Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Charles Gore oni fuasent yn dychmygu'r Iesu'n esgyn yn uwch uwch nes mynd yn anweledig? Ond o ddifrif, os derbynnir fod yr Iesu wedi atgyfodi, a'i fod yn ddiweddarach wedi gadael y ddaear yn derfynol, onid yw'n naturiol tybio iddo ymadael â'i ddisgyblion mewn ffordd arbennig o bendant, er mwyn dangos na fyddai'n ymddangos eto nes iddo ddod mewn gogoniant? YR YSBRYD YN TYWYS Dyna ddigon o fanylu; ond wedi'r manylu carwn awgrymu ffordd ychydig yn wahanol o edrych ar holl gwestiwn ysbrydoliaeth yr Hen Destament- ffordd sy'n llai difrifol na'r ffordd draddodiadol, ond nad yw'n llai o ddifrif. Lie y buwyd yn meddwl yn unig am yr Ysbryd Glân yn tywys yr awduron unigol i sgrifennu, dylem hefyd gofio mai ef "a arweiniodd yr Eglwys i dderbyn yr hyn a ysgrifennwyd" a meddwl amdano'n tywys y rhai a gynullodd yr Hen Destament, y rhai (pwy bynnag oeddent) a benderfynodd roi bri neilltuol ar y detholiad arbennig hwnnw o lenyddiaeth Israel. Fe ddaw ergyd y syniad yn eglurach os meddylir am lyfr arbennig, sef Caniad Solomon, llyfr y buasai rhai gweinidogion heddiw wedi'i fwrw allan o'r Beibl-er i hynny olygu na chawsem rai o emynau gorau Ann Griffiths. Hen draddodiad, wrth gwrs, yw cyfiawnhau cynnwys Caniad Solomon yn y Beibl drwy ei wneud yn alegori o berthynas y credadun â Duw neu'r Iesu, ac mae'r dehongliad hwnnw'n ddigon cyfreithlon. Ond mae hen draddodiad arall yn dweud y dylid darllen unrhyw ran o'r Beibl yn ei ystyr naturiol cyn rhoi dehongliad arall arni, ac i mi mae gwaith yr Ysbryd Glân yn peri cynnwys Caniad Solomon yn yr Hen Destament yn golygu cysegru'r berthynas cnawdol rhwng mab a merch. Mae hynny yn ei dro'n golygu fod gofyn rhoi sylw arbennig o ofalus i'r cyd-destun wrth ddehongli syniadau Paul am y pwnc; ond ni ellir dilyn y trywydd ymhellach yn awr. Gellir bellach geisio crynhoi'r safbwynt a gyflwynwyd yma mewn dau osodiad. Ar y naill law, mae'n gyson â'r egwyddor wyddonol i agnostig neu anffyddiwr ddweud nad yw'r dystiolaeth Feiblaidd yn ddigon cadarn i'w argyhoeddi fod yr Iesu wedi esgyn o'r ddaear yn union fel y dywedir. Ar y llaw arall, mae'n anghyson â'r egwyddor wyddonol i neb ddweud nad oes modd i'r adroddiad fod yn wir am ei fod yn anghyson â phatrwm ffeithiol y byd gweledig. Mae'r sawl sy'n derbyn yr Esgyniad yn ei gyfrif yn oruwchnaturiol, ond nid yw'r goruwchnaturiol yn annaturiol: perthyn y mae i natur uwch, nad yw'n gweithredu'n feunyddiol ym myd y natur cyffredin. Ond gan fod y natur uwch hwnnw yn yr Iesu, roedd yn hollol naturiol iddo ef gyflawni gwyrthiau a fyddai'n goruwchreoli deddfau natur gyffredin y byd hwn. Ac wedi hyn oll, gobeithio y gallwn oll gytuno fod gan y Beibl rywbeth amrhisiadwy i'w roi inni, os gofalwn beidio â'i addoli yn lle'r Duw a'i rhoddodd inni. A chofiwn hefyd wers y mae Gore yn ei phwysleisio: We are to put ourselves to school with each in turn of the inspired writers At starting each of us, according to his predisposition, is conscious of liking some books ofScripture better than others. This, however, should lead us to recognise that in some way we specially need the teaching which is less attractẁe to us. We should set ourselves to study what we like less, till that too has had its proper effect in moulding our conscience and character. It is hardly possible to estimate how much division would have been avoided in the Church if those, for example, who were most ecclesiastically disposed had been at pains to assimilate the teaching of the Epistle to the Romans, and those who most valued "the freedom of the Gospel" had recognised a special obligation to deepen their hold on the Epistles to the Corinthians and the Pastoral Epistles and the Epistle of S. James. (Lux Mundi t.256). YN ÔL I BENDREF (Yn ystod Pererindod Ann Griffiths i Ddolwar Fach, cawsom wasanaeth yng Nghapel Pendref, Llanfyllin, lle'r awn yn am/ yn hogyn. Gofynnodd Nia Rhosier imi ddarllen darn a 'sgrifennais wrth fyfyrio ar yr hen gapel). A welaf eto'r fan y bu i ni Gyfarfod gynt dan wenau ieuanc ras? A glywaf hen, hen wres dy eiriau Di Yn dawel dreiddio, fel yn oriau'r clas, Y fron IIe'r wyt o hyd? A oes rhyw awr LIe nad yw'r eitha'n bod? Ac a oes IIe Sy'n cynnal ar y ddaear yma 'nawr Ryw fymryn mwy o oriau maith y Ne'? Ai dyma'r fan lle bu i lawer un Gyfarfod â'r cyffyrddiad nad yw'n bod Ond yn yr hyn nas teimlir? Hedd ei hun Oedd y cyffyrddiad mawr, a dyma nod Y babell IIe bu rhywrai yn gwneud nyth, Yn dechrau canu cân a genid byth. Alun Idris