Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr ysgrif olaf ar natur yn y Beibl ANIFEILIAID A CHREADURIAID ERAILL 'Rwyf eisoes wedi cyfeirio at 'dad y wyddor newydd, etholeg', sef Konrad Lorenz a enillodd wobr Nobel meddygaeth yn y saithdegau cynnar am ei waith arloesol. Yn ei Iyfrau King Solomon's Ring a Man Meets Dog y mae'n damcaniaethu sut y mae'r ci wedi ei ddiwyllio. Yng nghanol ei ddadl pwysleisia mor bwysig oedd hela anifeiliaid gwyllt i'r dyn cyntefig. Mae'n darlunio pac o Iwynogod bychain y jacal yn canlyn y llwyth ac yn bwydo ar eu sporion. Yna, mae un o'r llwyth, mwy peniog na'i gilydd, yn gweld posibiliadau defnyddio'r jacal gadw gwyliadwriaeth o gwmpas y gwersyll gyda'r nos rhag anifeiliaid rheibus ac hel a didol yn ystod hela. A yw damcaniaeth Lorenz yn gywir? Mae'r swnio'n ddiddorol, ond nid oes modd ei phrofi. Mae un peth yn sicr, o'r dyddiau pell hynny fe fu perthynas naturiol rhwng dyn ac anifail. Nid yw hyn yn amlygu ei hun yn well yn unlle nag yn y Beibl. Cawn hanesion bugeiliaid a golygfeydd bugeiliol, cawn adroddiadau am ebyrth ac aberthu anifeiliaid, a chawn gyfeiriadau at greaduriaid natur o bob math wrth geisio tanlinellu gwers neu foes arbennig. DEFAID A GEIFR Mae'r cyfeiriadau at ddefaid a geifr yn niferus iawn. 'Roedd yr Israeliaid yn dibynnu bron yn gyfangwbl ar un cyfnod ar ddiadelloedd o ddefaid a geifr am laeth, caws, cig, gwlan a chrwyn. Gwnaent gostreli o grwyn geifr ac yr oedd blew yr afr ddu yn cael ei wehyddu i wneud defnydd i wneud pebyll. Onid yw un o storïau mawr y byd, a sail ein cred Gristnogol, yn cychwyn gyda bugeiliaid? Cofiaf yn yr Ysgol Sul yng Nghapel Fachwen, ers talwm, a John Tan- y-Graig yr athro yn gofyn i Tudur (Y Parchg. Tudur Rowlands) a minnau beth oedd y NORMAN CLOSS PARRY gwahaniaeth rhwng defaid a bugeiliaid y Dwyrain Canol a rhai Cymru. Ymhen hir a hwyr daeth yr ateb, wedi ni ddyfalu'n anghywir ynglŷn â gwahanol fridiau o ddefaid! 'Roedd bugeiliaid Canaan yn arwain eu defaid a bugeiliaid Cymru'n eu gyrru. Gellir didoli anifeiliaid y Beibl, fel ein hanifeiliaid ni, rai wedi eu dofi at wasanaeth dyn a rhai gwyllt. Mae'r categori cyntaf yn amlwg iawn yn stori Abram a Lot (Genesis 13:1-13). "Yr oedd gan Lot, a oedd y teithio gyda Abram, hefyd ddefaid ac ychen a phebyll; ac ni allai'r tir eu cynnal ill dau gyda'i gilydd. (Gen. 13:5-6). Ac yn ogystal â sawl cyfeiriad at ddefaid ac ychen ceir ambell gyfeiriad at oed anifail, megis yr adnod hon o Genesis yn sôn am hesbin, sef llwdn blwydd: "Gosododd Abraham o'rneilltu saith hesbin o'r praidd," (21:28). A gwelir gyfeiriad at hesbin (yearling) yn Llyfr Numeri: "dau ych, pum hwrdd, pum bwch hesbwrn ar gyfer aberth yr heddoffrwm," (7:17). YR ASYN Beth yw'r gwahaniaeth rhwng asyn a mul? Hen gwestiwn, ac un ateb-hanner asyn a hanner ceffyl yw'r mul, ond brîd pur yw'r asyn sy'n gallu adgynhyrchu ei hun! Y mae llawer o gyfeiriadau yn y Beibl at yr asyn a'r un yn fwy cyfarwydd na hanes lesu yn marchogaeth ar gefn un ohonynt Gaersalem ar Sul y Palmwydd. Fel hyn y mae Mathew yn croniclo'r amgylchiad: "Pan ddaethant yn agos i Jerwsalem a chyrraedd Bethffage a Mynydd yr Olewydd, yna anfonodd lesu ddau ddisgybl gan ddweud wrthynt, 'Ewch i'r pentref sydd gyferbyn â chwi, ac yn syth fe gewch asen wedi ei rhwymo, ac ebol gyda hi. Gollyngwch hi a dewch â hi ataf', "(21:1 -2). 'Roedd yr asyn yn arwyddo heddwch a gostyngeiddrwydd. Rhaid cofio mai anifail y werin gyffredin oedd yr asyn oherwydd dim ond y cyfoethog a allai fforddio ceffyl neu farch. Yn ôl yr haneswyr cedwid meirch yn Israel am y tro cyntaf yn ystod brenhiniaeth Dafydd. Defnyddid ceffylau swyddogion ac arweinwyr y gad yn bennaf ar gyfer rhyfel. A dyna'r gyffelybiaeth yn gyflawn: ebol asyn yn arwydd o heddwch a'r march yn arwydd o ryfel. Ceir cyfeiriad at arwyddocâd y march yn Esther 6:7-9: "I'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu, dylid dod â gwisg frenhinol a wisgir gan y brenin, a cheffyl y marchoga 'r brenin arno, un y mae arfbais y brenin ar ei dalcen. Rhodder y wisg a'r ceffyl i un o dywysogion pwysicaf y brenin, a gwisged yntau'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu, a'i arwain trwy sgwâr y ddinas ar gefn y ceffyl Y CAMEL Yr anifail a chanddo gysylltiad amlwg ac agos â byd y Beibl a'r Dwyrain Canol yw'r camel. Hwn yw'r camel ag un hwmp ar ei gefn yn tarddu o Arabia. Ef oedd yr un mwyaf poblogaidd deithio yn yr anialwch. Cyfeirio at gamelod yr Doethion y mae'r garol Saesneg 7 saw three ships Llong yr anialwch yw'r camel araf, dibynnol. Gall