Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y gair olaf yn y drafodaeth ar Israel Heddiw GWLAD YR ADDEWID GWYN DAVIES, Pontardawe Mae'n fore Nadolig ac yr wyf newydd ddychwelyd o'r oedfa yn y Tabernacl, Pontardawe, wedi gwrando ar gân yr angylion 'Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd a'r cyfeirio at emyn Glanceri Dwedwch am ei enedigaeth, Dwedwch am ei febyd gwyn Am ei fywyd pur, dihalog, Dwedwch am Galfaria fryn a'r cofio yn y Cymun. BETHLEHEM Cofio bod yng Ngwlad Canaan rhai blynyddoedd yn ôl, mynd heibio i faes y bugeiliaid ac i Eglwys y Geni ym Methlehem. Disgyn i'r ogof ar hyd y grisiau troellog, goleuo cannwyll a phenlinio yn ymyl y seren arian sy'n mynegi man cysegredig y preseb; dwy law ar fy mhen ac offeiriad barfog yn cyfarch a bendithio, "Charis tou kuriou agapé tou Theou hoinonia to hagion pneumatos Bethlehem, lle ganwyd Rachel. ganwyd ac eneiniwyd Dafydd gan Samwel tref o 40,000 0 Gristionogion Arabaidd. Rhaid oedd prynu rhywbeth i gofio'r ymweliad. Ond na, fe'n trowyd yn ôl i'r bws a'n cynghori i boicotio'r swine! I ba les, Mr. Gruffydd Thomas, i ba les? NASARETH Dinas debyg ei maint i Fethlehem yw Nasareth, rhyw ddeugain mil eto 0 Gristionogion, Arabaidd gan fwyaf. Cofiaf yr Iddew difrifol wrth ddrws Eglwys y Cyfarch, Eglwys Sant Gabriel, yn mynnu punt yr un o fynediad, a'r Arab tal serchus a redodd ar ôl y bws gyda phwrs arian Mrs. Walters â'i gadawsai awr yn gynharach ar ei stondin yn y farchnad. CARMEL 'Rwy'n cofio rhyfeddu at !esni Môr y Canoldir o ben Mynydd Carmel uwch tref brydferth Haiffa a synnu at gofgolofn erchyll Elias y tu allan i fynachlog Carmelaidd Mwchraka yn dynodi buddug- oliaeth y Proffwyd dros broffwydi Baal, yn torri pen y 'Palestiniad' dan ei droed. Cofio fy medyddio yn yr Afon Iorddonen Onid ydym yn dal i wylo dros ddioddefwyr anghyfíawnder ymhob- man, boed Iddew neu arall? gan y Parchedig Ernest Pugh o Lanelli a phrofi, er nad oedd yr afon yn llydan, ei bod yn ddofn iawn. Ar y daith i Jerwsalem cyfeiriwyd yn aml at y loriau a'r tanciau Arabaidd a adawyd ar ochr y ffordd ers buddugoliaeth Yom Kippwr yn 1967, ac y mae'n siwr i'w chyflogwyr orchymyn i'r cwrier ein hatgoffa o'r holocôst ar bob cyfle. Bûm innau, fel Jean Evans, yn wylo lawer tro o glywed am ddioddefaint erchyll yr Iddewon dan law'r Nats'iaid (nid yr Arabiaid). Ond onid ydym yn dal i wylo dros ddioddefwyr anghyfiawnder ymhob- man, boed Iddew neu arall? Yr Apostol Paul sy'n dweud, Nid oes rhagor rhwng Iddew a Groegwr (sef cenedl ddyn, sy'n cynnwys yr Arab) (Gal. 3:28), ac eto, yn Effesiaid (2:14), dywed i Iesu wneud "y ddau yn un trwy chwalu canolfur o wahaniaeth oedd yn eu gwahanu." JERWSALEM Cofio cusan Nabih bach ar y Via Dolorosa a gwên ei dad wrth fargenna, hyd nes iddo welwi wrth weld y ddau blismon arfog o Iddew yn dynesu. A chofio Mosg Omar a'r graig o'r lle yr esgynnodd Mohamed i'r nefoedd, yr union graig gysegredig lle'r arbedwyd Isaac rhag ei aberthu gan ei dad Abraham, ac i ni ystyried yno bod Ishmael, tad yr Arab, hefyd yn fab i Abraham fel Isaac, tad yr Iddew. O ran hynny, onid ydym, medd Paul, eto "oll yn had i Abraham ac yn gyd-etifeddion yr ôl yr addewid?" (Gal. 3:29). BEIRWT 'Rwyf newydd ddarllen llyfr teimladwy y llawfeddyg, y Dr. Swee Chai Ang a aeth o'i gwirfodd i wasanaethu yng ngwersylloedd Serba a Shatila yng Ngorllewin Beirwt. 'Roedd golwg digon truenus ar y ffoaduriaid a welais i yno yn 1974 ychydig cyn y Rhyfel Cartref, ac aeth pethau o ddrwg i lawer gwaeth ers hynny. Dyma, o'i gyfieithu, a ddywed Syr Anthony Parsons mewn cyflwyniad i'r llyfr: "Cefais brofiad 45 mlynedd yn y Dwyrain Canol, fel milwr, diplomydd, ac yn ddiweddar fel gohebydd. Credais fy mod bellach wedi fy imiwn- eiddio rhag unrhyw sioc emosiynol, ond heriaf unrhyw un i ddarllen disgrifiad Dr. Swee Ang o gyflafan Serbra/Shalita ym Medi 1982 heb gael ei gynhyrfu'n faw'r." Gwna les i'r tri a ymatebodd mor ffyrnig i'm llith yn rhifyn Gorffennaf-Awst o Crìstion i ddarllen 'From Beirut to ferusalem' gan Dr. Swee Ang. Bydd yn dda gan yr Athro Emer. Urk Henriques, nad yw na Chymro na Christion, glywed taw llyfr Saesneg ydyw! Mae adroddiad y wraig hon o ladd mil a mwy o famau a phlant diniwed mewn gwaed oer yn Ysbyty Gasa, Beirwt gan filwyr atebol i swyddogion byddin amddiffyn Israel yn ddagreuol. CWESTIYNAU Y mae rhai cwestiynau yn codi o hyn y mae'n rhaid eu gofyn: Pam y mae'n rhaid i wlad hyfryd, a fwriadwyd yn noddfa i ffoaduriaid Iddewig a ddioddefodd drais Natsiaidd a hilyddiaeth Ewropeaidd, gael ei droi yn Ue i Balestiniaid ddioddef cyffelyb driniaeth? A oes rhyw Wr Drwg yn rhywle yn chwarae 'pasiwch parsel' dioddefaint rhwng Iddewon a Phalestiniaid? Onid oes modd ystyried, 0 leiaf, y posiblrwydd o gael un wladwriaeth yng Ngwlad Iesu? A gofynnaf finnau, oni fyddai'n werth gwrando ar Dr. Alan Williams yntau, nad wyf yn cytuno â'i bolisi iaith, petae'n sôn am erchyllterau megis poenydio a lladd, pe baent yn digwydd yng Nghaerfyrddin? Ac yn wyneb datganiadau unfrydol y Cenhedloedd Unedig ynghylch goresgyniadau anghyfreithlon Israel, a fydd Shamir mor benstiff â Saddam?