Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DERFEL- SOSIALYDD A LLENOR (1824-1905) TOMOS RICHARDS Ganwyd Robert Jones, mab Edward a Catherine, ar y 24 Gorffennaf 1824 yn y Foty, rhwng Llandderfel a Bethel. Symudodd ei rieni Tan-y-ffordd, tŷ bychan yn ymyl Llandderfel. Aeth Robert oddi yno chwilio am waith ac wedi llawr o grwydro cafodd waith fel trafaeliwr yn swydd Stafford a rhannau o ganolbarth Lloegr a gogledd Cymru lawr hyd at Aberystwyth, yng Nghwmni J.F. a H. Roberts, Mancein- ion. Bu'n bregethwr cynorthwyol gyda'r Bedyddwyr ac yn ysgrifennydd i'r cof- nodolion, Y Tyst Apostolaidd a'r Greal. Y SOSIALYDD Trobwynt ei fywyd oedd, pan adawodd grefydd a throi yn sosialydd a rhesymolwr tan ddylanwad llyfrau Robert Owen. Yr oedd R.J. "Derfel", dyna yr enw a fabwysiadodd, yn un a gychwynnodd, yn 1890, y Manchester and District Fabian Society. Ysgrifennodd rhwng 1889 a 1904 lawer o tyfrynnau a cherddi yn Saesneg ar CYNHADLEDD AR Y CYFRYNGAU Hoffwn dynnu sylw darllenwyr Cristion at Gynhadledd ar y Cyfryngau i'w chynnal yn Llanidloes ar Fehefin 12fed, 1991. Cynhelir hon o dan nawdd M.A.P. (Media Awareness Project), sef cywaith ecwmenaidd ar y cyfryngau. Arweinydd y dydd fydd Cindy Kent. Eleni bydd y pwyslais ar y Wasg ond bydd panel o bobl y cyfryngau yno yn y prynhawn drafod cwestiynau. Gofynnir unrhyw un â diddordeb gysylltu yn gyntaf â Mrs. Bidi Griffiths, Bro Enlli, Ffordd y Gaer, Aberaeron, Dyfed SA46 OHZ. Ffôn (0545) 570 176. Bidi Griffiths, Aberaeron. Sosialaeth ac ynddynt yr oedd yn fwy o Oweniad nag o Ffabiad. Cyhoeddodd yn Y Cymro a Llais Llafur, rhwng 1892 a 1903, gyfres o Iythyrau ac erthyglau ar Sosialaeth y rhai cyntaf ymddangos yn yr iaith Gymraeg. Yn yr erthyglau hyn ceisiodd gysoni ei sosialaeth â Christnogaeth a chenedlaetholdeb. Daeth Derfel dan ddylanwad y mudiad seciwlaraidd, yn enwedig gweithiau Holyoake a Bradlough. Ysgrifennodd i'r Free-Thinker a chylchgronau agnostig. Roedd yn seciwlaraidd ei ysbryd yn y cyf- nod hwn a bu'n hwb Sosialaeth yn y Gogledd. Y LLENOR Roedd dawn "Ienydda, pryddesta ac emynu" yn ei waed. Ym Manceinion ffurfiwyd cymdeithas lenyddol o bedwar, "Creuddynfab", "Ceiriog", "Idris Fychan" a Robert Jones. Mynnodd yr olaf iddynt gymryd cyfenwau Cymraeg, a gosododd CYFROL I'W THRYSORI Flwyddyn yn ôl bu farw Mr. Aneirin Lewis, a fu hyd ei ymddeoliad yn Uwch- ddarlithydd yn Adran y Gymraeg vng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Roedd Mr. Lewis yn ysgolhaig manwl a chraff, ac yn un o'n hawdurdodau pennaf ar lên a dysg Gymraeg yn y ddeunawfed ganrif. Bu'n un o sylfaenwyr Cylch Llyfryddol Caerdydd, ac yn Drysorydd y Cylch o'r dechrau hyd ei farw. Er cof amdano, mae'r Cylch Llyfryddol yn bwriadu cyhoeddi cyfrol o'i ysgrifeniadau erbyn haf 1991. Ar ddechrau'r gyfrol, bydd ysgrifau coffa gan nifer o gyfeillion a chydweithwyr Mr. Lewis. Wedyn, yn eu dilyn, bydd detholion o amrywiol gyhoeddiadau Mr. Lewis ei hun, a'r rheini'n ddetholion o natur hunangofiannol yn bennaf. Yna, corff y gyfrol fydd rhai o brif erthyglau cyhoeddedig Mr. Lewis ar ddysg a llen y ddeunawfed ganrif, ynghyd â dwy ddarlith bwysig anghyhoeddedig, sef ei ddarlith i Gymdeithas Bob Owen ar 'Griffith John Williams a'i Llyfrgell' a'i Ddarlith Goffa GJ. Williams ar 'leuan Fardd a'i Gymdeithion'. "Derfel" ar ôl ei enw ei hun. Enillodd ar fân bryddestau mewn eisteddfodau, danfonodd i'r Amserau ddarnau o gerdd ar Reports of the Commissioner of Ençuiry into the state of Education in Wales; ataliwyd ei chyhoeddi ac argraffodd y gerdd gyfan dan yr enw BradyLlyfrau Gleision (1851). Datblygodd fel llenor ac yn 1864, cyfansoddodd Traethodau ac Areithiau, ac ynddynt dadleuodd dros Brifysgol Gymru, Llyfrgell Genedlaethol, llyfrgelloedd pentref, Amgueddfa Genedlaethol, ac ysgol gelfyddyd. Dengys y llyfr hwn ei fod yn un o arloeswyr y mudiad cenedlaethol yn y ganrif ddiwethaf. Ar wahân hyn cyhoeddodd, Derfel's School Series, cerddi Saesneg gyda nodiadau ar Llewelyn ap Gruffudd ac eraill, hefyd detholiadau o weithiau Scott, Coleridge a Wordsworth. Ar un adeg cyfrifid ef yn un o feirdd blaenllaw'r Cymry a dechreuodd gynhyrchu yn helaeth ond collodd ei ffordd a'i awch gan dreulio gormod o amser "bethe" Saesneg. Er hynny, yn 1865 cyhoeddodd Geiriau Moliant sef casgliad o emynau; "yr emynau hyn, Cymreig a chymdeithasol, yw ei gyfraniad arbennig emynyddiaeth Gymraeg" (D. Gwenallt Jones yn ei Detholiad o Ryddiaith Gymraeg). Cyfrol gain fydd hon, wedi'i hargraffu ar bapur o ansawdd uchel a'i rhwymo'n gadarn mewn rhwymiad lliain da. Amcan- gyfrifir y bydd y gyfrol yn ymestyn i tua 160 o dudalennau maint 9 x 7 Î4 ac y bydd yn costio tua £ 16 ynghyd â chludiad. Cyfrol i danysgrifwyr yn unig fydd hon. Ni fydd ar werth yn y siopau. Os am ei chael, felly, bydd yn rhaid ei harchebu cyn y dyddiad cyhoeddi. Mae'n sicr y bydd llawer o gyfeillion a chvn-ddisgyblion Mr. Lewis, ynghyd â llawer eraill o garedigion 'y pethe', am danysgrifio i'r gyfrol gyfoethog hon. Dylai'r sawl sydd am wneud, anfon amlen (wedi'i stampio a chyda'u cyfeiriad arni) at Ysgrifennydd y Cylch Llyfryddol Mr. E. Wyn James, 16 Kelston Road., Yr Eglwys Newydd, Caerdydd CF4 2AJ fel y gellir anfon ffurflen danysgrifio atynt pan fydd y manylion terfynol wedi'u cwblhau. Yr eiddoch yn gywir, E. WYN JAMES Ysgrifennydd Cylch Llyfryddol Caerdydd