Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hanes gwasanaeth lansio a thystiolaeth gyhoeddus nodedig CYTUN YM MANGOR GLYN TUDWAL JONES Ar wahân i'r sylw a gafodd cyfarfod cyntaf Cytûn, a hynny oherwydd mater y Gwlff, mae llawer ohonom yn teimlo mai rhyw ddelwedd isel iawn sydd gan y cyfrwng ecwmenaidd newydd. Fawr o sôn wedi bod am arwyddocâd y newid o'r hen Gyngor Eglwysi Cymru, y pwyslais newydd ar y lleol a'r cyfle i gyd-gerdded gydag eglwysi eraill-y Pabyddion yn arbennig. Bu cwyno mai ychydig o wybodaeh sydd wedi treiddio lawr trwy'r enwadau a'r peirianwaith cyd-eglwysig fel ei gilydd. O bosib bod sail i'r gwyn honno. Dim cyfarwyddyd o fath yn y byd i'r cang- hennau IIeol. Dim awgrym y dylent newid eu henw mwyach o 'Gyngor Eglwysi 'Cytûn TYFIANT O'R GWAELOD Wrth gwrs fe ellid dadlau mai dyma holl bwynt y newid. Llai o bwyslais ar y canolog a mwy ar y lleol; tyfiant ynghyd yn codi 'o'r gwaelod' yn lle'i fod yn disgyn 'oddi uchod'. Ar y naill law dyna gryfder a bendith yr offeryn newydd, ond ar y llaw arall dyna'i wendid hefyd. Y gwendid hwnnw a amlygwyd mewn ffordd arall yn y cyfarfod cyntaf hwnnw yn Aberystwyth nes gadael rhyw hiraeth am yr arweiniad ardderchog a roddodd Cyngor Eglwysi Cymru am dros ddeng mlynedd ar hugain. Gyda hyn oll mewn golwg, penderfynodd Pwyllgor Gwaith Cytûn Bangor (do, rydym wedi newid ein henw!) y dylem wneud rhywbeth gwahanol, bywiog ac amlwg i lansio'n hunain yn y ddinas. Credwn inni daro ar syniad ffres, sef cyfuno gwasanaeth i lansio Cytûn ym Mangor â gwasanaeth Adfent. RHANNU GOLEUNI Daeth cynrychiolaeth dda ynghyd i'r Eglwys Gadeiriol ar nos lau, 13 Rhagfyr, erbyn 6.00 o'r gloch. Bu cyfle i ganu rhai o emynau'r tymor yn Gymraeg a Saesneg ac i wrando ar ddarlleniadau addas. Cafwyd hefyd eitemau hyfryd gan gôr y Gadeirlan. Cyn terfyn y gwasanaeth daeth cynrychiolydd o bob cynulleidfa Gristnogol Llywydd ac Ysgrifennydd Cytun Bangor, Capten David Emery a'r Parchg. Ronald Keating, yn torri'r gacen. trwy'r ddinas ymlaen i'r allor. Wrth bawb gyd-ddarllen datganiad Cytûn a'r Alwad Undeb, cyneuwyd cannwyll fawr a logo Cytûn arni Oddi wrth hon, cyneuodd pob cynrychiolydd ei gannwyll ei hun a chario'r goleuni at y gynulleidfa. Erbyn hyn roedd yr eglwys i gyd yn olau a heidiodd y gynulleidfa allan ac lawr y Stryd Fawr yng ngolau'r canwyllau, yn parhau ganu carolau. Roedd hi'n noson siopa Nadolig hwyr ym Mangor, ac wrth inni ganu o amgylch cloc y dref, rhoesom ychydig o dystiolaeth gyhoeddus i'n ffydd gyffredin. Rhan olaf y noson oedd parti yn yr Hen Ficerdy ar ei newydd wedd. Roedd teisen arbennig yno wedi ei gwneud yn arbennig ar gyfer y noson a logo Cytûn arni. Felly y daeth noson hapus, hwyliog i ben, a dechrau ar bennod newydd ym mhererin- dod yr eglwysi ynghyd. Y Parchg. Glyn Tudwal Jones yw gweinidog eglwysi Twr-gwyn a Hirael, Bangor (P). YR ENCIL GYMRAEG ENCIL GYDYMAITH Coleg Trefecca, Ebrill 9-11 (prynhawn Mawrth i amser cinio ddydd lau) Arweinwyr: Cynthia a Saunders Davies, Enid Morgan Y Gost: £ 28 I gadw IIe a chael mwy o fanylion ysgrifennwch at, neu ffoniwch Y Parchg. Enid Morgan, Y Ficerdy, Llanafan, Aberystwyth, SY23 4SAX (097-43-253)