Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwyj Gerddi Cvmru. Glvn Ebwy 1992 YNGLYN Â'R WYL "Gŵyl Gerddi Cymru", prosiect £ 57 miliwn ar sane o 142 erw nid nepell o Lyn Ebwy yn cael ei chynnal rhwng misoedd Mai a Hvdref 1992. Ei phrif amcanion ydynt: · adennill a phrydferthu ardal o anialwch diwydiannol. · adfywio economi a bywyd cymdeithasol y gymuned leol, cymoedd diwydiannol y De yn ogystal â Chymru ben baladr · denu diwydiant a phobl i symud yn barhaol i'r ardal · rhoi i ymwelwyr o bob oedran, hil a chred brofiad hapus a byth gofiadwy. Dyma'r ŵyl gyntaf o'i bath yn y Deyrnas Unedig nas cynhaliwyd o fewn dinas fawr neu ardal ddiwydiannol enfawr. Yma defnyddir mynyddoedd a choedlannau naturiol i gyflwyno y llu deniadau. Bydd y 96 erw o dirluniad, ffyrdd newydd ac adeiladau yn aros, ac o werth parhaol i'r amgylchfyd. YMRWYMIAD "YR EGLWYSI YNGHYD" Crêd yr Eglwysi bod yn rhaid wrth bresenoldeb Cristnogol sicr gydol yr Wyl er mwyn dangos bod eu ffydd hwy yn y cymoedd yn cadarnhau ffydd llywodraeth, diwydiant a masnach. At hynny, mae'r digwyddiad yn her ac yn gyfle unigryw i efengylu a chyflwyno neges yr Eglwysi gan yr ystyrir yr Wyl yn dynfa dwristaidd fwyaf yn y wlad yn 1992, yn denu rhyw ddwy filiwn o ymwelwyr i'r ardal. O'r cychwyn cyntaf gwelwyd y byddai'r cynllunio, y cydgysylltu a'r trefnu ar gyfer ymdrech yr Eglwysi yn dasg enfawr, yn enwedig os am fanteisio'n llawn ar y cyfle godidog i ddangos sut y gall y gwahanol enwadau gydweithio a phob un gyfrannu i fywyd a diwylliant y genedl. Oddi ar fis Medi 1988, cyfarfu Pwyllgor, yn cynnwys cvnrychiohvyr o ddim llai na deg o enwadau a chymdeithasau Cristnogol o'r Ffydd Drindodaidd, yn gyson i ystyried sut i sicrhau presenoldeb effeithiol ar ran yr Eglwysi, a chytun- wyd bod yn rhaid amcanu at: Greu presenoldeb eglwysig nad yw'r gyfyngedig yn unig i safle benodol, ond a fyddai'n gyfraniad addas i ddig- wyddiadau arbennig a gweithgareddau eraill gydol yr Wyl gan adael dylanwad buddiol ac arhosol ar ei diwedd. Bwriedir gwneud hyn drwy, er enghraifft: · drefnu a rhedeg dathliadau, megis ar y Pentecost a digwyddiadau eraill ar y prif lwyfannau cyhoeddus · drefnu arddangosfeydd o waith a thystiolaeth Gristnogol i gynnwys cenadaethau, gweinidogaeth, gartref a thramor, datblygiad byd, addysg ac ymwneud â phob agwedd o fywyd pob dydd · darparu ar gyfer arddangos y llu gweithgareddau, sgiliau a chrefftau sy'n gysylltiedig â bywyd a gwaith ein Heglwysi · darparu gwasanaeth caplaniaeth ar gyfer staff ac ymwelwyr fel ei gilydd, gan gynnwys addoliad dyddiol I wneud hyn bydd angen adeilad addas ynghyd â gardd, a hyn fe obeithir fydd cyfraniad yr 'Eglwysi Ynghyd' i fywyd newydd, parhaol yn yr ardal. Wrth ymgyrraedd at yr amcanion rhain, bwriedir, yn frwdfrydig, hyrwyddo gwaith a dylanwad yr Eglwysi mewn ffordd ddeniadol, cyfoes a chyda golwg ar y dyfodol, ac felly adfywio ac adnewyddu'r ffydd Gristnogol ymysg yr ifanc a'r hyn fel ei gilydd. Er mwyn sicrhau gweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol, gwasanaethir v Prif Bwyllgor, sy'n un mawr, yn cynnwys o leiaf ddau gynrychiolydd o bob enwad sy'n ymwneud â'r fenter, gan bwyllgor llywio a phedwar pwyllgor arbenigol bychan, pendant eu cyfarwyddid, i ddelio gydag: · Ariannu a Chodi Arian в Eiddo · Rhaglen · Cyhoeddusrwydd Chyfathrebu Penodwyd Gweinyddwr llawn amser i gyd-gysylltu'r holl waith a'i gilydd a ffurfio dolen gyswllt gyda Chwmni'r Wyl a chyrff eraill o bwys. Yn olaf, y mae prif arweinwyr yr enwadau sy'n rhan o "Eglwysi Ynghyd" wedi penodi "Cysylltydd" fydd yn cydgysylltu gweithgareddau eu henwad a thrwy'r personau rhain y dylid sianelu syniadau a sicrhau'r llu gwirfoddolwyr sydd eu hangen i ddiogelu llwyddiant y gwaith. ARIANNU Gwneir cais i'r Comisiynwyr Elusennau i gofrestru'r prosiect yn Elusen. Er bod pob un o'r enwadau a'r cyrff crefyddol sy'n rhan o'r fenter wedi cyfrannu neu addo cyfraniad, y mae angen codi llawer iawn o'r hyn sy'n ofynol i gyfarfod â'r £ 150,000 angenrheidiol i sicrhau llwyddiant gŵyl sy'n ddiamau gyda'r mwyaf cyffrous yn hanes Cymru. I'r diben hwn gofynna'r Pwyllgor i'r Eglwysi, cyrff cysylltiedig, unigolion a chyrf eraill, os gwelwch fod yn dda, cyfrannwch y cyfan a allwch tuag at sylweddoli ei amcanion. TAIR FFORDD Y GALLWCH CHI HELPU 1. Anfon rhoddion at "Ymdrech yr Eglwysi Ynghyd" dlo Llys Ebwy Heol Alecsandra GLYN EBWY Gwent NP3 6JF 2. Rhoi swm sy'n rhodd o dreth yn ôl y Gift-Aid Scheme lle gall Eglwysi Ynghyd geisio ad-daliad o'r dreth ar rodd unwaith ac am byth o £ 600 neu fwy. 3. Noddi un neu fwy o'r gweithgarwch arfaethedig neu ran o'r costau megis argraffu, postio, cyhoeddusrwydd. Ymholiadau ar y ffôn os gweler yn dda i ROGER HARRIS 0495 307617 neu ysgrifennu i'r cyfeiriad uchod. Sieciau'n daladwy i: "Gwy1 Gerddi Eglwysi 1992".