Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Teyrnged i'r Tra Pharchedig Arglwydd MacLeod o Fuinary, Bt., M.C. a fu farw'n ddiweddar. PROFFWYD YR ARGLWYDD JOHN H. TUDOR Bu farw George MacLeod (ni charai ei deitlau, gan arddel yn unig "the sufficient title of Reverend") ar y 27ain. o Fehefin yn 96 mlwydd oed. Croesawaf wahodd- iad y Golygydd i dalu teyrnged i'w goffadwriaeth yn Cristion oblegid dylanwadodd y gwr hwn ar weinidogaeth nifer ohonom yng Nghymru. Cofiaf f'ymweliad cyntaf ag Iona yn Haf 1964 yng nghwmni fy nghyd-weinidogion, Cyril Summers a Peter Williams, wrth inni fynd ati i geisio ail-gynneu tân ar hen aelwyd Trefeca. Erys dylanwad y bererindod honno ar ein gweinidogaeth hyd heddiw. Un llawn o baradocsau oedd George MacLeod. Uchelwr ar ochr ei dad, hwnnw yn aelod TorÏaidd yn San Steffan ac wedyn yn Nhy'r Arglwyddi, yn etifedd cyfoeth mawr ar ochr ei fam. Eto dyma un o bleidwyr mwyaf tanbaid ei genedl ar ran y tlawd a'r gorthrymedig. Enillodd y M.C. a'r Croix de Guerre gyda phalmwydd efo'r Argyll & Southern Highlanders yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Eto daeth yn heddychwr digyfaddawd. EILUN Y PARCHUS Daeth yn Llywydd Cymanfa Gyffredinol Eglwys yr Alban yn 1954, ond nid creadur y Sefydliad ydoedd er hynny. Dechreuodd ei weinidogaeth, ar ôl paratoad yn Rhydychen, Caeredin, ac Efrog Newydd, yn St. Cuthbert's Caeredin, eglwys fwyaf ffasiynol a chefnog y Brifddinas. Meddai rhyw panache hunanhyderus o'r cychwyn. Er engrhaifft, hoffai fynd i'w gyhoeddiad ar y Sul yn St. Cuthbert's yn y dauddegau mewn modur coupé agored! Buan yr enillodd galonnau y goludog yn ei gynulleidfa, yn enwedig y benywod, gyda'i bregethu disglair, huawdl. Daethai'n bregethwr dawnus a phoblogaidd trwy'r Alban, yn enwedig drwy gyfrwng newydd y radio. (Yn llawer diweddarach, ef oedd y cyntaf ers y Diwygiad Protestannaidd o blith Presbyteriaid i'w wahodd yn Bregethwr Gwadd Prifysgol Rhydychen). Daethai'n eilun y parchus a'r enwog, a disgwylid y daethai'n arweinydd diogel i'w Eglwys a'i genedl. Ond nid oedd hwn eto'n broffwyd. Yn 1930 daeth tro ar fyd yn hanes gwr breintiedig tylwyth MacLeods, Fuinary. Ar ganol y dirwasgiad derbyniodd alwad i Eglwys y Plwyf, Govan, Glasgow, i ganol rhai o slymiau mwyaf erchyll Iwrob. 'Roedd profiadau yn ffosydd Ffrainc ddegawd cyn hynny yn ei gorddi hefyd, ond cynyddodd ei ddicter gan dynged tlodion ei wlad ei hun. Esgorodd hyn ar ddiwinyddiaeth a gweinidogaeth 'newydd'. "Mae'n tynged i uffern neu nefoedd yn dibynnu, nid ar rhyw gysur 'ysbrydol' a gynigiwn i ddynion, ond ar yr hyn a wnawn ynglyn â'u bywydau." Erbyn hyn cyfrifai MacLeod pob cyfalafwr "trugarog" fel y gwnaethai Tolstoi o'i flaen: "Eisteddaf ar gefn y tlodyn, fe tagai; a orfodi i'm cario ymhellach, ac ar yr un pryd byddaf yn sicrhau fy hunan a phawb arall ei bod yn wir ddrwg gennyf am ei gyflwr ac mai fy nymuniad ydy ysgafnhau ei faich ymhob ffordd posibl ond dod oddiar ei gefn". "Cawsom fwy na digon o lyfrau yn cyhoeddi rhagoriaeth Teyrnas Dduw ar Ffasgaeth a Chomiwnyddiaeth" oedd ei gri. "Beth mae dynion yn dechrau dyheu amdano yw ychydig mwy o dystiolaeth ein bod ninnau yn credu yn effeithiolrwydd y Deyrnas gyda'r un argyhoeddiad brwdfrydig y mae Ffasgaeth a Chomiwnydd- iaeth yn ennyn yn eu cefnogwyr hwythau." Y MILWR YN HEDDYCHWR Yr oedd MacLeod yn bregethwr yn nhraddodiad gorau Presbyteriaeth yr Alban, ond heb arlliw o enwadaeth gul i'w lesteirio. Enynnodd lid rhai Presbyteriaid pybyr yn ei araith fel Llywydd y Gymanfa Gyffredinol yn 1953 am annog elfennau Esgobol a Chynulleidfaol ym mywyd eglwysig ei gymundeb ei hun. Mae Cymuned Iona yn estyn croeso i bawb yn ddiwahaniaeth. Yn ei bregethu condemniodd bechodau ei gyfnod. Rhybuddiai'n apocalyptaidd yn erbyn hilyddiaeth, byd pwdr y banciau cyfalafol rhyngwladol, ("Moloch yn bwydo ar yr ifainc") a "the gross impurities of secular science", sef Dyma filwr a enillodd anrhydedd aruchel am wrhydri eithriadol ar faes y gad yn y Rhyfel Byd Cyntaf a drodd yn Heddychwr.