Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y mae gennyf gyfaill sy'n gorffen pob llythyr o'i eiddo gyda'r gair Hebraeg "shalôm"; tra bod Arab sy'n gwneud ymchwil yn y Brifysgol yma yng Nghaer- dydd yn cyfarch pawb o'i gydnabod â'r gair "salaam". Heddwch yw ystyr y naill air fel y IIall; er hynny nid rhywbeth negyddol yw'r heddwch a ddymunir, ond rhywbeth positif. Yn wir, yn ei Iyfr bychan, The Greatest Old Testament Words, y mae'r Athro Edgar Jones yn rhoi'r penawd "Positive Peace" gyferbyn â'r gair "shalôm" ac yn dweud fod a wnelo'r gair â chyfanrwydd. Cyfannu a wna proses heddwch ac nid dileu hynny yw, cyfannu perthynas, nid yn gymaint dileu gelyniaeth. Fel cyfarchiad, nid dymuno bywyd yn rhydd o drafferthion a therfysg a wna "shalôm" a "salaam", ond yn hytrach dymuno bywyd yn llawn o'r daioni a'r bendithion sy'n gwneud bywyd yn gyflawn. EIRÉNÉ yw'r gair Groeg am "shalôm" a "salaam". Y mae i'w weld 91 gwaith yn y Testament Newydd ac ymddengys ym mhob un o lyfrau'r Testament Newydd, ag eithrio Epistol Cyntaf loan. Y mae'r Gymraeg yn ffodus o ddau air i'w gyfieithu, sef heddwch a tangnefedd, sy'n gyfuniad o'r ddau hen air tanc (heddwch) a nefedd (ffurf arall o'r gair "nefoedd"). Gellir dadlau, felly, fod y gair tangnefedd yn air diwinyddol, Cristnogol, positif, sy'n dwyn y nefoedd mewn i'r ystyriaeth o'r hyn yw EIRÉNÉ. Y mae'n cyfateb i "shalôm" a "salaam" gan olygu rhywbeth amgenach na heddwch y gair a arferir gennym yn fynych am "absenoldeb rhyfel a chynnen a therfysg". Yn wir, yr ydym yn aml yn rhyfygu drwy alw'n "heddwch" yr hyn a enillwyd drwy drais, oherwydd fel y dywed John Penry Jones: Taenu trais ar drais yn drwch Yw lladd i ennill heddwch. Ar adegau, fodd bynnag, dichon mai heddwch yw'r trosiad gorau o EIRÉNÉ yn y Testament Newydd. Er enghraifft, "telerau heddwch" a gais llysgenhadon EIRÉNÉ- Tangnefedd uwchlaw pob deall (Luc 14:32) ac onid "heddwch", yn hytrach na therfysg ac annhrefn, sy'n gweddu yn yr eglwysi (I Cor 14:33)? Ar yr un pryd, os daeth yr Arglwydd gan ddwyn cleddyf, nid "heddwch" y daeth (Mat. 10:34), er bod Cristnogion geisio'r pethau sy'n arwain at "heddwch" ac yn adeiladu perthynas gadarn â'i gilydd (Rhuf 14:19). Ond tangnefedd, y gair cyfoethocach, positif, sy'n cyfleu orau yr hyn oedd yn meddwl awduron y Testament Newydd gan fwyaf. Fel cyfarchiad y gwelir y gair EIRÉNÉ amlaf yn y Testament Newydd. Ym- ddengys yng nghwmni CHARIS (gras) dros ddwsin o weithiau, ac mae ei weld yng nghwmni'r gair hwnnw yn ein hatgoffa ei fod yn cynrychioli rhywbeth sy'n rhodd oddi wrth Dduw. Nid trwy ymdrech yr enillir gras nac EIRÉNÉ ond trwy eu derbyn yn rhodd gan y Duw a elwir chwe gwaith yn "Dduw'r heddwch" (Duw EIRÉNE). Duw yn unig all wneud bywyd yn gyflawn ac Ef, felly, yw ffynhonnell tangnefedd. Wrth gydweithio ag Ef yn unig y mae dyn yn derbyn tangnefedd. Ond os mai Duw yw'r ffynhonnell, Crist yw'r cyfryngwr. Ef, Tywysog tangnefedd, "ywein heddwch ni" (Eph. 2:14)oherwydd ei fod yn cyfannu'r berthynas rhwng dyn â Duw a gwneud tangnefedd yn bosibl. Yn wir, gallodd ddweud wrth ei ddisgyblion: Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; yr wyf yn rhoi i chwi fy nhangnefedd i fy hun. Nid fel y mae'r byd yn rhoi yr wyf fi yn rhoi i chwi. Peidiwch â gadael i ddim gynhyrfu'ch calon, a pheidiwch ag ofni (loan 14:27). Ac meddai Paul: Am hynny, oherwydd ein bod wedi ein cyfiawnhau drwy ffydd, y mae gennym feddiant ar heddwch â Duw trwy ein Harglwydd lesu Grist (Rhuf. 5:1). Ni all dyn, felly, ennill na chreu tangnefedd; dim ond ei dderbyn yng Nghrist. Er hynny, wedi i Gristnogion dderbyn tangnefedd Duw, dywed y Bregeth ar y Mynydd fod disgwyl iddynt fod yn "dangnefedd- weithredwyr" (dyna'r cyfieithiad llythrennol "peace-makers" yn Saesneg) ac yna cânt eu galw'n blant i Dduw. Golyga bod yn "dangnefedd-weithredwyr" fwy na bod yn rhai sy'n cymodi (cyfieithiad Islwyn Ffowc Elis yn Efengyl Mathew); golyga weithio adfer y cyfanrwydd i fywydau pobl eraill hefyd-a'r wobr fydd, cael ein adnabod yn blant i'n Tad (h.y., gwêl dynion ein bod gwmws 'run fath â'n Tad Nefol!). Yr oedd awduron yr Hen Fyd yn sôn llawer am werth tangnefedd ac am yr ymchwil amdano, eithr dengys y Testament Newydd ei fod yn dod fel canlyniad ymchwil Duw am ddyn-ond nid yw damaid llai ei werth oherwydd hynny. Yn wir, i'r emynydd di-enw, yr oedd uwchlaw pob pris: Pe cawn y ddaear gron A 'i holl bleserau hi, Mae heddwch Duw o dan fy mron Yn ganmil gwell i mi. D. HUGH MATTHEWS GWAHODDIAD I HYSBYSEBU Gwahoddwn chi hysbysebu yn CRISTION ar y telerau canlynol: £ c. Tudalen lawn ar y cefn, neu tu mewn i'r clawr cefn 100.00 Tu mewn i'r cylchgrawn: Tudalen lawn 90.00 Hanner tudalen 50.00 Chwarter tudalen 30.00 Cylchrediad ar hyn o bryd 2250.00 Anelir ei godi yn ystod 1991 i 3000.00 Cyhoeddir y cylchgrawn bob deufis sef: lonawr/Chwefror, Mawrth/Ebrill, Mai/Mehefin, Gorffennaf/Awst, Medi/Hydref, Tachwedd/Rhagfyr. Bydd yn ofynnol cael yr hysbyseb ar ddechrau'r mis o flaen y mis cyhoeddi. Am ffurflenni hysbysebu a manylion pellach an- foner at y Trefnydd Busnes, ALUN CREUNANT DAVIES, 3 Maes Lowri, Aberystwyth SY23 2AU. Ffôn: 0970 612925.