Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

deithio am rai dyddiau heb ddwr i'w yfed ac nid oes raid iddo wrth fwyd o ansawdd uchel. 'Roedd ei groen hefyd yn ddefn- yddiol, fel y gwyddom o hanes loan Fedyddiwr: "Yr oedd dillad loan o flew camel, a gwregys o groen am ei ganol (Math. 3:4). Y mae cyfeiriad eisoes wedi ei wneud at dda byw y Beibl; defaid, ychen a gwartheg. Yn ôl nifer y rhain y cyfrifid gwerth person. Ceir hefyd dosraniad o'r da yma-mae Salm 80:13 yn sôn am 'Baeddygoedwig'; Salm 22:12 am `gyr o deirw', a Salm 50:9 am 'fustach a bychod geifr', a chyfeiriad llawnach yn Numeri 32 at wartheg, sef gwartheg meibion Reuben a meibion Gad a'r helynt dros dir pori. DARLUNIAU Y mae defnydd y Beibl o ddarluniau ac enghreifftiau o fyd natur i oleuo gwers neu neges yn hynod ddiddorol. Y mae Paul yn tanlinellu'r galw am gydnabyddiaeth i arweinwyr da gyda'r geiriau, "Oherwydd y mae'r Ysgrythur yn dweud, 'Nid wyt i roi genfa am safn ych tra bydd yn dyrnu' (1 Tim. 5:18). Llun arall sy'n ymestyn y dychymyg yw'r llwynogodd yn y gwinllannoedd: "Daliwch inni'r llwynogod, y llwynogod bychain, sy'n difetha'r gwinllannoedd pan yw'r blodau ar y gwinwydd," (Caniad Solomon 2:15). Nid yw ymddygiad dyn nac anifail wedi newid dros y blynyddoedd; ond nid yr un rhywogaeth o Iwynog mo hwn â'r un sy'n difwyno cywion ieir ein ffermydd ni, ac yn wir sydd bellach wedi ymgripio i'r trefi ac yn bridio mewn gerddi cefn ac ambell hen warws. Fel ymhob oes a flinir gan y llwynogod y mae angen cwn ar yr helwyr: "milgi cryf yn ei feingefn" (Diarhebion 30:31). Ond nid ar ôl y llwynog y gyrrir y milgi, ond yr ysgyfarnog-ceinach neu felangell: "Y mae'r ysgyfarnog yn cnoi cil, ond heb fforchi'r ewin, ac y mae'n aflan ichwi, (Lef. 11:6). Ar y llaw arall, rhaid wrth filgwn hela'r ceirw, ond nid am eu hela y sonia'r Salmydd ond at eu hyder wrth ddringo'r creigle uchel: "Gwna fy nhraed fel rhai ewig, a'm gosod yn gadarn ar y mynydd- oedd," (Salm 18:33). Beth bynnag yw'r dadleuon cyfoes o blaid ac yn erbyn hela, yr oedd yn rhan o batrwm byw yn hen hen hanes gwareidd- iad, nid yn unig am fwyd ond hefyd am y defnydd a wneid o bob rhan o'r prai. Dyma adnod am y mochyn daear yn Llyfr Eseciel sy'n esiampl o hynny: "Mi a'th wisgais hefyd â gwaith edau a nodwydd, rhoddais i ti hefyd esgidiau o groen daearfoch," (Eseciel 16:10). AR ARTH A'R LLEW Nid oes eirth yma yng Nghymru bellach, ond y mae olion mewn hen ogofáu iddynt fod yma un tro. Ond er mor ddeniadol yr edrychant mewn darluniau, arth yw arth, fel y dengys Hosea (13:8): "Syrthiaf arnynt fel arth wedi colli ei chenawon, rhwygaf gnawd eu mynwes, ac yno traflyncaf hwy fel llew, fel y llarpia anifail gwyllt hwy. A oes unrhyw beth mwy peryglus tybed nag arth wedi colli ei chenawon? Beth am faedd gwyllt, neu darw? Y mae cyfeiriadau atynt hwythau hefyd. "Y mae baedd y goedwig yn ei thyrchu, ac anifeiliaid gwyllt yn ei phori, (Salm 80:13). "Y mae gyr o deirw o'm cwmpas, rhai cryfion o Basan yn cau amdanaf, (Salm 22:12). O'r holl anifeiliaid, y llew yw'r brenin yn sicr. Cydnabyddir hyn gan y Beibl, fel y dengys yr adnod hon o Diarhebion (30:30): "llew, gwron ymhlith yr anifeiliaid, nadyw'n cilio oddi wrth yr un ohonynt.' Y mae'r elfen o'r gwron i'w gweld yn y cenawon hwythau: "(Y) llewod ifanc yn rhuo am ysglyfaeth ac yn ceisio eu bwyd oddi wrth Dduw, (Salm 104:21). Beth am y rhywiogaethau eraill? Cyfeiriais at Lorenz yn dehongli patrwm ymddygiad anifeiliaid; y mae'n rhaid gen i fod Solomon hefyd wedi astudio ffyrdd y morgrug, cylchdro bywyd a threfn eu twmpathau iddo allu ysgrifennu: "Y morgrug, pobl sydd heb gryfder, ond sy'n casglu eu bwyd yn yr haf, (Diar. 30:25). Tra'n sôn am bryfetach, cyfeirir yn aml yn y Beibl at y locustiaid a'r difrod a achoswyd ganddynt. Y mae sôn am y locustiaid yn yr un bennod o Diarhebion (adn. 27): "Y locustiaid, nad oes ganddynt frenin, ond sydd i gyd yn mynd allan yn rhengoedd. A beth am y gacynnen? "Bydd yr Arglwydd eich Duw hefyd yn anfon cacwn i'ch plith, nes difa pob un fydd yn weddill neu yn cuddio oddi wrthych," (Deut. 7:20). Nid yw'r gwyfyn yn rhy ddistadl i gael sylw chwaith. Yr oedd lesu yn berffeithydd ymhlith athrawon am ddefnyddio damheg- ion a darluniau o fyd natur fel cyfrwng dysgu. Gwyddai ef am waith y gwyfyn yn difa: "Peidiwch â chasglu i chwi trysorau ar y ddaear, IIe mae gwyfyn a rhwd yn difa, a lle mae lladron yn torri trwodd ac yn lladrata," (Math. 6:19). Rhown y gair olaf i'r corryn neu'r pry copyn. Fe wyddom gyd am hwn ac y mae ei fywyd yn ddameg ynddo'i hun. Nid yw wedi methu sylw y gwr doeth yn Llyfr y Diarhebion: "Y pryf copyn a ymafaela â'i ddwylo, ac y mae yn llys y brenin, (30:28). Ond os yw'n niwsans frenhinoedd fel i'r gweddill ohonom, y mae hefyd yn greadur i'w edmygu: "Y mae'n adeiladu ei dy fel y pryf copyn, ac fel y bwth a wna 'r gwyliwr, (Job 27:18). Gobeithio ei fod yn ddigon anghyfforddus iti Frawd?'