Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWIS YSGRYTHUROL Y Groglith a'r Pasg Darllenwch hanesion y Dioddefaint a'r Pasg yn y pedair efengyl ac atebwch y canlynol: 1. Yn ystod prawf lesu pa beth a barodd Peilat "ofni yn fwy byth"? 2. Pa un o'r efengylau na sydd â sôn ynddi am (a) lesu yn gweddïo yn yr ardd; (b) sefydlu Swper yr Arglwydd; (c) Simon o Cyrene yn dwyn croes lesu? 3. Pa dri digwyddiad sy'n driphlyg yn yr hanes yn arwain at y croeshoelio? 4. Pa beth oedd yr arfer ar yr ŵyl y ceisiodd Peilat fanteisio arni ryddhau lesu? 5. Yn ôl loan pwy oedd gyda Joseff o Arimathea yn gosod corff lesu yn y bedd? 6. Pa sawl disgybl a drodd at bysgota wedi'r croeshoeliad? Pwy oedd y rhai a enwir? 7. Pa un o'r efengylwyr sy'n sôn am osod gwarchodlu i wylio'r bedd ac yn sôn am ddaeargryn fore'r atgyfodiad? 8. Ymha Ie mae Paul yn rhestru rhai o ymddangosiadau lesu? 9. Pwy ddywedodd y canlynol ac wrth bwy? "Pam y ceisiwch ymhlith y meirw yr hwn sy'n fyw?" 10. Yn ôl Efengyl Luc pa eiriau oedd y rhai cyntaf a lefarodd lesu wrth yr "Un- arddeg a'u dilynwyr wedi ymgynnull ynghyd"? (Croeso'n ôl dudalennau Cristion i'r Parchg. Haydn Davies, Caerfyrddin a'i Gwis Ysgrythurol). MYFYRDOD AR Y PASG TROI BEDD YN GRUD ELWYN RICHARDS Fe fyddwn ni’n dathlu Pasg eleni a'r gwan- wyn eisoes wedi bod wrthi yn cynhyrfu'r tir ers rhai wythnosau. Wedi llymder a noethni'r gaeaf fe ddaeth yr eirlysiau a'r cennin pedr a'r briallu yn eu tro godi'n calon, ac erbyn y daw'r gog ganu fe fyddwn ninnau'n sylweddoli na ellir dal yn ôl y bywyd newydd. Onid yw dyfodiad y gwanwyn yn wyrthiol? Y mae marwolaeth, fel petai, yn rhoi lle fywyd ac nid oes ryfedd amryw ddisgrifio'r wyrth fel atgyfodiad. Ac eto, gwae ni, os awn i feddwl am atgyfodiad lesu fel rhan o'r un broses naturiol, digwyddiad i'w ystyried ar yr un tir â deilio'r coed yn y gwanwyn. Pethau y bu ni eu disgwyl ac y gallwn eu rhagdybio yw digwyddiadau felly, ond atgyfodiad lesu Grist oedd y peth mwyaf annisgwyl ac an- naturiol a ddigwyddodd erioed yn holl hanes dynion. Yn sicr nid oedd y disgyblion wedi rhagweld y byddai lesu yn dod yn ôl oddi wrth y meirw. Y diwrnod mwyaf tywyll ac anobeithiol yn eu hanes hwy oedd dydd Gwener y Groglith. Gwastraff a methiant oedd bywyd lesu os mai ei ddiwedd oedd marw fel hyn, ac er iddynt gladdu ei gorff Llyfr Garawys Archesgob Cymru 1991 THE OPENED DOOR A CELTIC SPIRITUALITY EY FATMCK THOMAS Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu cryn ddiddordeb mewn Ysbrydoledd Geltaidd a chafwyd saw/ cyhoeddiad yn Saesneg yn ym- drîn â gwahano/ agweddau ar dduwioldeb a'r traddodiad ysbrydol o fewn y gw/edydd Celtaidd. Er hynny, erys yn bwnc annelwig a digon anodd ei ddiffinio. Ond yn The Open Door A Celtic Spirituality, ceir gan y Dr. Patrick Thomas ddehongliad clir o rai haenau mewn bedd a oedd mewn gardd ni ddisgwyliodd yr un ohonynt weld troi y bedd hwnnw yn grud i fywyd newydd. Ac eto, dyna ddigwyddodd yng ngardd yr atgyfodiad. 'Ond cyfododd Duw Ef,' meddai Pedr. Fe fynnodd Duw barhau y bywyd a ddiddymwyd, 'doedd o ddim am adael angau gael y gair olaf. Ac os yw'r esboniad yn swnio'n anhygoel go brin yr ymddengys felly os y cofiwn ni sut ber- thynas oedd yr un a ffynnodd rhwng lesu a Duw, oherwydd cariad oedd defnydd y berthynas honno a'r hyn a wnaeth Duw wrth atgyfodi lesu oedd arddel y berthynas a fodolai rhynddynt. Duw a arddelodd Fab y Dyn: Cyfododd ef â'l law ei hun Yn Geidwad nef a llawr. A llawenydd y Pasg yw ei fod Ef o hyd yn cynnig yr un berthynas i ninnau. O'r 'Cylch', cylchgrawn gofalaeth Porthaethwy. Y Parchg. Elwyn Richards yw Gweinidog gofalaeth y Garth, Porthmadog. o ysbrydoledd y saint Celtaidd cynnar, haenau a erys yn elfennau nodweddiadol o fewn Cristnogaeth Gymraeg. Y "drws agored" yw'r trydydd drws yn y neuadd fawr yng Ngwales, Penfro, yn chwedl Branwen yn y Mabinogion. Dehonglir ei ar- wyddocâd yng ngoleuni cerdd Gwenallt Y Drws yn Gwreiddiau, sef drws yn agor ar realrwydd bywyd ac yn ein galluogi i weld cyfanrwydd y greadigaeth o fewn cylch cariad Duw. Gan dynnu ar fucheddau'r saint Celtaidd, Non, Pedrog, Gofan, Silyn, Brynach, Teilo a Dewi, dehonglir gwahanol agweddau ar yr ysbrydoledd netol-ddaearol hon, gyda chyfeiriadau at feirdd ysbrydol mwy diweddar, megis Ann Griffiths, Waldo a Gwenallt. Y mae'n drueni mai yn Saesneg yn unig y cyhoeddir y llytryn. Byddai argraffiad Cymraeg, neu ddwy-ieithog, wedi bod yn gymwynas fawr i Gymry Cymraeg sydd, at ei gilydd, yn ddigon dibris, neu anwybodus, o'r etifeddiaeth hynafol, gyfoethog hon. Y mae'n arwyddocaol mai Sais pur a ddysgodd Gymraeg yn drwyadl, a welodd ac a esboniodd inni elfennau yn ein hetiteddiaeth ysbrydol sy'n ddieithr i lawer ohonom. Y mae copïau o'r llyfryn i'w cael oddi wrth Cyhoeddiadau Silyn, Y Rheithordy, Brechfa, Caerfyrddin, Dyfed SA32 7RA. Pris £3 (yn cynnwys cludiant).