Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GOLYGYDDOL CREFYDD A BYWGRAFFIADAU "Hanes yn ei hanfod yw bywgraffiadau di- rif" meddai Thomas Carlyle, ac aeth Emerson ymhellach fyth trwy ddatgan nad oes y fath beth â hanes ar wahân i fywgraffiadau damcaniaeth a wrthodir yn bendant gan y mwyafrif o haneswyr erbyn hyn. Twf a datblygiad mudiadau a dylan- wad ffactorau economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol yw'r pethau pwysig yn eu golwg hwy. Ac eto sawl mudiad neu ymgyrch o bwys a ddaeth i fod yn union- gyrchol o ganlyniad i weledigaeth ac ymdrech unigolion? A fyddai Comiwnydd- iaeth y ganrif hon wedi egino ac ymledu fel y gwnaeth heb Karl Marx? YR UNIGOLYN A CHYMDEITHAS Er bod hanes crefydd yn fwy na chyfres o hanesion am saint, diwygwyr ac arwyr ffydd yr oesau, eto y mae i gyfraniad ac argyhoeddiad personau unigol le eithriadol bwysig yn natblygiad y ffydd ac yn nhwf a dylanwad Cristnogaeth dros y canrifoedd. Y mae a wnelo crefydd y Beibl â bywyd mewn cymdeithas ac â gweithgarwch creadigol ac achubol Duw yn hanes ei bobl y Genedl yn yr Hen Destament a'r Eglwys yn y Testament Newydd. Ond ar yr un pryd, pa sawl gwaith y rhoddir cyfeiriad newydd fywyd y genedl a'r gymdeithas gan weledigaeth, ffydd ac ufudd-dod unigolion a godir gan Dduw i fod yn broff- wydi i'w cyfnod? Ffydd bersonol yw person yn rhannu ym mhroffes teulu'r ffydd, ac nid oes y fath beth â phrofiad ysbrydol unigol ond oddi Shetter A OES UNRHYW UN YNA? Dyma'r cwestiwn y mae Shelter Cymru yn ei ofyn fel rhan o'i ymchwil i mewn i ddarpariaeth cyngor ar lety yn y Gymru wledig. Yn ystod yr ymchwil hon, bu Shelter Cymru yn cysylltu â'r awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, Canolfannau Cynghori ac asiantaethau eraill yn Nyfed, Gwynedd a Phowys, ac y mae'r canlyniadau cyntaf yn awgrymu bod cyngor arbenigwyr ar lety a thai yn brin iawn, a dim yn bodoli o gwbl mewn ambell i ardal. Mae'r rhan fwyaf o'r awdurdodau lleol a'r cymdeithasau tai a holwyd yn rhoi cyngor mewn i fywyd y gymdeithas ysbrydol. Ond y mae'r gwrthwyneb hefyd yn wir. Athrawiaeth haniaethol farw yw proffes teulu'r ffydd heb i'r broffes honno droi'n ffydd ac argyhoeddiad tanbaid yng nghalonnau unigolion. A beth yw profiad ysbrydol y gymdeithas ond eneidiau unigol yn canfod ac yn rhannu yr un profiadau cyffredin-y profiad unigol yn cyfoethogi bywyd y gymdeithas a'r gymdeithas yn ei thro yn porthi a chyfeirio profiad yr unigolyn? Fel y rhoddodd Mrs. Thatcher ei throed ynddi pan ddatganodd nad oedd y fath beth â chymdeithas dim ond casgliad o unigolion, yn yr un modd y mae syniad Carlyle ac Emerson am hanfod hanes yn annerbyniol. Eto, rhaid cydnabod bod y berthynas rhwng y personol a'r cymdeithasol, yr unigol a'r torfol, mewn hanes, cymdeithas a chrefydd, yn bwnc rhy gymhleth i'w ddiffinio'n foddhaol mewn un dyfyniad slic. HIRAETH AM A FU? Y rheswm dros dilyn y trywydd hwn yw'r ffaith fod gennym fwy nag arfer o ysgrifau yn y rhifyn hwn yn ymwneud â phersonau unigol: John Macquarrie y diwinydd cyfoes; George Macleod yr arloeswr aflonydd; Mark Rutherford y llenor, a'r Dr. Helen Rowlands y genhades. Ac wrth gwrs, yr ydym eisoes eleni wedi rhoi sylw i Bantycelyn a John Wesley. Ai hiraeth am y gorffennol, nostalgia am 'oes aur' a fu, sy'n cyfrif am ein diddordeb yn ffigurau ddau grwp yn unig, eu tenantiaid pres- ennol ac ymgeiswyr eraill y mae'n ofynnol arnyn nhw, yn ôl y gyfraith, i roi cartref iddynt. Mae llawer yn ei chael yn anodd i wneud mwy oherwydd prinder adnoddau yn nhermau gweithwyr a chyllid. Bu'r ymateb o Ganolfannau Cynghori yn yr ardaloedd hynny yn dweud yr un stori. Gwelsant gynnydd dramatig yn y niferoedd ac yng nghymlethderau'r problemau llety sydd yn dod mewn trwy'r drws. Dywedodd trefnydd un ganolfan: "Mae'r cyngor rydym yn ei gynnig yn gyffredinol. Mae ein gweithwyr yn ei chael yn fwyfwy anodd i ddelio gyda rhai o'r problemau arbennig y mae ein hymgeiswyr yn eu cael ynglŷn â llety. Mae'n arbennig o drist gweld y niferoedd o bobl ifanc digartref sydd yn troi atom ni am gymorth, gan nad oes ganddyn nhw ddim man arall i fynd. Mae angen mawr am gyngor arbenigol ar dai a llety yn yr ardaloedd gwledig hyn nid problem i'r trefi a'r mawr hanes y ffydd? Nid o angenrheid- rwydd. Bu arwyr y ffydd yn ddieithriad yn bobl â'u llygaid tua'r dyfodol. Gweld methiant yr Eglwys i ymateb yn greadigol i broblemau ei gyfnod, oherwydd ei chaethiwed i hen rigolau'r gorffennol a'i hymlyniad wrth hen batrymau o addoli a chenhadu a bywyd eglwysig, a barodd i George Macleod fentro ar ei gynllun i ailadeiladau hen Abaty lona i fod yn ganolbwynt math newydd o gymuned Gristnogol. Er iddo dynnu ei ysbrydoliaeth o'r gorffennol, creu ac adeiladu ar gyfer y dyfodol oedd ei fwriad. Y canlyniad fu iddo, nid yn unig roi cyfeiriad newydd spon i fywyd eglwysig yn yr Alban, ond llwyddodd i ysbrydoli a thanio ffydd miloedd o bobl o bob gwlad a phob traddodiad. Fel y dengys John Tudor yn ei deyrn- ged ragorol iddo, nid chwilio am amlygrwydd a chlod iddo'i hun oedd bwriad Macleod, ond grymuso tystiolaeth yr Eglwys a dwyn yr efengyl i gyffyrddiad real, achubol â bywydau pobl. Llwydd- odd i wneud hynny ac i gyfoethogi bywyd y gymdeithas Gristnogol, ac yng Nghymuned lona darparodd i'r Eglwys gyfrwng effeithiol i wynebu'r dyfodol. Fel llawer arloeswr a diwygiwr mawr arall, yr oedd Macleod yn gynnyrch ei gymdeithas, ei genedl a'i eglwys, ac eto yr oedd yn unigolyn deinamig, aflonydd a chreadigol, ond unigolyn a gyfeiriodd ei welediaeth a'i egni i rymuso'r gymdeithas. Dyna ogoniant a chymhlethdod y berthynas rhwng yr unigol a'r cymdeithasol yn hanes eglwys lesu Grist. Un esiampl, nodwedd- iadol o filoedd o rai tebyg, yw stori George Macleod. E. ap. N.R. dinasoedd yn unig mo digartrefedd, mae rhaid i ni ddelio â'i effeithiau bob dydd". Cyhoeddwyd canlyniadau'r ymchwil hon mewn adroddiad a gyflwynwyd i Gyfarfod Blynyddol Cyffredinol Shelter Cymru a gynhaliwyd ym Mangor ar 20 Gorffennaf. Dywedodd John Puzey, Cyfarwyddwr Shelter Cymru, wrthym: "Nid yw canlyniadau cyntaf ein hymchwil yn ein syfrdanu o gwbl rydyn ni ond yn rhy ymwybodol o brinder darpariaeth cyngor ar dai a llety yn yr ardaloedd gwledig. Dyna paham yr ydym wedi penderfynu gwneud hyn yn thema ein cynhadledd eleni a bydd y diwrnod yn cynnwys gweithdai a thrafodaethau bywiog ary testun allweddol mewn cyfnod o argyfwng cynyddol my myd tai a llety". Daeth llawer o fudiadau gwirfoddol a statudol o bob cwr o Gymru i'r gynhadledd. Dylai unrhyw un sydd am fwy o wybodaeth gysylltu â Sharon Mainwaring yn Swydd- feydd Shelter, 25 Heol Walter, Abertawe.