Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Manion Mynegeiriol 'Rwy'n cofio gweld, ar fur dosbarth mewn ysgol yn ystod dathliadau 1988, siart yn cofnodi bod yn y Beibl (heb gynnwys yr Apocryffa) 66 o lyfrau, 1185 0 benodau, hyn-a-hyn o adnoadua a hyn-a-hyn o eiriau. Nid wyf yn cofio union nifer y naill na'r UaÚ o'r ddau ddosbarth diwethaf, ond yr oedd y ffigurau'n gyfryw ag i beri imi amau mai trwy gymorth cyfrifiadur y daethpwyd o hyd iddynt. 'Rwy'n amau hefyd mai at ryw fersiwn neu'i gilydd o'r Beibl Saesneg y cyfeiriai'r ffigurau. Yr un, wrth gwrs, yw nifer Ilyfrau'r Beibl a nifer y penodau a geir ym mhob un ohonynt, ni waeth beth fyddo'r fersiwn neu'r iaith. Nid yw hynny, fodd bynnag, yn wir am nifer yr adnodau, gan fod fersiynau modern am resymau testunol yn hepgor rhai o'r adnodau a gynhwyswyd yn yr hen fersiynau; gweler, er enghraifft, y troed- nodyn o ar waelod t. 100 yn Nhestament Newydd y BCN. Ac y mae'n llai gwir fyth am nifer y geiriau, gan fod nifer y geiriau mewn brawddeg yn rhwym o amrywio 0 gyfieithiad i gyfieithiad ac o iaith i iaith. 0 GROMBIL CYFRIFIADUR Wedi i dathliadau 1988 fynd heibio ac i minnau ddechrau ymroi i'r dasg o baratoi mynegair (neu concordans) i'r BCN, cynyddodd fy niddordeb yn y math o ystadegau y gellir, o bwyso ychydig o allweddau, eu tynnu o grombil cyfrifiadur. Un o'r cymwynasau cyntaf a gyflawnodd y gwas technologaidd hwn drosof oedd darparu rhestr, yn nhrefn yr wyddor Gymraeg, o bob gair unigol gwahanol a ddefnyddir yn Hen Destament y BCN, gan ychwanegu pa sawl gwaith y mae pob un ohonynt yn digwydd yn y Testament hwnnw. Darganfûm mai'r gair sy'n digwydd amlaf ynddo yw 'yn', a geir 24,876 0 weithiau; yn ail iddo daw 'y', sy'n digwydd 21315 o weithiau, ac yn drydydd 'a' (18,094). Yn ddiweddarach, cefais restrau tebyg ar gyfer y Testament Newydd a'r Apocryffa hwythau, a chael mai'r un tri geiryn sydd ar y blaen, ac yn yr un drefn, yn y naill a'r llall o'r rheini. A chymryd fersiwn y BCN (gan gynnwys yr Apocryffa) drwyddo draw, y mae 'yn' yn digwydd 40,440 o weithiau, 'y' 34,201 o weithiau, ac 'a' 28,334 0 weithiau. Fodd bynnag, os ychwanegir ffigurau 'yng' ac 'ym' at yr eiddo 'yn', cynydda'r rhif i 42,246; os ychwanegir 'yr' at 'y', ceir, cyfanswm o 54,115; ac os ychwanegir 'ac' at 'a', ceir 42,326. OWEN E. EVANS Y mae'n ymddangos, felly mai'r fannod ('y', 'yr'), ac nid y cysylltair 'a', 'ac', na chwaith yr arddodiad 'yn', 'yng', 'ym', yw'r gair sy'n digwydd amlaf yn y BCN. Ond ni ellir bod yn gwbl siwr, gan nad yw pob 'y' yn Gymraeg yn fannod, na phob 'a' yn gysylltair, na phob 'yn' yn arddodiad. Fel y dengys yr 'yn' a geir yn union o flaen y gair 'arddodiad' yn y frawddeg flaenorol, gall 'yn' fod yn eiryn mewn traethiad yn ogystal ag yn arddodiad; gall 'y' neu 'yr' fod, nid yn unig yn fannod ond hefyd yn rhagenw perthynol ac yn eiryn o flaen ffurfiau o'r ferf 'bod' (e.e., 'y mae', 'yr oeddwn'); a gall 'a' fod yn rhagenw perthynol ac yn eiryn gofynnol ac yn ebychiad, yn ogystal ag yn gysylltair. Yn anffodus, nid yw fy nghyfrifiadur i, hyd yma o leiaf, yn gallu gwahaniaethu rhwng y gwahanol ystyron hyn a berthyn i'r un gair; byddai'n rhaid ei fwydo â chryn dipyn o wybodaeth gymhleth am ramadeg a chystrawen y Gymraeg cyn y gallai gyflawni'r gamp honno! GEIRIAU 'UNWAITH-AM-BYTH' Yn y pegwn arall oddi wrth y geirynnau tra chyffredin y cyfeiriwyd atynt eisoes, cawn y geiriau hynny sy'n digwydd un waith yn unig yn y Beibl cyfan h.y., yn y BCN; hapax legomenon yw'r term technegol (Groeg ei darddiad) am air felly mewn astudiaethau beiblaidd, a 'singleton' yw'r term Saesneg a ddefnyddir amdano gan wyr y cyfrifiaduron. Y mae cryn nifer o'r rhain, gan gynnwys wrth gwrs lawer o enwau personol (e.e., Ascenas yn Gen. 10:3) ac enwau lleoedd (e.e. Lesa yn Gen. 10:19). Nid yw'n syndod gweld ymhlith y geiriau