Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dad pob daioni a Rhoddwr pob dawn; rhoddaist i ni ddyhead i'th geisio, nerth i'th wasanaethu, anadl i'th foliannu a lleferydd i sôn amdanat: cynorthwya ni i ddefnyddio'r doniau hyn i offrymu i ti fawl ac addoliad, ac i ymroi yn ffyddlon i'th waith. Dywedodd Iesu, "Pwy bynnag sydd amfod ynfawr yn eich plith, rhaid iddofod yn was i chwi,fel Mab y Dyn na ddaeth i gael ei wasanaethu ond i wasanaethu". Rhown ddiolch i Dduw am iddo ein dysgu yn Iesu Grist ystyr ac urddas gwasanaeth Diolchwn i ti, O Dduw, am bob gweledigaeth o'th wirionedd a roddaist i ni yn dy Fab Iesu Grist: Diolchwn i ti am iddo fynd o amgylch gan wneud daioni, a gwasanaethu'r gwan a'r anghenus; Diolchwn i ti am iddo'n dysgu i garu'n gilydd, ac am iddo roi inni esiampl o ostyngeiddrwydd a gwasanaeth wrth olchi traed ei ddisgylion; Diolchwn i ti am iddo gymryd arno agwedd gwas, a rhoi ei hun mewn cariad a thosturi drosom. O fyfyrio ar ei wyleidd-dra, cymorth ni i weld y gogoniant sydd mewn gwasanaeth a'r urddas a berthyn i'r isel rai. Dywedodd Iesu, "Os yw dyn yn fy ngwasanaethu i, rhaid iddo fy nghanlyn i". Gweddiwn am gymorth Duw i ganlyn Iesu a'i efelychu O Dad, cymorth ni i ddilyn esiampl Iesu Grist, ac i ymroi i'th wasanaethu di a'n cyd-ddyn yn dy enw. GORNEL WEDDI GWASANAETH Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn llawenydd, deuwch o'iflaen efâ chân. (Salm 100:2) Yn ddiorffwys eich ymroddiad, yn frwd eich ysbryd, gwasanaethwch yr Arglwydd. (Rhuf. 12:11). Cymorth ni i'th wasanaethu yn ein gwaith beunyddiol, trwy gysegru pob dawn a gallu sydd ynom i ti. Cymorth ni i'th wasanaethu yn ein bywyd a'n buchedd, yn ein geiriau ac yn ein hymarweddiad, fel y bo'n bywydau'n dystiolaeth i ti. Cymorth ni i'th wasanaethu yn dy Eglwys, trwy ymateb i'th alwad i fod yn bobl i ti, a thrwy ymroi i waith dy deyrnas. Cymorth ni i'th wasanaethu trwy estyn cysur a chymorth i'n cyd-ddyn, a thrwy hynny gyflawni cyfraith Crist. Dywedodd Iesu, "Yn gymaint ag i chwi ei wneud i un o'r lleiafo'r rhain, fy mrodyr, i mi y gwnaethoch". Gweddiwn dros bawb sydd mewn angen a phawb sy'n eu gwasanaethu O Dad, cyflwynwn i ti y gorthrymedig a'r newynog; y diymgeledd a'r llesg; y trallodus a'r trist. Gweddïwn dros bawb sy'n gweini arnynt, ac yn gweithio i leddfu poen a gorthrwm: meddygon sy'n iacháu a chysuro, gwyddonwyr sy'n ymchwilio a darganfod, athrawon sy'n dysgu ac arwain; bawb sy'n cyflawni gweinidogaeth Crist y Gwas; a phawb sy'n estyn cydymdeimlad a chymorth i'r unig, y trist a'r anghenus. Bendithia hwy, a chynorthwya ni oll i fod yn gyfryngau dy dosturi i eraill. Cymer ein dwylo a defnyddia hwy yn dy waith; Cymer ein traed a thywys hwy yn dy lwybrau; Cymer ein calonnau a llanw hwy â chariad Crist; Gofynnwn hyn yn ei enw a'i haeddiant ef, ein Harglwydd a'n Gwaredwr. Amen.