Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Annwyl Owen Evans, Buasai'n anghwrteisi o'r mwyaf ar fy rhan i ymatal rhag anfon gair atoch chwi a'r Panel o gyfieithwyr, i fynegi fy niolchgarwch ac i'ch llongyfarch am eich gwaith clodwiw o gyflwyno i'r genedl gyfieithiad cyfoes o'r Beibl Cymraeg. Gallaf yn hawdd gredu i bob un ohonoch gael llawer o hyfrydwch wrth arfer eich ysgolheictod a hefyd, mae'n siwr, fesur helaeth o flinder corff ac ysbryd. Bu'r cyfan yn waith cyfewin ac yn llafur cariad drudfawr. Gyda threigl diaros y blynyddoedd, credaf fwyfwy yn rhagluniaeth Duw. Oherwydd daw i holl gylchoedd bywyd ar hyd yr oesau gydgyfarfyddiad o eneidiau dethol, gan adael eu delw a'u hargraff, nid yn unig ar eu cenhedlaeth, ond ar y cenedlaethau sy'n canlyn yn ogystal. Yn ddigwestiwn, wedi i bedair canrif fynd heibio oddi ar y cyflwynais i'm cenedl y cyfieithiad Cymraeg cyntaf o'r Ysgrythurau achlân, ac i'r Dr. John Davies a'r Esgob Richard Parry gyhoeddi fersiwn diwygiedig ohono ym 1620, daeth yn gyflawnder yr amser i ymgymryd â'r gorchwyl o'i ddiweddaru. Mae'r cynnydd disglair mewn gwybodaeth Feiblaidd ac ysgolheictod yn hawlio hynny. Ac wrth gwrs mae geirfa, cystrawen ac orgraff, fel popeth arall, yn newid gydag amser. Gwir a ddywedwyd mai proses ddiderfyn yw'r dasg o gyfieithu'r Ysgrythurau; nid oes y fath beth â geiriau anffaeledig. Rhaid i mi gyffesu, Owen Evans, fe'm syfrdanwyd gyda'r fath gyhoeddusrwydd a gefais dros Flwyddyn y Dathlu. Rhyfeddod prin oedd canfod llun golygus ohonof fi fy hunan ar stampiau post y Llywodraeth. Elisabeth yr Ail yn rhoi mwy o gyhoeddus- rwydd i mi nag a roddodd Elisabeth y Gyntaf! A bod defnyddio y fath bethau yn ei chyfnod hi, heb unrhyw amheuaeth, llun yr Arglwydd Howard o Effingham fyddai arnynt y dwthwn hwnnw, oherwydd ym mis Awst 1588 cyfarfu teyrnas Lloegr yn Eglwys LLYTHYR DYCHMYGOL ODDI WRTH YR ESGOB WILLIAM MORGAN AT. Y DR. OWEN E. EVANS OWEN WILLIAMS Gadeiriol Sant Paul i ddiolch am fuddugol- iaeth ei dactegau clyfar ar y môr dros Armada'r Brenin Phylip II o Sbaen. Ac er i'm cyfeithiad o'r Beibl Cymraeg gael ei argraffu o fewn ergyd carreg i Eglwys Sant Paul y mis Medi canlynol, nid oedd yna siawns o gwbl i'r digwyddiad hwnnw gael y mesur lleiaf o sylw. Ac wrth gwrs, yn ychwanegol at y stampiau post, gwelwyd hefyd fedalau arian ac efydd, platiau coffadwriaethol, Cannwyll y Cymro o faintioli palmwydden ar daith trwy Gymru, a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gwario miloedd ar filoedd ar adnewyddu Tý Mawr. Ac i goroni'r cyfan, chwithau'n gwerthu ymhell dros hanner can mil o gopïau o'r Beibl Cymraeg Newydd mewn dim amser. Hyn oll, a llawer rhagor o gyhoeddiadau a digwyddiadau byrlymus dros Flwyddyn y Dathlu. Yn wir yn wir, Owen Evans, 'rwy'n methu'n lân a deall, gan fod Eglwysi Cymru wedi ymateb mor arbennig o dda dros Flwyddyn y Dathlu, beth yn y byd mawr sydd i gyfrif fod cyflwr yr Eglwysi mor frawychus o ddrwg? Llai na naw y cant yn mynd i unrhyw le o addoliad. Wedi'r cyfan, fe'm cyflyrwyd i gredu fod fy nghydgenedl wedi hen ollwng fy enw a'm llafurwaith i ebargofiant; mynegwyd hynny gan un o'n poetau ni ein hunain: Oni welwch chi wareiddiad William Morgan Ar ei hers biwritanaidd Yn diflannu heibio i'r drofa draw? A drych o dristwch yw cyflwr Bethania: Hen orsaf wag A phosteri'r wibdaith Yn fflipfflapian yn y cyntedd, Yn cyhoeddi cwrdd y Gymdeithasfa Flwyddyn 'nôl. 'Rwyf o'r farn i werin Cymru ddoe drafod tlodi a chaledi gyda mwy o urddas a hunan- barch nag y llwydda'r werin heddiw i drafod arian ac amser da. Pa mor anllythrennog bynnag oedd y werin honno y cyflwynais i'r Beibl Cymraeg iddi: Hwy oedd y deri Nas diwreiddiwyd Gan wyntoedd caledi. 'Roedd eu defnyddiau'n drychinebus o brin, ond fe berthynai i fwy na thraean ohonynt ddyhead calon i fod yn llyth- rennog. 'Does dim prinder defnyddiau bellach, y dyheu sy'n brin heddiw. Nid oes iaith nac ymadrodd a ddichon gyfleu'r gwahaniaeth anhygoel sydd rhwng cyflwr cenedl y Cymry yn oes Elisabeth y Gyntaf a'i chyflwr yn ystod oes Elisabeth yr Ail. A chystal imi gydnabod, tra wrth y gwaith o gyfieithu fe'm goddiweddwyd gan deimlad o oferwaith fy holl lafur gan mor ddi-ddysg oedd trwch y boblogaeth. 'Roedd fy ffydd yn rhy wan i'm galluogi i ddirnad fod Gruffydd Jones a Thomas Charles `wedi eu rhagluniaethu yn ôl arfaeth yr hwn sydd yn gweithio pob peth wrth gyngor ei ewyllys ei hun. A ryfeddwn i ddim na ddaeth heibio i chwi fel Panel sawl ymhwrdd o amheuon a digalondid dros y cyfnod o chwarter canrif y buoch yn trefnu, yn paratoi ac yn cyhoeddi fersiwn o'r Testament Newydd ym 1975, fersiwn o'r Salmau ym 1979 a fersiwn y Beibl Cymraeg Newydd gan gynnwys yr Apocryffa ym 1988. Bu'r cyfan yn weithred o ffydd yn atgyfodiad yr Eglwys trwy genhadaeth Duw yn y Gymru gyfoes. Anwybodaeth y werin a'm diffygiai i; ei hanghrediniaeth a'ch llethai chwi. Credaf, Owen Evans, fod Duw wedi gweld yn dda wneuthur llestri etholedig ohonoch chwi a'r Panel, a'm gweddi yw am i'w fendith Ef orffwys ar bawb fydd yn ymroi i fyfyrio Y Beibl Cymraeg Newydd. I Dduw yn unig y bo'r gogoniant, trwy Iesu Grist. Yr eiddoch yn gywir, WILLIAM MORGAN Cyn ymddeol i Dal-y-bont, Ceredigion, bu'r Parchg. Owen Williams yn weinidog yn Sardis, Ystradgynlais, a Chapel Nonni a Bethel, Dre- Fach, Llanybydder.