Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'unwaith-am-byth' yma rai mor gymharol ddieithr â'r canlynol: afrlladen (Ex. 16:31), bolwst (Eccles 31:20), camegau (1 Bren. 7:33), golchion (1 Cor. 4:13), gwagsymera (Job 34:8), hunanddiraddiad (Col. 2:23), modrwy-sêl (Eseia 3:21), trymru (Luc 21:25). Ond y mae geiriau mwy cyffredin hefyd nas ceir ond unwaith yn y BCN, er enghraifft: anneallus (Doeth. 1:5), diarffordd (Salm 107:40); gwymon (Jona 2:5), hunan-amddiffyniad (2 Cor. 7:11), hunan-dyb (2 Macc. 5:17), hunanddigonol (Eccles 11:24), hunanhyder (Eseia 10:12), sarrug (Deut. 28:50), telpyn (Rhuf. 9:21). Gair diddorol arall sy'n digwydd unwaith yn unig yw 'clebryn'- a hynny fel disgrifiad dirmygus gan yr Atheniaid o'r Apostol Paul (Actau 17:18); y mae'r ferf gytras, 'clebran', fodd bynnag, yn digwydd bedair gwaith, dwywaith yn yr Apocryffa ac yn 2 Cor. 12:20 a 3 Ioan 10 yn y T.N. 'CRISTIONOGOL' Gair arall a geir unwaith yn unig yw'r ansoddair 'Cristionogol'. Nis ceir o gwbl yn y Groeg, na chwaith yn yr hen fersiwn Cymraeg gan fod hwnnw'n cyfieithu'r Groeg yn llythrennol fwy neu lai, ond cyfeirir at yr 'athrawiaeth Gristionogol' yn JERWSALEM Datseiniai'r ddinas ym merw'r wyl, llusgai hen wyr â'u costreli gwin i lawr y strydoedd afiach, taenai'r gwragedd y cnufiau i sychu ar y toau cynnes ac ymlwybrai'r cynhebrwng yn araf drwy'r dorf. Yn lluddedig a llwfr, gwyliaist hwy'n ei hoelio fel aderyn ar goeden, teimlaist y bicell yn rhwygo dy galon dithau a phan oedd y cyfnos yn gor-doi'r bryn yr oedd dy gariad yn gorff. Daethost yn fore a hi eto'n dywyll at y bedd, dy lygaid yn boeth gan ddagrau, canys fe ddeuai angau i daro dy ddrws dithau, a gorwedd wrth dy ystlys tan y bore. fersiwn BCN o 1 Tim. 6:1. Ond beth am yr enw cytras, sef gair sy'n rhoi i'r cylchgrawn hyglod hwn ei deitl, Cristion? Y mae'n hysbys i bob efrydydd beiblaidd teilwng o'r enw fod y gair hwn i'w gael yn nhestun Groeg y T.N. (prin y gellid disgwyl ei weld yn yr H.D. nac yn yr Apocryffa), a hefyd yn yr hen fersiwn Cymraeg, ddwywaith yn yr unigol (Actau 26:28 a 1 Pedr 4:16) ac unwaith yn y lluosog (Actau 11:26). Yn y BCN, fodd bynnag, gan nad cyfieithiad llythrennol o'r Groeg mohono, defnyddiwyd y gair 'Cristion' yn amlach, er mwyn dangos yn eglurach union ystyr y gwreiddiol. Ceir y rhif unigol 9 gwaith a'r lluosog 5 gwaith (cymharer y ffigurau hyn â rhai cyfatebol y Good News Bible Saesneg, lle ceir yr unigol 11 o weithiau a'r lluosog 9, a'r ansoddair 'Christian' 38 o weithiau). Yn ychwanegol at y ddau ddigwyddiad o 'Cristion' a gafwyd yn yr hen Feibl Cymraeg, y mae BCN yn defnyddio'r ffurf unigol yn y 7 man a ganlyn: Rhuf. 16:10 a 13; 1 Cor. 7:12, 14, 15 a 9:5; a Philem. 16. A gwelir y ffurf luosog 'Cristionogion' yn y 4 man a ganlyn (yn ychwanegol at Actau 11:26): Rhuf. 16:7 a 11; 1 Cor. 16:15; a Gal. 2:12. Yr wyf yn fwriadol wedi ymatal rhag dyfynnu'r adnodau y cyfeirir atynt yn y paragraff hwn MAIR HUW JONES MAGDALA I'r strydoedd anniben, i ddrewdod hen bysgod a rhaffau, y daeth morwyr i guro ar dy ddrws a datod plethi dy wallt du cyn gorwedd yn dy wely, yn ddrylliog tan y bore. Melysiant â'th ffrwyth aeddfed eu gwefusau hallt, nes i lais rhyfeddol rhyw ddyn ostegu'r storm yn dy gnawd, a datguddio i ti'r perl sy'n loywach nag arian cariadon. Y mae Huw Jones a'i wraig y Parchg. Janice Jones, yn genhadon o dan nawdd CWM yn Botswana ac yn dysgu yng Ngholeg Moedling, Lobatse, perthynol i Eglwys Gynulleidfaol Unedig De Affrica. Cyn hynny buont yn gweinidogaethu yng ngofalaeth Bresbyteraidd Saesneg Porth Aethwy, Môn. Ein cofiwn a'n dymuniadau gorau iddynt eu dau. (ac yn y gweddill o'r ysgrif o ran hynny) nid yn unig er mwyn cadw o fewn y terfynau a osododd y Golygydd imi, ond hefyd (ac yn bwysicach) er mwyn ceisio ysgogi cywreinrwydd y darllenwyr i 'chwilio'r ysgrythurau' drostynt eu hunain. Yn achos yr un defnydd ar ddeg o'r gair 'Cristion(ogion)' a'r un defnydd o 'Cristionogol', efallai yr hoffai'r darllenwyr a ysgogir felly gymharu darlleniadau'r BCN â'r eiddo'r fersiwn Cymraeg traddodiadol (neu â'r testun Groeg os ydynt yn medru trin hwnnw!), a phenderfynu drostynt eu hunain a yw'r defnydd o'r gair ychwanegol yn y cyfieithiad i'w gyfiawnhau ai peidio. Os digwydd i ymarfer o'r fath ddeffro chwilfrydedd digon o ddarllenwyr Cristion (y cylchgrawn a olygir yn awr!), diau y gellir (gyda caniatâd y Golygydd hynaws, wrth gwrs) cyfrannu ychwaneg o 'fanion mynegeiriol' o bryd i'w gilydd. Ond dyna ddigon am y tro! Y Dr. Owen E. Evans oedd Cyfarwyddwr Cydbwyllgor Cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg. Y mae ar hyn bryd yn paratoi Concordans i'r Beibl Cymraeg Newydd.