Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Er y galw am emynau cyfoes 'does neb yn awyddus i fentro'u profi yn ôl y Mae rhywbeth yn dweud wrthyf y byddaf yn gofidio, yfory, imi anfon yr ysgrif fach hon heddiw! Fy nghysur yw gwybod y bydd y sawl a'm hadnebydd hwythau yn gwybod mai'r unig symbyliad tu cefn iddi, er ei bod mor bersonol, yw'r awydd am weld defnyddio ar ychwaneg o emynau. Y cymhelliad anfon oedd ysgrif y Parchedig F.M. Jones ar Lliw Pechod yn rhifyn lonawr/Chwefror o Cristion. Meddai: 'Er fod gennym ym mhob enwad doreth o emynau, sylwais ein bod wedi mynd ganu nifer fach iawn ohonynt o hyd ac o hyd. Ceir 'Tydi a wnaeth y wyrth' ar y dôn 'Pantyfedwen' mewn priodas ac angladd a gwasanaeth diolch am y cynhaeaf ac ymweliad esgobol a chymanfa ganu byth a hefyd.' Emyn apelgar arall yw un gwladgarol y diweddar Barchedig Lewis Valentine i'r 'Winllan Wen' ar y dôn 'Finlandia.' Gan ein bod yn ei glywed bob yn ail Sul, amheuthun oedd gwrando gweddi ar ran y byd cyfan yn cael ei chanu ar y dôn yn yr oedfa a ddarlledwyd bore ddoe (4.2.91). Ameniaf eiriau F.M.J. y dylem ehangu peth ar ein dewis o emynau, a cheisio profi peth ar y pwynt o'm profiad bach (a'm cynnyrch) fy hun. Prifardd Dafydd Owen, Bae Colwyn. DAFYDD OWEN Fe ganodd Jane Hughes, Rhydwyn, y gelwid Christmas Evans yn 'dad yn y ffydd' iddi, emyn i'r 'Bank a gadd ei agor/Rhwng y Iladron ar y groes.' Cyn gwybod am yr emyn hwn, cenais innau un 'Fane cymdeithasgarwch' (Cerddi Lôn Goch, 1983). Tybed ai yr un croeso a gafodd ei hemyn hithau. "'Chanith o byth!" PRINDER EMYNAU CYFOES? Dros ugain mlynedd yn ôl, ar gais Cyngor yr Ysgolion Sul, cyfieithais gyfrol caneuon crefyddol modern Faith, Folk and Clarity (Galliard Limited, Great Yarmouth, Norfolk). Ni chafwyd y nawdd disgwyliedig yn ariannol gyhoeddi'r cyfieithiad cyfan, ond ymddangosodd ambell un o'r trigain a mwy o ganeuon yn llyfryn Diolch i Ti y Cyngor yn 1971. Cofiaf y cwyno yng nghyfarfodydd y Pwyllgor oherwydd prinder emynau cyfoes, ar gyfer yr ifanc yn enwedig. (Yr un oedd symbyliad y pwyllgora brwd a gafwyd ychydig cyn hynny ynglŷn â'r cyfieithiad ysgrythurol, Y Ffordd Newydd.) Erys y gwyn hyd heddiw a'r holi am 'emynau cyfoes', ond pan gynigir rhai, 'does neb yn awyddus fentro'u profi. Yn Eisteddfod Maldwyn (1965), gofynn- wyd am 'Emyn Heddwch.' Cafwyd rhyw hanner cant o emynau a dyfarnodd Yr Athro Pennar Davies emyn hyfryd y diweddar Barchedig Robert Owen, (rhif 852 yn Atodiad y Methodistiaid Calfinaidd a'r Wesleaid), ac emyn a luniais innau yn gydradd gyntaf. Meddai am f'emyn: 'Bardd y gystadleuaeth yw 'Gareth B', ond ni Iwyddodd i'm hargyhoeddi'n llwyr mai emynydd ydyw. Dyma bennill a ddengys ei awen: Hwn ydyw'r byd lle trengaist gan ein gwendid; 0, doed dy heddwch yn wanwynol wynt, Yn gawod ir a ylch ein holl aflendid, Er mwyn y cerdded sanctaidd hwnnw gynt.