Sul yn Adfent: Y gwynfydedig Arglwydd, a beraist fod yr holl Ysgrythur Lân yn ysgrifenedig i'n haddysgu ni, dyro i ni yn y fath fodd ei gwrando, ei darllen, ei chwilio, ac ymborthi arni,fel y daliwn ein gafael yn wastadol yng ngobaith bendigedig y bywyd tragwyddol ond gellir cymryd y geiriau yna'n garn i lawer dehongliad o'r Beibl o'r eithaf llythrennol i'r eithaf modernaidd. Go brin, fodd bynnag, y mae neb bellach yn barod i honni fod holl lyfrau'r Beibl wedi'u harddywedyd air am air gan yr Ysbryd Glân, ond fel glywir o hyd ddigon o drafod ar benodau cyntaf Genesis fel petaent yn hanes ffeithiol dibynadwy. Mae'r llythrenoliaeth yma'n boblogaidd iawn yn yr Unol Daleithiau, a syndod i ddarllenydd ym Mhrydain oedd gweld yr Americanwr Michael J. Christensen, awdur C.S. Lewis on Scripture, yn rhoi cymaint ofod i egluro nad oedd Lewis yn llythrenolydd, er mor gadarn oedd ei afael ar hanfodion traddodiadol Cristnogaeth. Ni wnaeth yr Eglwys erioed agwedd arbennig ar yr Ysgrythur yn fater dogma. I'r Americanwr, rhyddfrydwr oedd Lewis; ond pan soniais rywdro wrth ddiwinydd o Gymro am feirniadaeth Lewis ar Bultmann, fe'm hatebwyd fod Lewis braidd yn geidwadol. Gwir hynny, wrth gwrs, a da hynny, oherwydd dylid cadw'r hyn sy'n dda. Ond yn ei hanfod, nid am fod Lewis yn geidwadol yr oedd e'n beirniadu Bultmann, eithr am fod ysgolheictod Bultmann yn ddiffygiol. Nid ei ysgolheictod arbenigol Beiblaidd, wrth gwrs, ond ei ysgolheictod llen yddol: roedd ef wedi methu adnabod gwahaniaeth rhwng y gwahanol ffurfiau o lenyddiaeth sydd yn y Beibl yn union fel y llythrenolydd, ond o chwith. Lle'r oedd y llythrenolydd yn trin y cwbl fel hanes, roedd Bultmann yn trin y cwbl fel myth, ac roedd Lewis, gyda phrofiad oes o astudio amrywiol ffurfiau llenyddol (ac o hoffter arbennig at fyth a chwedl), yn llygad ei Ie wrth gollfarnu Bultmann am fethu gweld y gwahaniaeth naws rhwng Efengyl Ioan a rhannau cyntaf Genesis.