Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ond ffrwyth pedwerydd llwybr diddordeb John Mac- quarrie yw ei waith cyflawnaf yn ddiamau, sef ei waith fel diwinydd sustemataidd. Gellir cyfeirio'n arbennig yn y cyswllt hwn at ei gyfrol gynhwysfawr a defnyddiol, Principles of Christian Theology, ac at ei dair cyfrol diweddaraf, cyfrolau a fwriadwyd fel tair rhan o'r un cyfanwaith sy'n trafod y syniad am y Duw Ddyn, ond bod y drydedd gyfrol, Jesus Christ in Modern Thought, wrth roddi sylw llawnach nag y bwriadodd yr awdur ar y dechrau, yn helaethu'r wedd Gristolegol ar y gwaith. EI DDYSGEIDIAETH Cyfaddefodd Macquarrie ei fod ef wrth reddf yn wr crefyddol, yn berson sy'n ymwybodol o bresenoldeb y sanctaidd yn nyfnder dirgelwch bodolaeth, ond i'w astudiaethau athronyddol fel myfyriwr, gyda'u pwyslais sgeptigaidd, beri iddo golli'i ddiddordeb mewn diwin- yddiaeth. Pan ailgydiodd o ddifri mewn astudiaethau diwinyddol yn 1953 cychwynnodd ar yr hyn a alwodd yn 'bererindod mewn diwinyddiaeth'. Yn ei ymgais i ddod o hyd i sylfaen athronyddol i'w safbwynt diwinyddol symudodd oddi wrth Idealaeth F.H. Bradley at yr athronwyr dirfodol, ac at waith yr Almaenwr Martin Heidegger yn arbennig, gan symud ymlaen yn ddiweddarach at athroniaeth fwy cyffredinol ei naws. Yn lle'r hen theistiaeth fetaffisegol mae Macquarrie'n cynnig yr hyn a eilw yn 'theistiaeth ddirfodol ontologaidd'. Os mai gwaith ontoleg (gwyddor astudiaeth bod) yw trin bodolaeth fel y cyfryw fel peth niwtral y mae Macquarrie'n medru sôn ar y naill law am ddiwinyddiaeth athronyddol ac ar y llaw arall am ddiwinyddiaeth sumbolaidd. Gwaith diwinyddiaeth athronyddol yw disgrifio bodolaeth, heb anghofio'i phosibiliadau sanctaidd, tra mai gwaith diwinyddiaeth sumbolaidd yw dehongli bodolaeth gan ddefnyddio'r sumbol 'Duw' fel sumbol sy'n dehongli hanfod sanctaidd bodolaeth. Nid yw Macquarrie, fel y gwna Heidegger, yn disgrifio'r sanctaidd fel teip neu gwneud Duw yn is-raddol i fodolaeth yn gyffredinol. Nid yw chwaith yn uniaethu Duw â bolodaeth yn hollol â'i gilydd, yn wir, y mae'n barod i gydnabod bod modd i ddyn brofi bodolaeth heb brofi o werth y sanctaidd ynddo. Dyna pam y mae'r ymgyflwyniad dirfodol sy'n gysylltiedig â diwinyddiaeth sumbolaidd yn bwysig, a chred Macquarrie bod y gwahaniaeth rhwng bodolaeth a bodolaeth sanctaidd yn rhywbeth mwy na gwahaniaeth ym mhrofiadau goddrychol y credadun yn unig, ond ei fod yn ymatebiad i wahaniaeth gwrthrychol yng ngwerth bodolaeth ei hun. Yn ôl y dehongliad hwn felly gellir disgrifio atheistiaeth, nid yn nhermau gwadu bodolaeth bod goruchaf, ond yn hytrach fel gwadiad o sancteiddrwydd bodolaeth a'r amharodrwydd ymarferol i ddatgan ffydd ym mhosibiliadau bodolaeth ac i ymgyflwyno iddynt. Os yw'r ddiwinyddiaeth Gristionogol draddodiadol yn medru sôn am ddiwinyddiaeth naturiol fel rhywbeth sy'n seiliedig ar lyfr agored natur ac am ddiwinyddiaeth ddatguddiedig fel rhywbeth sy'n seiliedig ar y Beibl, mynna Macquarrie bwysleisio'r unoliaeth naturiol sy'n bodoli rhwng y disgrifiad o fodolaeth (diwinyddiaeth athronyddol) a'r dehongliad ohoni (diwinyddiaeth sumbol- aidd), ac fel y mae'r ail yn deillio o'r cyntaf. Os yw athroniaeth grefyddol Macquarrie yn pwysleisio pwysigrwydd ymateb dirfodol y ddynoliaeth, gellir dweud fod 'Nid yn unig y mae arddull esmwyth John Macquarrie yn denu pobl i ddarllen ei waith, ond y mae'r ddawn sydd ganddo i egluro a chyflwyno safbwynt- iau meddylwyr eraill, ynghyd â chyfoesedd trawiadol ei bwyslais ei hun, yn ei wneud yn ddiwinydd atyniadol dros ben.' ei ddiwinyddiaeth hefyd yn cychwyn o'r cyfeiriad anthro- polegol. Gwelir hyn yn eglur yn ei Gristoleg lle y mae'n gosod pwyslais trwm ar ddynoliaeth Crist. Cristoleg oddi isod yw ei Gristoleg ef yn hytrach na Christoleg oddi uchod. Cristoleg sy'n ymwybodol o'r modd y gall y Gristoleg oddi uchod, fel eiddo Kierkegaard a Barth, sy'n cychwyn gyda dwyfoldeb Crist, arwain yn hawdd at ddocetiaeth (yr athrawiaeth mai bod dwyfol a ymddangosai'n debyg i ddyn, ond heb fod yn ddyn o gig a gwaed oedd Iesu Grist). Nid yw Macquarrie heb sylweddoli anawsterau'r Gristoleg oddi isod chwaith, sef y Gristoleg sy'n symud oddi wrth ddynoliaeth Crist at ei dduwdod. Mae'n gwneud ei orau glân felly i geisio osgoi dau o brif beryglon y Gristoleg honno, sef y perygl o goleddu athrawiaeth fabwysiadol, sef y ddysgeidiaeth sy'n dweud bod Duw wedi mabwysiadu dyn naturiol, a'r perygl arall sy'n dal cysylltiad â'r cyntaf, ond sy'n fwy cynhwysol nag ef, sef dweud bod Iesu Grist yn rhywun llai na Mab Duw. Gan gydnabod ei ddyled i weithiau Cristolegol y Protestant Wolfhart Pannenburg, Karl Rahner o Eglwys Rufain a John Meyendorff o Eglwys Uniongred y Dwyrain, mae Macquarrie'n ymwrthod yn bendant â phwyslais Cristolegol annigonol rhai o ddiwinyddion marwolaeth Duw gan fynnu'n hytrach fod Iesu Grist yn rhywbeth mwy na lefel uwch o ddynoliaeth, neu'n batrwm o'r hyn y gall y ddynoliaeth ymgyrraedd ato ohoni ei hun. I'r sawl sy'n mynnu mai Cristoleg oddi uchod yw Cristoleg y Testament Newydd, mae gan Macquarrie ateb parod, sef y sylw mai wrth adnabod y dyn Crist Iesu ac ymateb yn ddirfodol iddo y daeth Pedr a'r disgyblion eraill i gydnabod ei dduwdod. Dyma paham meddai, y mae Cristoleg oddi isod, sy'n dechrau gyda'r Iesu dynol, yn gorfod arwain o hyd at yr Ymgnawdoliad, eithr gan gofio bob amser nad yw'r Ymgnawdoliad hwnnw'n cyfyngu dim ar ddynoliaeth yr Iesu. GOLWG AR EI GYFRANIAD Nid yn unig y mae arddull esmwyth John Macquarrie yn denu pobl i ddarllen ei waith, ond y mae'r ddawn sydd ganddo i egluro a chyflwyno safbwyntiau meddylwyr eraill, ynghyd â chyfoesedd trawiadol ei bwyslais ei hun, yn ei wneud yn ddiwinydd atyniadol dros ben. Wedi cyfeirio wrth fynd heibio at agwedd ymarferol ei ysgrifennu cystal nodi rhai o ganlyniadau ymarferol ei ddiwinydda: