Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PAGLEFYP? PA FEPPYGINIAETH Dr. GWYN REES JONES "Y mae ein cymdeithas yn afiach!" meddai cyfaill wrthyf yn ddiweddar. Cyfeirio yr oedd at ymosodiad marwol a wnaed ar wraig dros ei phedwar ugain mlwydd oed. Yn y llys dywedodd yr euog iddo ymosod arni oherwydd ei fod angen arian i brynu cyffuriau. Gwaetha'r modd, nid yw'r achos yn anghyffredin; clywir hanesion tebyg o bob cwr o'r wlad. Un o nodweddion ymddygiad y rhai sy'n gaeth i gyffuriau, boed rheini'n gyffuriau 'caled' neu'n gyffuriau 'meddal', megis cannabis neu cocaine, yw bod eu cymeriad yn dirywio wrth iddynt gilio o realrwydd bywyd bob dydd i fyd o freuddwydion a ffantasi. Y mae ffigurau swyddogol yn rhoi bod bron i filiwn yn gaeth i gyffuriau yn addicts ym Mhrydain erbyn hyn. Hefyd, yn achos y gwr ifanc ger bron y llys, yr oedd yn bositif HIV- pla sydd yn gyffredin iawn ymhlith y rhai sy'n defnyddio cyffuriau. Bydd ef yn sicr o ddatblygu AIDS. 'Does neb, hyd yn hyn, a gafwyd yn bositif HIV, nad yw wedi datblygu AIDS llawn yn hwyr neu'n hwyrach. Fe all deng mlynedd fynd heibio, ond y mae'r clefyd ofnadwy hwn yn sicr o ddilyn gan arwain at farwolaeth greulon ymhen amser amhenodol. PROBLEM AIDS Tra fydd y dioddefwr fyw gall drosglwyddo'r afiechyd i ddynion, gwragedd a phlant, ac o bosib i feddygon a nyrsus fydd yn ei drin. Ac os trosglwyddir yr afiechyd, byddant hwythau hefyd yn sicr o farw o AIDS gan nad oes unrhyw feddyginiaeth ar gael hyd yn hyn. Eisoes y mae nifer o feddygon a nyrsus wedi marw o'r clwyf yma o ganlyniad i drin dioddefwyr. Y mae dioddefaint a marwolaeth dioddefwyr AIDS yn waeth o lawer na dioddefaint y rhai sy'n marw o gancr yr ysgyfaint. Y mae AIDS eisoes wedi achosi marwolaeth plant ac oedolion oedd yn dioddef o Haemophilia Ffactor 8, fel y'i gelwir er bod arbrofion ar waed wedi lleihau peth ar y broblem hon. Ond er hynny y mae AIDS yn pergylu dyfodol llawdriniaethau trawsblaniad, a gwyddom i gyd am y gwell- iannau mawr sydd wedi dod i fywydau cymaint o bobl trwy drawsblaniad organau. Y mae problemau personol, megis niwed i'r ymennydd a dirywiad cymeriad, yn amlwg iawn ymhlith rhai sy'n cymryd cyffuriau, ac yn arbennig felly ymhlith dioddefwyr AIDS. Mae'r problemau personol yn fawr, ond y mae'r problemau cymdeithasol yn enfawr. Er enghraifft, y mae rhannau o Affrica lle mae un o bob 10 eisoes wedi marw o AIDS ac y mae'r broblem yn mynd yn drech na gallu'r awdurdodau i'w hatal, yn enwedig gan fod darpariaeth feddygol yn brin ac ychydig iawn o addysg ynglyn â'r broblem yn cyrraedd y Y mae niwed i'r ymennydd a dirywiad cymeriad yn amlwg iawn ymhlith rhai sy'n cymryd cyffuriau ac yn arbennig felly ymhlith dioddefwyr AIDS. mwyafrif o'r bobl. Erbyn hyn y mae'r un broblem yn ysgubo ar draws yr India ac yn bygwth datblygu'n broblem fyd-eang. ALCOHOL A'R PROFFESIYNAU Rhaid wynebu'r ffaith mai gwraidd problem cyffuriau a datblygiad AIDS yw ysfa pobl am bleser. Hyn hefyd yw gwraidd problem alcoholiaeth. Erbyn hyn y mae 6 miliwn o bobl yn y wlad hon yn dioddef o alcoholiaeth a hynny yn arwain at anhwylderau o bob math ymhob sustem o'r corff, gan gynnwys cancr y llwnc, y stymog, y pancreas a'r colon. Nid problem y di-addysg a'r tlotaf yn y gymdeithas yw hon yn bennaf. Y mae rhestr a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dangos mai aelodau o'r proffesiynau canlynol sy'n dioddef fwyaf barnwyr, cyfreithwyr, meddygon, deintyddion a