Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Fe garwn ei anrhydeddu am ymadael â 'r rhigolau ac ar yr un pryd rhoi inni gân sydd â mwy o angerdd addoliad ynddi nag yn ein holl ddiwinyddiaeth ffasiynol i gyd.' Lluniwyd tôn ('Bethel') ar gyfer y geiriau gan yr Athro Cerdd o'r Wyddgrug, Mr. J. Ceurwyn Evans, ac ymddangosodd y geiriau a'r dôn yn y 'Caniedydd teuluol' 0 dy i Dŷ, (Canolfan Addysg Grefyddol, Bangor, 1985.) Pa un bynnag ai emyn neu gân yw, nis defnyddiwyd. Yn y Bwletin, (cylchgrawn blynyddol Cymdeithas Emynau Cymru), Gorffennaf 1977, ysgrifennai'r Parchedig Alan Luff ynglŷn â'r ymchwil 'dathlu daucan- mlwyddiant geni Ann Griffiths', ymchwil am emynau newydd: 'Nid ydyw'n pobl wedi teimlo'r angen amdanynt eto. Nid ydynt wedi dechrau gofyn am emynau sy'n mynegi eu profiad eu hunain. Y maent, ar y cyfan, yn fodlon i gymryd arnynt eu bod yn gweld yr un byd ag yr oedd eu tadau yn ei weld, ac yn teimlo'r un problemau. Dim rhyfedd bod agendor mor fawr yn bod rhwng yr eglwys a'r byd! A YDYNT YN GANADWY? Dewiswyd emynau Y Parchedig E.H. Griffiths (gweddi gyfoes daer a defosiynol 'dros ein gwlad') a minnau o blith y rhai a Llythyr Gweddi Sylweddolwn bod cefnogaeth mewn gweddi yn hanfodol i'n gwaith Iwyddo felly gofynnwn yn garedig chwi weddïo yn bersonol neu fel eglwysi ynglŷn â'r canlynol: Alan Rees (Gweithiwr Ysgolion Undeb y Gair) Sefydlu'r Cyngor tros Undeb y Gair yng Nghymru eleni. Cynhadledd blant yn y De (Chwefror 8-10) Siôn Aled (Trefnydd Cenedlaethol Undeb y Gair). I Eglwysi Cymru ddod yn ym wybodol o'r Beibl fel Gair Duw yn hytrach na dim ond crair diwylliannol. Hugh James (Swyddog leuenctid a Phlant yr Eglwys yng Nghymru) Fforwm Ieuenctid yn Nolfor, Y Drenewydd Medi 6-8. Fforwm gweithwyr plant yng Ngholeg Harlech Medi 20-22. Lona Roberts (Gweinidog a Gweithiwr Bwrdd y Genhadaeth Eglwys Bresbyteraidd Cymru). Ar Dduw roi nerth a hyder i ni yn wyneb oes ddi-gred. Gweddïwn dros y plant a gwrddwn. Boed iddynt gael awydd adnabod lesu'n Arglwydd. drafodwyd a chyhoeddwyd hwy. Hyd y gwn, o leiaf, ni chanwyd y naill na'r llall gan neb erioed. (Maddeuer os wyf yn methu.) Seiliwyd f'emyn, (un a hoffodd Tilsli yn ôl ei adolygiad o'r Caniedydd O dŷ i Dŷ, lle'r ymddangosodd ar y dôn 'Canaveral' o waith y cerddor, adnabyddus, y diweddar Sidney Burkinshaw), ar hynt y roced: ysbryd credadun, mewn gweddi, yn ffoi hyd yn oed o dynfa'r teulu at Dduw, cyn disgyn drachefn, wedi gweld byd, o'r entrychion, yn un teulu, i fôr adwyth bywyd beun- yddiol. Meddai'r Parchedig J. Price Williams am y canu hwn, yn Y Cymro: 'Ni fu canu ar emyn fel eiddo'r bardd hwn Dyma ganu Cristnogol yn idiom chwarter olaf yr ungeinfed ganrif.' Meddai'r Prifardd Emrys Roberts yn Yr Eurgrawn: "Mae rhywbeth iasol yn y mynegiant yn ei emynau." Teg hollol, er hynny, oedd gofyniad y cyfaill craff, Y Parchedig Emrys Edwards, Caernarfon yn ei adolygiad caredig ar Crist Croes (1977) yn Barddas: "Mae'r emynau yn gafael hefyd o ran meddylwaith a dyfnder profiad, ond ysywaeth a ydynt yn ganadwy?" Ym- ddengys na chawn byth wybod! Meddai'r awdurdod emynyddol Bernard L. Manning yn ei Iyfr The Hymns of Wesley and Watts, ymron hanner canrif yn ôl: 'George Herbert wrote much excellent religious poetry, but it may be doubted if he Aled Davies (Swyddog Datblygu Cyngor Ysgolion Sul-Y Gogledd) Tros bawb fydd yn gysylltiedig â'r holl wersylloedd plant, ieuenctid gan gynnwys yr arweinwyr. Tros bawb sy'n gweithio efo plant/ieuenctid yng Nghymru, boed yn weithwyr ieuenctid, gweinidog- ion, lleygwyr ac Athrawon Ysgol Sul. Nigel Davies (Swyddog Datblygu Cyngor Ysgolion Sul-Y De). Bendith nerthol yr Ysbryd Glân ar yr had fydd yn cael ei hau fel bod eneidiau lawer yn dod o dan argyhoeddiad ac rhoi eu ffydd yn lesu. Doethineb yr Arglwydd ym mhob amgylchiad a diogelwch wrth deithio. Nan Wyn (Swyddog Datblygu yn y Gogledd Eglwys Bresbyteraidd Cymru) Gweithgarwch Cristnogol ieuenctid Waunfawr (Clwb CIC a'r Clwb trafod yn benodol). Cyrsiau hyfforddi arweinwyr ieuenc- tid a gynhelir yn y Gwanwyn. James Clarke (Swyddog leuenctid, Coleg y Bala). Ymgyrch godi arian ar gyfer Canolfan Tresaith. Tros y Pwyllgor Rheoli wrth iddynt geisio cael aelod newydd ar y staff. wrote one tolerable hymn. Mae'n amlwg na chytunai pawb, ac aeth emynau fel 'Let all the world in every corner sing' (sydd yn yr Hymns Ancient and Modern) a 'Teach me, my God and King' yn boblogaidd iawn. YNG NGHARCHAR Y PRINT Yn y llyfr Dimbech a cherddi eraill (Barddas, 1989), y mae gennyf emyn blwyddyn newydd a luniwyd ar thema'r dyddlyfr ('diary'). Hefyd, carol gyn- ganeddol ar ddull a mesur yr hen garolau (fel 'Roedd yn y wlad honno Siôn Ebrill): addasodd y diweddar Mr.. Alun Davies hen alaw ar gyfer hon ac ym- ddangosodd y cyfan, y geiriau, y dôn a'r ysgrif arni-yn Cristion. Hen a newydd,-ond yng ngharchar y print yr erys y naill a'r llall fyth. Dichon y dylwn ymddiheuro am ysgri- fennu fel hyn yng nghanol cyfnod dathlu cyfraniad Pantycelyn fawr. Fodd bynnag, daw rhyw deimlad o rwystredigaeth heibio ar dro pan fo dyn yn ceisio mynegi'r mawl Dduw yn idiom ei gyfnod yntau, ac yn cael cynulleidfaoedd a phwyllgorau enwadol a chymanfaol yn fferllyd anfodlon hyd yn oed osod prawf ar yr ymdrechion. Diolch am gynnig yr Atodiad ac am bob emyn canadwy a gafaelgar (beth bynnag am newydd) a gafwyd ynddo. Marian Roberts (Swyddog Ieuenctid Cynorthwyol, Coleg y Bala). Am bob rhwyddineb a nerth wrth ddechrau ar swydd newydd fel Gweithiwr Cenhadol yn Rhos- lIannerehrugog ym mis Mawrth. Ar Dduw baratoi'r ffordd i mi fel bod pobl yn awyddus i glywed yr Efengyl ac ymateb iddi. Delyth Wyn (Trefnydd Gwaith Plant, Coleg y Bala). Dros yr holl glybiau plant sy'n cwrdd yn rheolaidd yn ein capeli ac eglwysi, ac yn enwedig am fwy o wirfoddolwyr sy'n awyddus rannu'r Efengyl i'w harwain neu gychwyn clybiau newydd. Bod ein cynulleidfaoedd a'u harweinwyr yn cymryd bob cyfle i gynnwys y teulu cyfan yn eu haddoliad a gweithgareddau Eglwysig eraill er mwyn hyrwyddo aelodau'r eglwys o bob oed i gyd-dyfu. Arfon Jones (Trefnydd y Cynghrair Efengylaidd yng Nghymru). Yr angen am gymorth gweinyddol yn y swyddfa yng Nghaerdydd. Cynhadledd ar Efengylu yn Aberystwyth, Gorffennaf 1-4 ("Y Gair Gymru"). Gweddio tros y trefniadau a'r prif siaradwyr: Michael Green a Michael Griffiths.