Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Golwg ar glerigwr Methodistaidd yn y ddeunawfed ganrif trwy lygad ei ddyddiadur DYDDIADUR 1782 Mae unrhyw beth sy'n taflu goleuni ar y berthynas amwys rhwng y Methodistiaid a'r Eglwys yn niwedd y ddeunawfed ganrif yn werth ymchwilio iddo. Dyna sy'n gwneud y dyddiadur a gadwodd Thomas Richard am y flwyddyn 1782 mor werthfawr. Ar y pryd yr oedd y dyddiadurwr yn gurad Llancynfelyn ac Eglwysfach yng ngogledd eithaf yr hen sir Aberteifi. Yn Methodistaieth Cymru, Cyf. II (1854), dywed John Hughes parthed ardal Tre'rddôl a Thaliesin, "Nid oedd aradr ymneilltuaeth wedi rhwygo dim ar y tir diffaeth hwn". A ymlaen i amlinellu arferion ac ofergampau'r trigolion, eithr mae disgrifiad Dr. Thomas Richards, Bangor ohonynt mewn ysgrif ar Fethodistiaeth Taliesin, 1792-1900, yn llawer mwy lliwgar, `: y bobl fwyaf barus, didoriad, anrasol yng Nghymru i gyd, campwyr ym mhob rhysedd, paganiaid dijfaeth Gosodir llawer o'r bai ar Dre'r-ddôl a'r gwneuthurwyr hetiau Eto, mae un rhan ohono yntau'n cydymdeimlo â gwerin hwyliog y ddeunawfed ganrif. "Purion cyfaddef fod plwy Llangynfelyn yn ardal digon diddorol euffyrdd o gwmpas 1775 gyda dawnsio a'r ymladd ceiliogod, ei ofergoelion a'i ŵyl mabsant a'r nosweithiau llawen yn y mân sucandai. O safbwynt sobreithiwch a chrefydd, difrifol o sâl ydoedd': DAU EFENGYLYDD I John Hughes, "yr oedd yr eglwys sefydledig yno yn gwbl ddiymdrech i wneuthur daioni". Synnu a wna Dr. Richards nad oes air yng nghyfrol John Hughes am lafur Thomas Jones (1752-1845), Creaton, tra bu ef yn gurad Llancynfelyn ac Eglwysfach rhwng 1774 a 1779, nac am Thomas Richard (1754-1837), ei olynydd yno. Bu'r ddau efengylydd gweithgar hyn yn drwm eu dylanwad ar y ardal. Yn ôl tystiolaeth y dyddiadur, cynhelid seiadau mewn tai annedd yn rheolaidd, a deuai rhai o'r cynghorwyr Methodistaidd, sef pregethwyr, yno'n achlysurol. Ceir sôn am gyfarfodydd pregethu hefyd, a sasiynau yn Llangeithio; teithiai Thomas Richard i'r cyfarfodydd hyn heb esgeuluso dim ar ei waith yn y plwyf. Yn wir, pe digwyddai fod oddi cartref dros y Sul, gofalai gyfnewid gydag offeiriad arall. Bu Thomas Jones a Thomas Richard yn gyd-ddisgyblion yn Ysgol Edward Richard, Ystrad Meurig, ac yno cawsant gyfle i glywed Daniel Rowland yn pregeth ym Mhontrhyd- fendigaid, a dyfod o dan ei gyfaredd. Cyn-ddisgyblion eraill sy'n cael eu crybwyll yn y dyddiadur oedd John Williams (1747-1831), curad Lledrod, ac Evan Richard (1759-1824), a ddaeth yn ysgolfeistr adnabyddus yng Nghaernarfon o dan yr enw Evan Richardson. Gwr o Gefn Esgair, i'r gogledd o Bonterwyd oedd Thomas Jones, a ordeiniwyd yn 1774 a dyfod yn gurad Llancynfelyn ac Eglwysfach. Ei orchwyl gyntaf oedd MARI ELLIS Thomas Jones, Creaton ceisio gwareiddio ei blwyfolion annuwiol, anystyriol. Yr oedd ganddo un fantais fawr, ar wahân i'w argyhoeddiad cre- fyddol, sef ei fod yn wr nerthol o gorff ac yn bencampwr ar ymaflyd codwm. Gallwn ei ddychmygu'n dyfod at y talwrn lle'r oedd yr ymladd ceiliogod ar ei anterth, yn mynd i'r afael ag un neu ddau o'r arweinwyr a'u llorio'n ddidrafferth, gan ddychryn y gweddill! Sut bynnag, daeth yr ymladd ceiliogod i ben. Ym mis Medi 1776 cyrhaeddodd Thomas Richard i gadw ysgol yn Nhalybont. Gwr o ardal Ponterwyd oedd yntau, a daeth yn adnabyddus fel Thomas Richards, Darowen, ac yn dad i bump o offeiriaid. Nid oedd eto wedi'i ordeinio; digwyddodd hynny yn 1779 pan olynodd Thomas Jones. Yr un flwyddyn priododd â merch leol ac aethant i fyw i Ynys Tudur, i'r gogledd o Dre'rddôl. Y DYDDIADUR Llyfr bychan yw'r dyddiadur wedi'i sgrifennu yn Saesneg a llawer o'r geiriau wedi'u cywasgu. Wrth brif lythrennau eu henwau y cyfeirir at bawb, eithriad yw cael enw llawn. Mae hefyd, fel gwr eglwysig, yn defnyddio geiriau Lladin, a'r rhain hefyd wedi'u talfyrru. Y patrwm ar y Suliau oedd gwasanaethu Llancynfelyn y bore ac Eglwysfach y prynhawn;