Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

eu cael yn anodd i'w hysgwyddo ac yn aml yn dueddol o'u hosgoi, yn arbennig y teimladau o loes a dieter, o ddychryn a thristwch. Ond y gwir amdani yw fod yn rhaid rhoi cyfle i deimladau felly godi i'r wyneb o wahanol gyflyrau dynol er mwyn delio â nhw yn wrthrychol, yn hytrach na'u cadw o dan wasgfa lle maent yn medru suro a niweidio. Y mae dagrau yn iachusol ac yn angenrheidiol, ac yn hytrach na dweud, "Dyna fe nawr, stopiwch â chrïo, mae popeth yn iawn", a chywasgu'r profiad, dylem mewn modd tyner adael iddo rhedeg ei gwrs ac o wneud hynny gadael i'r person arllwys o'i god y teimladau a gafodd gynt eu cywasgu. Y mae meithrin awyrgylch lle y mae y person sy'n rhannu yn teimlo ei fod yn cael ei dderbyn ac nad oes dim bygythiol yn y berthynas, yn fodd i ysgogi gwellhad ac i ailasesu ymddygiad mewn perthynas ag eraill, yn ogystal â thuag atynt eu hunain. O ganlyniad fe ddont yn fwy hael yn eu hagwedd ac yn fwy agored a chariadus, ac os yw eu hymddiriedaeth mewn arall wedi ei niweidio, daw cyfle iddynt ymddiried o'r newydd. Felly, wrth fod yn ymwybodol o'r chymhlethdod dyrys a rhyfedd sy'n rhan o'r bersonoliaeth ddynol, ac wrth fod yn gyfryngau cymorth i ddatgloi'r cymhlethdod sy'n madru a llesteirio datblygiad cyflawn y bersonoliaeth honno, fe anelir, trwy weinidogaeth gwrando a chynnal, i gyfeirio pobl i sylweddoli eu potential llawn a'u gwerth. Y Parchg. Peter M. Thomas yw gweinidog eglwysi Bethel, Aberystwyth a Horeb, Penrhyncoch (B). FFURF HURT Mae'n hysbys i bawb draha ffiaidd a diogi'r Saeson ym mhob oes pan ddônt wyneb-yn- wyneb ag enwau lleoedd Cymraeg- mynnant eu llurgunio yn ddidrugaredd nes na pherthyn i'r enwau hyfryd hynny na miwsig na synnwyr. A phan ddaethant at yr enw pwysig a hanesyddol 'Llanilltyd' dyma ddyfeisio'r ffurf hurt 'Uantwit'! Cofiaf glywed Glyn Simon, Esgob ac Archesgob cyn diwedd ei oes, yn ei ffordd ddeifiol ei hun yn cyhoeddi oddi ar Iwyfan Cynhadledd, "As far as I know, there is not, and never was, a Welsh saint called 'TWIT' Ardderchog! Y Parchedig Brifardd Emrys Edwards j (o'r Gwyliedydd) Bamffled Eglwysi Ochr n Ochr Yn Enw lesu Yng Nghymru yn 1975 daeth pum enwad i gyfamod a'i gilydd ac â Duw gyda'r amcan o helpu'r eglwysi lleol i gydweithio mewn efengylu, addoli a gofalu am y gymdeithas. Ceir engh- reifftiau ym mhob sir yng Nghymru. Beth os nad ydym yn perthyn? Os nad yw'ch eglwys chi yn perthyn i'r un o'r pum enwad cyfamodol, fe all 'wneud cyfamod' ag eglwysi lleol sydd yn aelodau. Mae rhyw draean o'r trefniadau lleol sy'n bodoli eisoes yn gymysgedd o gynulleid- faoedd sydd wedi cyfamodi a rhai sydd heb gyfamodi. Sut fedrwn ni gael gweinidog? Os nad oes gweinidog ar eich eglwys chi, fe all gwneud cyfamod lleol ag eglwys arall ei gwneud yn haws i chi rannu'r un gweinidog. Trefnir hyn yn swyddogol gyda chymeradwyaeth a chytundeb yr awdur- dodau perthnasol ym mhob enwad. Pwy fydd yn cael gweinyddu'r sacramentau? Pan fydd eglwysi sy'n bartneriaid mewn cyfamod lleol yn caniatáu hynny, fe all y gweinidogion weinyddu'r cymun yn unrhyw un o'r eglwysi lleol hynny a gall pob aelod dderbyn y cymun yn yr eglwysi lleol hynny. Yr hyn sydd yn digwydd fel arfer yw bod y rhai a awdurdodwyd eisoes gan eu heglwys eu hunain yn gwneud yr un pethau mewn gwasanaeth unedig. Mae gwasanaethau arbennig gan yr eglwysi cyfamodol ar gyfer y cymun a'r bedydd ac fe benderfynir pwy sydd yn gwneud beth yn ôl y rheolau sy'n weithredol ar y pryd. Mewn eglwysi sy'n caniatáu i flaenoriaid, diaconiaid neu bregethwr lleyg weinyddu'r cymun, bydd gofyn iddynt wneud cyfamod ag eglwysi sydd o gyffelyb fryd. Pa iaith? Bydd y rhai sy'n hapusach i gael gwasanaeth uniaith Gymraeg neu uniaith Saesneg yn dewis eu partneriaid yn unol â'u dymuniad. Mewn eraill gellir trefnu gwasanaeth dwy-ieithog, neu wasanaethau Cymraeg a Saesneg bob yn ail. Nid yw rhannu'n golygu colli, ond ennill. Y mae'n gyfle hefyd ddefnyddio gweddi rydd neu Iyfrau gwasanaeth y gwahanol gynulleid- faoedd, ac ddefnyddio llyfrau emynau gwahanol. Beth fydd yn digwydd i'n hadeilad ni? Dod â phobl nid adeiladau! at ei gilydd y mae cyfamodau lleol. Hwyrach y bydd pobl yn dewis addoli yn adeiladau ei gilydd yn gyson neu yn achlysurol, neu yn pender- fynu rhannu adeilad. Os nad oes gweinidog gan yr un o eglwysi eich ardal, awgrymwch bod tri neu bedwar aelod o bob cynull- eidfa yn dod at ei gilydd drafod y nnsihiliariau Pam? Dyna'r cwestiwn pwysicaf oll ac y mae mwy nag un ateb iddo. Ond os yw'r eglwysi o ddifri ynglŷn â sefyll ochr yn ochr yn enw lesu, un o'r atebion yw bod hyn yn helpu Cristnogion i fod yn well tystion yn y gymuned. Oni weddïodd lesu 'ar iddynt oll fod yn un er mwyn i'r byd gredu mai tydi a'm hanfonodd i' (loan 17:21)? Pwy all ein helpu? Mae mwy o weithgarwch rhyngeglwysig yn digwydd nag y tybiem. Holwch bencadlys eich enwad. Gall CYTUN, 21 Heol Sant Helen, Abertawe SA 1 4AP (Ffôn 0792 460876) eich helpu hefyd. A buasai'r Parchg. Gethin Abraham-Williams, Ysgrif- ennydd Cyffredinol ENFYS, yn croesawu unrhyw wahoddiad i gyfarfod â grwpiau neu eglwysi sy'n awyddus i wybod rhagor: Canolfan yr Eglwys yng Nghymru, Woodland Place, Penarth CF6 2EX (Ffôn: 0222 705278).