Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cylchlythyr y Cyfamod 2 Golygyddol 3 Cyfrifoldeb Cenhadwr 4 Guto Prys ap Gwynfor Cerdd: Bancio ar lesu 4 Einion Evans Llythyr Dychmygol 5 Owen Williams Cytûn ym Mangor 6 Glyn Tudwal Jones Mi Ganwn Eto 7 Dafydd Owen Pa Glefyd? Pa Feddyginiaeth? 9 Gwyn Rees Jones Dyddiadur 1782 11 Mari Ellis Manion Mynegeiriol 14 Owen E. Evans Cerdd: Mair 15 Huw Jones Gwlad yr Addewid 16 Gwyn Davies Anifeiliaid a Chreaduriaid Eraill 17 Norman Closs Parry Gair o'r Gair 19 D. Hugh Matthews Gwyl Gerddi Cymru 20 Derfel: Sosialydd a Llenor 21 Tomos Richards Llythyrau 21 Cwis Ysgrythurol 22 Haydn Davies Troi Bedd yn Grud 22 Elwyn Richards Y Gornel Weddi 23 Cylchgrawn dau-fisol yw 'Cristion' a gyhoeddir gan Fwrdd Cyhoeddi ar ran yr eglwysi canlynol: Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Yr Eglwys Fethodistaidd, Yr Eglwys yng Nghymru, Undeb Bedyddwyr Cymru ac Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Golygydd: E. ap Nefydd Roberts, Y Coleg Diwinyddol Unedig, Aberystwyth SY23 2LT. Ffôn: 0970-624574 neu 828745. Ysgrifau, llythyrau, llyfrau i'w hadolygu i'r cyfeiriad hwn. Cynllunydd: Marian Delyth. Trysorydd: John Williams, Saunton, Maesdu Ave., Llandudno. Cadeirydd y Pwyllgor Rheoli: Maxwell Evans Ysgrifennydd y Pwyllgor: W.H. Pritchard. Cylchrediad a Hysbysebion: Alun Creunant Davies, 3 Maes Lowri, Aberystwyth. Ffôn: 0970-612925 Argraffwyr: Gwasg John Penry, 11 Heol Sant Helen, Abertawe. Cylchlythyr y Cyfamod Yn ddiweddar ymddangosodd rhifyn cyntaf Enfys, cylchlythyr riëwydd yr Eglwysi Cyfamodol yng Nghymru. "Y rheswm dros ei gyflwyno'n awr yw fy mod yn credu y dylai ein heglwysi, yn lleol ac yn genedlaethol, rannu â'i gilydd ac annog ei gilydd i fanteisio'n llawn ar gynnwys ac oblygiadau'r Cyfamod;' meddai'r Parchg. Gethin Abraham-Williams, Ysgrifennydd newydd Comisiwn yr Eglwysi Cyfamodol. Y syniad yw cyhoeddi cylchlythyr ddwywaith y flwyddyn, yn yr Hydref a'r Gwanwyn. AILDDATGAN A CHOMISIYNU Nos Iau, Ionawr 24, 1991 yn ystod yr Wythnos Weddi am Undeb Cristnogol, cynhaliwyd gwasanaeth arbennig yn Eghvys Gadeiriol Aberhonddu i ailddatgan ymrwymiad yr eglwysi i'r Cyfamod ac i Gomisiynu'r Parchg. Gethin Abraham- Williams, yn Ysgrifennydd Cyffredinol i'r Comisiwn. Daeth cynulleidfa niferus i lenwi'r Gadeirlan. Gweinidog Bedyddiedig yw Gethin, yn enedigol o Aberystwyth, a bu cyn ei benodiad yn swyddog ecwmenaidd yr eglwysi yn Milton Keynes. Yn y gwasanaeth defnyddiwyd Trefn Gwasanaeth Cymun yr Eglwysi Cyfamodol, gydag arweinwyr y pum enwad Cyfamodol yn cyd- weinyddu o dan arweiniad Archesgob Cymru. Cafwyd cyfraniadau gan aelodau o Brosiectau Ecwmenaidd Botwnnog a Phentwyn a phregethwyd gan Ddeon Aberhonddu, y Tra Pharchg. Huw Jones. BEDYDD Yn dilyn cyhoeddi Trefn Gweinyddu'r Cymun Bendigaid ar y cyd, cyhoeddwyd yn ddiweddar drefn Gwasanaeth Bedydd a luniwyd ar gyfer bedyddio oedolion trwy drochiad yn ogystal â bedyddio plant trwy daenelliad i'w ddefnyddio'n awr fel y mae'r enwadau yn ei awdurdodi. Ochr yn ochr â threfn y gwasanaeth, cyhoeddir llyfryn yn egluro cefndir a diwinyddiaeth y ddefod. "Gall fod achlysuron pan fydd credinwyr a babanod yn cael eu bedyddio yn yr un oedfa, ac y mae hyn yn pwysleisio undod y sacrament lle mae un ddefod yn cael ei gweinyddu." Bwriad pennaf y drefn newydd yw hwyluso'r ffordd i brosiectau lleol fedru cynnal gwasanaeth bedydd ar y cyd, ond y gobaith yw y bydd hefyd yn symbyliad i eglwysi'n lleol astudio'r ddogfen a symud i gyfeiriad cyd-weinyddiad o'r bedydd. Y mae copïau o'r gwasanaeth a'r llyfryn ar gael o swyddfa'r Comisiwn. CYFAMODAU LLEOL Nid rhywbeth i'r enwadau yn ganolog yn unig yw Cyfamodi. Daw yn fyw pan yw eglwysi lleol yn ei weithredu. Mae'r Cyfamod cenedlaethol yn rhoi fframwaith o gytundebau diwinyddol i hyrwyddo'r ffordd i eglwysi lleol nesu at ei gilydd. Ac nid oes raid i gyfamod lleol fod rhwng eglwysi Cyfamodol yn unig. Yn Ninas Powys, De Morgannwg, ceir cyfamod rhwng yr Eglwys yng Nghymru, yr Eglwys Fethodistaidd a'r Eglwys Gatholig Rufeinig, SUL Y CYFAMOD Nodwyd y Sul cyntaf o Fehefin fel Sul y Cyfamod. Bydd arweinwyr yr Eglwysi Cyfamodol yn cyfnewid pulpudau ac anogir gweinidogion ac offeiriaid lleol i wneud yr un modd, neu i gynnal gwasanaethau ar y cyd. Rhaid dechrau trefnu yn awr. Os nad yw Mehefin 2 yn hwylus, gellir trefnu ar unrhyw Sul cyfleus arall. DARLITH UNDEB 'Nid Dymunol yn Unig, ond Posibl', dyna oedd thema'r ddarlith undeb a noddwyd gan yr Eglwysi Cyfamodol ac a draddodwyd yng Nghaerdydd ganol Hydref. Daeth y syniad o Gyngor Eglwys De India ym Mhrydain a thraddodwyd yr un ddarlith yng Nghaergrawnt a Chaeredin. Y darlithydd oedd y Dr. M. Thomas Thangaraj, Presbyter yn Eglwys Unedig De India ac Athro yng Ngholeg Diwinyddol Tamilnadu, Madurai. 'Roedd hon yn ddarlith gyffrous, yn llawn her i ni yng Nghymru. Y mae'n haeddu ei darllen yn ofalus a'i hastudio gennym. Y mae copïau ar gael o'r swyddfa. Anfonwch i'r cyfeiriad isod: Comisiwn yr Eglwysi Cyfamodol yng Nghymru, Ysgrifennydd Cyffredinol: Y Parchg. Gethin Abraham-Williams, Canolfan yr Eglwys yng Nghymru, Woodland Place, PENARTH, CAERDYDD CF6 2EX. Ffôn: 0222. 705278/708234.