Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gyda'th Eglwys fawr yn y nef ac ar y ddaear addolwn a chlodforwn di, O Dduw, am i ti roi i ni dy Fab Iesu Grist i rannu ein bywyd, i ddwyn ein gofidiau, ac i ddileu ein pechodau. Wrth fyfyrio ar aberth ei groes, arwain ni i ddirgelwch ei ddioddefiadau, fel y gwelwn mai trwy aberthu y mae'n teyrnasu, trwy garu y mae'n gorchfygu, trwy ddioddef y mae'n achub, a thrwy farw y mae'n estyn i ni fywyd tragwyddol. Gofynnwn am dy gymorth, O Dduw Dad, i agosáu at groes dy Fab Iesu Grist. Mor amharod yr ydym i droi ein golwg at Galfaria ac i syllu ar y Crist sy'n dioddef a marw ar y pren. Ni fedrwn amgyffred dyfnder ei ing a'i drallod, ei unigrwydd a'i warth. Ni fedrwn ddeall dallineb a chreulondeb dynolryw yn gwrthod ac yn lladd Mab Duw. Er hynny, cawn ein tynnu at y Croeshoeliedig Un: "A minnau, os caffy nyrchafu oddi ar y ddaear, a dynnaf bawb ataffy hun Ein denu ati mewn rhyfeddodd a gweddi a wna croes dy Fab o hyd, ac ni fedrwn ddianc rhagddi. Rho i ni gymorth i edrych ar archollion yr hoelion a'r bicell fain, ar y goron ddrain blethedig, ar y gwaed, y chwys a chwysau'r fflangell, ac ar welwder ei wedd. Rho i ni gymorth i wrando- ar ei ocheneidiau dwys, ar wawd ac anfri'r dyrfa, CROGLITH "Prawf Duw o'r cariad sydd ganddo tuag atom ni yw bod Crist wedi marw drosom." (Rhuf. 5:8). "Dyma Oen Duw sy'n cymryd ymaith bechod y byd." (Ioan 1:29). "Teilwng yw'r Oen a laddwyd i dderbyn gallu, anrhydedd, gogoniant a mawl" (Dat. 5:12). ar ei eiriau o gariad a maddeuant, ac ar ei waedd olaf fuddugoliaethus. Rho i ni gymorth i dderbyn- i gydnabod ein rhan ym mhechod a gwrthryfel byd a groeshoeliodd Iesu Grist, i brofi'r maddeuant sy'n dileu ein camweddau, ac i dderbyn y bywyd newydd a ddaw o'i angau drud. O Arglwydd Iesu Grist, er na fedrwn ddeall dyfnder a dirgelwch dy aberth, addolwn di mai drosom ni y buost farw i ddatguddio i ni gariad y Tad, i'n cymodi ni â Duw ac â'n gilydd, ac i agor i ni byrth y bywyd tragwyddol. Am i ti, yn dy ddioddefiadau, dy uniaethu dy hun â gofid a phoen y byd, gweddïwn dros deulu poen ymhob man: y rhai sy'n dwyn croes afiechyd a llesgedd, y rhai sydd yng nghafael iselder ysbryd, a'r rhai sy'n colli gobaith; y rhai sy'n dwyn croes galar a thristwch, y rhai sydd mewn profedigaeth, a'r rhai y mae hiraeth ac unigrwydd yn eu llethu; y rhai sy'n dwyn croes gormes a thrueni, y rhai sy'n nychu o brinder bwyd, a'r rhai sy'n dioddef gwaradwydd oherwydd eu cred neu lliw eu croen. Ti, a brofaist holl boenau teulu'r llawr, rho i'th blant anghenus ymhob man dy bresenoldeb yn eu gofidiau, dy dangnefedd yn eu helbulon, a'th nerth yn eu gwendidau. Ac i ti, O Grist, Arglwydd y cariad tragwyddol, gyda'r Tad a'r Ysbryd Glân, y byddo'r clod a'r gogoniant byth bythoedd. Amen.