Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWEINIDOGAETH GWRANDO PETER M. THOMAS Un peth yw clywed, peth arall yw gwrando, ac er bod y ddeupeth yn canoli ar y glust y mae'r gwahaniaeth rhyngddynt yn fawr. Mae'n siwr y medrwch chi fel finnau gofio bod mewn gwers ysgol rhywdro a'r athro neu'r athrawes wrthi yn ein dysgu, ond am fod y meddwl wedi crwydro ymhell y prynhawn hwnnw, bach iawn a gofiwn o'r wers. Yr oeddem wedi clywed y geiriau yn iawn, ond am nad oeddem wedi gwrando ni ddysgwyd dim. A chyfrinach gwrando sydd wrth wraidd y math arbennig o weinidogaeth a gynigir fel rhan o'r fugeiliaeth Gristnogol ac a gyfeirir ati fel "Gweinidogaeth Gwrando". Y mae Anthony Bloom yn cyfeirio yn ei Iyfr "School for Prayer" at y profiad a gafodd un haf pan mewn gwersyll pobl ifanc. Un o arweinyddion y gwersyll oedd offeiriad, ac fe welodd yr awdur ym mhersonoliaeth y gwr hwnnw rywbeth na welodd o'r blaen, sef teyrngarwch a chariad a chonsarn cyffredinol tuag at bawb oedd yn y gwersyll, a'r nodweddion hynny yn cael eu cynnig yn ddiamod a diwyro. Fe edrydd Anthony Bloom y profiad hwnnw yn ei Iyfr, gan ychwanegu y sylw fod y cyfarfyddiad hwnnw â'r offeiriad wedi peri iddo ganfod rywbeth gwir arbennig, sef y gallu oedd gan hwn i dderbyn pobl fel yr oeddent ac i fod yn barod i rhoi clust i'w hanghenion a'u problemau. Dysgu'r gyfrinach honno a meithrin y peth ar- bennig hwnnw sy'n ennyn ymddiriedaeth mewn cyfathrach, yw'r gamp mewn perthynas â gweinidogaeth gwrando. YMWYBOD Â'R HUNAN Yr anghenraid cyntaf yw datblygu o'n mewn ymwybyddiaeth o'n hunain. Ni fedrwn arwain pobl eraill ymhellach na'r fan yr ydym ni ein hunain wedi ei chyrraedd. Os ydym am ddysgu gwrando ar eraill, y mae'n angenrheidiol ein bod yn cychwyn gydag ymwybyddiaeth o'r hyn sy'n mynd ymlaen o'n mewn ni ein hunain, neu fe ddown wyneb yn wyneb â sefyllfa'r smotyn yn llygaid ein brawd a'r trawst yn ein llygaid ein hunain. Efallai, ar adegau, y gwnawn ddargan- fod fod seiniau allanol y byd yn ddim o'u cymharu â'r seiniau sy'n diasbedain o fewn ein hunain, a bydd yn rhaid rhoi clust i'r pethau hynny yn gyntaf. Ond o osod ein ty ein hunain mewn trefn, gallwn symud ymlaen. Heb gymryd y cam hwn, bydd ein cyflwr ein hunain yn ein rhwystro rhag gweld pethau fel ag y maent a derbyn pobl fel ag y maent mewn gwirionedd, gyda'u rhagdybiaethau a'u rhagfarnau. Wrth ddatblygu ymwybyddiaeth o'n hunain, dysgwn sylwi ar bobl eraill a'u derbyn, a gwneud hynny heb feirniadaeth a heb gosod ein hunain i fyny yn farnwyr, gan ein bod ninnau hefyd yn ceisio rhyddhau'n hunain, yn ogystal ag eraill, o agweddau felly. Y mae M. Scott Peck yn ei llyfr The Road Less Travelled, yn defnyddio'r term "Bracketing" ddynodi'r angen i osod o'r neilltu ein hagenda ni ein hunain am gyfnod penodol, er mwyn gwrando ar arall. Y DUEDD I DARFU Y mae'r gwrando hwn yn cynnwys, nid yn unig y ddeialog sydd yn mynd ymlaen o'n mewn, sef y gwrthdaro hwnnw sydd yn ein bywydau mewnol ni ac a sbardunwyd gan "Os ydym am ddysgu gwrando ar eraill, y mae'n angenrheidiol ein bod yn cychwyn gydag ym- wybyddiaeth o'r hyn sy'n mynd ymlaen o'n mewn ni ein hunain." brofiad yr arall, ond yr holl draws- gyfeiriadau sy'n codi tra fyddwn yn gwrando; er enghraifft, yr awydd i anghydweld neu gyd-weld; y dymuniad i rhoi coron ar stori rhywun arall gydag un eich hunan trwy ddweud, "Fe ddigwy- ddodd yr un peth i mi hefyd!" Mewn gwirionedd, fe ddown yn ymwybodol iawn o'r cymhelliad cryf hwn o'n mewn i darfu, neu addasu, neu orffen brawddegau pobl, i wneud awgrymiadau, neu lanw tawelwch rhywun arall, am ein bod yn ei chael yn anodd dygymod â'r tawelwch hwnnw. Ond a derbyn ein bod yn llwyddo i osod yr holl bethau hynny o dan glo am ennyd, ac nid tasg fechan mo honno, yr hyn fydd gennym ar ôl fydd person sydd wedi ymlacio, yn wrandawr llwyr a chyflawn, ac wedi ei diwnio i donfedd yr arall. Mae ein hagwedd a'n hymateb yn bwysig wrth wrando, gall iaith-corff darfu ar yr un sy'n rhannu golwg sarrug, neu wên set. Nid ydym chwaith i fabwysiadu masg, ond i ymateb i'r person o'n blaen yn yr un modd â chwareuwr tennis da wrth ddisgwyl pelawd, ein hosgo'n effro a pharod i dderbyn yr hyn a gyflwynir gan yr arall a bod yn hyblyg o ran ein hymateb iddo. Y mae datblygu rhyw gymaint o ar- wahanrwydd hefyd yn fanteisiol, sef y ddawn i adael i'r person sy'n rhannu â chwi weld ei hunan, yn hytrach na'n gweld ni. Cyfrwng yw'r gwrandawr, drych iddo weld yr hyn ydyw yn ei gyfoeth rhyfeddol. Y TEIMLADAU BRIW Y mae'r teimladau a'r profiadau sy'n cael eu cyfleu yn bethau y mae cymdeithas yn