Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Can mlynedd yn ôl i eleni ganed Dr. Helen Rowlands, y Genhades. LENA ALWYN I. WiLLIAMS A gwn fod "Lena'r Borth" mewn sgrifen aur Ar restr anrhydeddau Mab y Saer." (J. Edward Williams) Mewn pentref ar gyrion Bangladesh, nid nepell o Karimganj, y mae nifer o bobl ifanc ar fin terfynu'u cwrs ysgol, ac yn edrych ymlaen at ddechrau yn y coleg technegol yn y dref gyfagos. 'Chlywson 'nhw 'rioed am Borthaethwy, a dydi'r 3ydd Ebrill 1891 yn golygu dim iddynt. Ond efallai y byddai taid neu nain un ohonynt yn gwybod mai dyna fan a dyddiad geni Dr. Jane Helen Rowlands, un o gymwynaswyr mawr ardaloedd Sylhet, Karimganj, Silchar a Darjeeling. Rhif 1, Fair View Terrace, Porthaethwy oedd cartref Dr. Helen (Lena i'w chyfeillion), ac yno yng nghwmni ei brodyr, daeth mor fedrus ag unrhyw fachgen mewn chwaraeon a champau, ping-pong, drafftiau ac, ie wir, cardiau. Ond un o bobl y "pethe" oedd Lena, a'r capel a gweithgareddau diwylliadol yn mynd â'i bryd. O Ysgol Ramadeg Beaumaris aeth i'r coleg ym Mangor i ennill gradd mewn Ffrangeg. Yn ddiweddarach yn ei gyrfa cafodd M.A. Prifysgol Calcutta a D. Lit. y Sorbonne, Paris. Yn Hydref 1916 hwyliodd o Lerpwl am yr India. Roedd y rhyfel mawr yn ei anterth a rhywle rhwng Marseilles a Port Said gwelsant long arall, yr Arabia, o dan ymosodiad gan gwch tanfor Almaeneg, ac yn suddo. Trodd y gelyn a thanio dau dorpîdo atynt ond trwy lwc (neu, fel y dywedodd Lena, trwy drefn rhagluniaeth) methodd y ddwy ergyd. Dechrau garw i'r antur fawr! Ond nid dyma'r lle i roi hanes bywyd a gwaith Dr. Helen Rowlands, dim ond dwvn i gof canmlwyddiant ei geni. Pan fyddai Dr. Helen Rowlands gartref ar seibiant byddai o leiaf un cyfarfod arbennig i ysgolion Sut y fro ymuno i glywed anerchiad ganddi, ac mae gennyf atgof da iawn am ddau o'r ymweliadau hyn, ac atgof hefyd ohoni yn cael te yn nhy nain. Braidd yn anesmwyth oeddwn yn ei phresenoldeb. Yn sicr 'roedd cariad a charedigrwydd yn rhinweddau amlwg o'i phersonoliaeth, ond mae'n debyg fod y llygaid treiddgar, cadernid ei chymeriad a'i dull ymadrodd digyfaddawd yn anesmwytho plentynt ifanc swil a drwg. Un o emynau poblogaidd yr ysgolion Sul, -bron hyd at syrffed-oedd "Iesu, cofia'r plant". Dichon na chlywn ei ganu eto: "Draw, draw yn China a thiroeddjapan, Plant bach melynion sy'n byw; Dim ond eilunod o'u cylch ym mhob man, Neb i ddweud am Dduw Mae peth o'r emyn yn angof gennyf bellach, ond yn rhyfedd iawn mae un Uinell wedi aros dros y blyn- yddoedd, ac am ryw reswm yn gysylltiedig yn fy meddwl â Helen Rowlands: Plant bach a chysgod y nos ar eu bron Rhoddodd Helen Rowlands ei bywyd i ddileu y cysgodion hyn, ac i ddwyn plant i oleuni teyrnas Dduw. Un o'i gweithrediadau olaf oedd sefydlu cartref yn Karimganj i achub merched a phlant o amgylchiadau truenus. Enw'r cartref oedd "Diþti Nibash'; hynny yw, Annedd Goleuni. (O'r "Cylch" cylchgrawn gofalaeth Porthaethwy). GWASG Y LOLFA'N CYHOEDDI HEDDWCH! Cyhoeddwyd casgliad o Ganeuon Heddwch gan Wasg y Lolfa ar 24 Ebrill 1991. Cafwyd y syniad gan y Wasg i gyhoeddi casgliad o ganeuon heddwch yn ystod Rhyfel y Culfor pryd y gwelwyd y galw am Iyfryn o ganeuon heddwch yn Gymraeg. Er bod Rhyfel y Culfor wedi dod i ben, dywed Robat Gruffudd, cyfarwyddwr Gwasg y Lolfa, nad oes esgus i newid y penderfyniad i gyhoeddi: "Mae'r Brawd Mawr Prydeinig a'i weision bach Cymreig yn siwr o'n llethu eto â phropaganda a chelwyddau noeth. Mae angen am ganu caneuon heddwch, beth bynnag fo newyddion swyddogol y dydd. Ac mae angen eu canu'n Gymraeg." Gobaith Gwasg y Lolfa, wrth gyhoeddi'r gyfrol, yw y bydd y caneuon yn fodd ledaenu neges heddwch yn y Gymraeg. Ymhlith y deugain cân amrywiol a geir yn y gyfrol y mae caneuon newydd sbon a gyfansoddwyd gan Mair Tomos Ifans. Casglwyd y caneuon at ei gilydd gan Lleucu Roberts, golygydd Y Lolfa, a dyluniwyd y clawr gan Marian Delyth. Os ydych am ragor o fanylion ynglŷn â'r gyfrol hon mae croeso i chi gysylltu â Meinir Vittle, Gweinyddwraig y Lolfa. Gwasg Pantycelyn, Caernarfon DYDD Myfyrdodau a Gweddïau Beunyddiol gan Roberts. Pris: £4.49. LLITH Pris: £5.25.