Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y gyntaf mewn cyfres newydd o erthyglau ar ddiwinyddion cyfoes John Macquarrie W. EIFION POWELL Gellir cyfrif John Macquarrie yn un o ddiwinyddion Cristnogol mwyaf cynhyrchiol a nodedig ail hanner yr Ugeinfed Ganrif. AMLLINELLIAD O'I YRFA Cafodd ei eni yn 1919 yn Renfrew yn yr Alban. Enillodd radd M.A. mewn Athroniaeth Ymenyddol gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf yn 1940, gradd B.D. yn 1943, Ph.D. yn 1954 a D.Litt yn 1964, i gyd o Brifysgol Glasgow, ynghyd â D.D. Prifysgol Rhydychen yn 1981, heb sôn am nifer o ddoethuriaethau er anrhydedd o Brifysgolion yn yr Unol Daleithau ac yn Ewrob. Ar ôl bod yn gaplan yn y Fyddin am dair blynedd bu'n weinidog eglwys Sant Ninian, Brechin, yn Eglwys yr Alban, rhwng 1948 ac 1953. Yn 1949 priododd â Jenny Fallow Welsh ac yn 1953 fe'i apwyntiwyd yn ddarlithydd mewn diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Glasgow. Yn 1962 fe'i apwyntiwyd ef yn Athro mewn Diwinyddiaeth Sustemataidd yn Athrofa Ddiwinyddol yr Undeb, Efrog Newydd ac ordeiniwyd ef yn offeiriad yn yr Eglwys Esgobyddol Americanaidd yn 1965. Dychwelodd i Rydychen fel Athro'r Fonesig Marged mewn Diwinyddiaeth yn 1970, gan ymddeol o'r swydd honno yn 1986. Yn 1984 fe'i dewiswyd ef yn Gymrawd o'r Academi Brydeinig. EI GYHOEDDIADAU Amser a ballai i restru ei holl weithiau cyhoeddedig yn llyfrau, pamffledi ac erthyglau, ond dyma ddetholiad cryno o'i gyfrolau pwysicaf. An Existentialist Theology (1955); The Scope of Demythologizing; Bultmann and his Critics (1960); Twentieth Century Religious Thought (1963); Principles of Christian Theology (1966); God-Talk: An Examination of the Language and Logic of Theology (1967); God and Secularity (1967); Contemporary Religious Thinkers (1968); Martin Heidegger (1968); Three Issues in Ethics (1970); Paths in Spirituality (1972); Existentialism (1972); The Faith of the People of God: A Lay Theology (1972); The Concept of Peace (1973); Thinking about God (1975); Christian Unity and Christian Diversity (1975); The Humility of God: Christian Meditations (1978); Christian Hope (1978); In Search of Humanity (1982); In Search of Deity (1984), y gyfrol hon yn ffrwyth y Darlithoedd Gifford a draddododd ym Mhrifysgol Sant Andreas yn 1983; a Jesus Christ in Modern Thought (1990), ac y mae'n sicr bod rhagor i ddod. EI DDIDDORDEBAU DIWINYDDOL Gellir sylwi wrth graffu'n fanwl ar y teitlau uchod bod diddordebau diwinyddol Macquarrie yn symud ar hyd pedwar llwybr amrywiol sydd eto'n gysylltiedig â'i gilydd. Yn y lle cyntaf, dyna'i ddiddordeb athronyddol, yn enwedig yn yr athroniaeth ddirfodol a'i dylanwad ar ddiwinyddiaeth. Ysgrifennodd lyfrau, fel y gwelwyd, ar bwnc Dirfodaeth ac ar rai o'i lladmeryddion amlwg megis Heidegger a Bultmann. Yn yr ail le rhaid sôn am ddiddordeb a gallu arbennig Macquarrie fel dehonglwr ac eglurwr syniadau. Ceir enghreifftiau da o'i ddawn ryfeddol yn y cyswllt hwn yn Twentieth Century Religious Thought a Contemporary Religious Thinhers, dwy gyfrol gynorthwyol iawn i'r sawl sydd am ddeall y cefndir i ddiwinyddiaeth Gristionogol yn yr ugeinfed ganrif, a llyfrau sy'n sicr o ennyn edmygedd y darllenwr yn rhinwedd rhychwant eang gwybodaeth yr awdur a'i ddawn eithriadol i grynhoi ac i egluro. A rhaid cofio am ei waith fel Golygydd A Dictionary ofChristian Ethics (1967) yn y cyswllt hwn. Yna, yn drydydd, gellir sôn am ddiddordeb diwinyddol ymarferol John Macquarrie. Yn sicr nid ysgolhaig sy'n eistedd mewn twr ifori ymhell o ganol bywyd yr Eglwys a'r byd mohono, ond un sy'n ysgrifennu ar bynciau diwinyddol y dydd mewn modd sy'n gymorth i'r gweinidog wrth ei waith, ac y mae'r hyn a ysgrifennodd am Seciwlariaeth, Materion Moesol, Undeb Cristionogol, Ysbrydoledd, Heddwch a Diwinyddiaeth Leyg i gyd yn dod i fewn i'r categori ymarferol hwn.