Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GOLYGYDDOL Dadl y rhai sy'n gefnogol i'r rhyfel yn y Culfor yw fod gorchfygu Irac a chael gwared o Saddam Hussein yn amod angenrheidiol ganfod heddwch sefydlog ymhlith gwledydd y Dwyrain Canol ac greu 'Trefn Byd Newydd', (beth bynnag yw ystyr hynny). Ond onid un o wersi amlycaf hanes yw fod rhyfel a'i ganlyniadau bob amser yn rhwystr greu heddwch cyfiawn a pharhaol? Gormes, balchder a dialedd ar y naill law, a siom, cywilydd a chwerwedd ar y llaw arall, dyna fu etifeddiaeth rhyfel erioed ac nid o gyfuniad peryglus o'r fath y mae creu heddwch sefydlog. Cyn mynd ryfel, neu'n hytrach yn lle mynd ryfel, y dylid mynd ati weithredu heddwch. A dyna fu methiant y Cenhedloedd Undedig, a gwledydd y Gorllewin yn arbennig, rhwng Awst y llynedd a dechrau'r flwyddyn hon. Er popeth a ddywedir am fethiant yr ym- drechion diplomyddol, ac ystyfnigrwydd Saddam, ac aneffeithiolrwydd sancsiynau, y gwir plaen yw na wnaed ond y nesaf peth ddim geisio datrys problem Kuwait yn heddychlon. Y mae'n gwbl amlwg erbyn hyn mai bwriad America o'r dechrau oedd torri crib Irac a chael gwared o Saddam Hussein trwy rym arfau. Erbyn hyn, cydnabyddir hynny'n agored gan rai gwleidyddion Americanaidd. Y MUDIAD HEDDWCH Yr unig obaith bellach yw y bydd y rhyfel gorffwyll hwn yn rhoi hwb sylweddol i'r mudiad heddwch ar draws y byd. Gwelwyd ei gryfder yn yr Almaen ac yn rhai o wledydd eraill Ewrop yn ystod y misoedd diwethaf. Ac y mae'n llawer iawn cryfach yn yr Unol Daleithiau nag y caniatéir i'r cyfryngau gydnabod. Y mae pob tystiolaeth bod eglwysi America (ar wahân enwadau ffwndamentalaidd taleithiau'r De), yn gwbl wrthwynebus i bolisi'r Arlywydd Bush. A diolch am arweiniad clir a chadarn y Pab loan Paul. Tybed nad ydym, o'r diwedd, yn dechrau gweld pobl o ewyllys da ym mhob man yn datgan bod angen yr un ymroddiad a phenderfyniad greu heddwch ag a amlygi'r gan arweinyddion y pwerau mawr a'u peiriannau militaraidd drefnu a chynnal rhyfel? RHODD A HER Yn ei drafodaeth werthfawr ar ystyr y gair eirene yn y golofn Gair o'r Gair yn y rhifyn ARWAIN "Troi cleddyfau yn sychau" hwn, y mae'r Athro Hugh Matthews yn defnyddio'r ymadrodd 'dangnefedd- weithredwyr' ddisgrifio cyfrifoldeb gweithredol Cristnogion greu heddwch. Y mynach Thomas Merton a ddywedodd, "Rhodd Duw yw heddwch, ond rhodd a gyflwynir inni i'w rhannu ag eraill." Dywed Paul mai rhodd anhaeddiannol Duw ni yng Nghrist yw heddwch ag ef ei hun: 'ef yw ein heddwch ni' (Effes. 2:14). Ond ar yr un pryd, dywed fod heddwch yn waith i'w gyflawni, yn her i ni ymateb iddo: 'Gadewch ni, felly, geisio'r pethau sy'n arwain heddwch, ac yn adeiladu perthynas gadarn â'n gilydd" (Rhuf. 14:19). Bu digon o drin a thrafod ar weithredu heddwch ar lefel perthynas bersonol. Gwyddom fod gostyngeiddrwydd, amynedd, tosturi, goddefgarwch, maddeu- ant, dysgu deall a derbyn pobl fel ag y maent, ymhlith y 'pethau sy'n arwain heddwch' yn ein hymwneud â'n gilydd o ddydd ddydd o fewn teulu a chymdogaeth a gwaith. PERTHYNAS CENHEDLOEDD Y cwestiwn nad yw wedi ei ystyried gyda'r un difrifoldeb yw sut y dylid gweithredu heddwch ym mherthynas cenhedloedd â'i gilydd mewn sefyllfa o anghydfod. Ond y mae rhai gwersi amlwg yn dod i'r golwg o ystyried trychineb y Culfor. Yn gyntaf, rhaid sicrhau nad yw'r Cenhedloedd Unedig yn disgyn afael un neu ragor o'r pwerau Gorllewinol cryfion. Cyhuddiad y gwledydd Arabaidd yw mai cyfrwng orfodi ewyllys a pholisîau'r Unol Daleithiau yw'r Cenhedloedd Unedig, ac nid yw'r cyhuddiad yn gwbl ddi-sail. Yn ail, rhaid i'r Cenhedloedd Unedig ystyried yn fwy gofalus sut y dylid gweithredu'n ddiplomyddol i drafod a cheisio datrys argyfwng, a phwy a ddylai drafod ar eu rhan. Camgymeriad o'r mwyaf oedd ildio America, o bob gwlad, y dasg ddiplomyddol o drafod ag Irac. Oni ddylid fod wedi dewis ac awdurdodi cynrychiolwyr swyddogol o nifer o wledydd niwtral y byddai Saddam wedi bod yn barotach wrando arnynt ac drafod â nhw? Yn drydydd, rhaid llunio canllawiau mwy cadarn weithredu sancsiynau. Dengys y datblygiadau yn Ne Affrica y gall sanc- siynau economaidd fod yn arf effeithiol fel mynegiant o bwysau moesol ar wlad- wriaeth ormesol, ond cael cytundeb a rheolaeth gadarn i'w gorfodi, a chaniatáu amser ac amynedd iddynt ddechrau brathu. Yn bedwerydd, rhaid gwahardd, neu o leiaf, gwtogi ar a rheoli'r fasnach arfau. Rhagrith yw i ni alw Saddam yn ail Hitler ac yn ddihiryn gorffwyll. Hyd at fis Awst diwethaf yr oedd yn cael ei ystyried yn gyfaill, a gwerthwyd miliynau ar filiynau o bunnoedd o arfau iddo gan Brydain, Ffrainc a Rwsia, er ei fod ar yr un pryd yn difa'r Kurdiaid ac yn gormesu ei bobl ei hun. Y fasnach rydd Orllewinol mewn arfau rhyfel a roddodd ddannedd Saddam Hussein yn y IIe cyntaf. Hollol ofer yw siarad am greu heddwch sefydlog ac ar yr un pryd ganiatáu gwmnïau Gorllewinol besgi ar werthu arfau unrhyw gwsmer â'r arian ganddo dalu amdanynt. HADAU RHYFEL Ond nid y fasnach arfau yn unig sy'n hau hadau rhyfel. Yn fwy sylfaenol o lawer, ac yn fwy o fygythiad na dim arall heddwch y byd, yw'r diffyg cydbwysedd economaidd rhwng y Gorllewin cyfoethog a'r Trydydd Byd. Y rheswm pennaf dros y rhyfel yn y Gwlff yw ein penderfyniad yn y Gorllewin ddal ein gafael, costied a gostio, ar olew rhad Kuwait redeg ein ceir, ein sustemau gwres canolog a'n diwydiannau. Er bod athroniaeth Karl Marx o dan gwmwl ar hyn o bryd, ni allwn fforddio anghofio un o'i wersi pwysicaf, sef mai anghyfiawnder economaidd yw achos pob rhyfel. Yn hyn o beth 'does gennym ni yn y Gorllewin ddim modfedd o dir moesol dan ein traed ddweud y drefn am Saddam Hussein yn rheibio adnoddau gwlad ddiamddiffyn Kuwait. Y mae Prydain, a gwledydd eraill y Gorllewin boliog, wedi bod wrthi'n rheibio adnoddau gwledydd tlawd y byd ers blynyddoedd. Dyma rai ystyriaethau y mae nifer o rai eraill bid siwr-sydd ymhlith y 'pethau sy'n arwain heddwch' ym mherthynas cenhedloedd â'i gilydd. Yn sicr, ni ellir canfod heddwch parhaol na sefydlog yn y Dwyrain Canol nag yn unman arall, heb fynd i'r afael â'r problemau sylfaenol hyn. E. ap N.R.