Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Cyntaf mewn cyfres o fyfyrdodau Beiblaidd ar y Gwynfydau Y GWYNFYDAU ALWYN LLOYD Dechreuodd loan Fedyddiwr ei weinidogaeth ar ymyl y diffeith- wch, rai milltiroedd o'r brifddinas. Rhaid oedd i'r bobl fynd allan i chwilio amdano, ond 'roedd lesu'n gwbl wahanol. Aeth ef o amgylch Galilea gan ddysgu yn y synagogau a phregethu efengyl y deyrnas, gan iacháu pob afiechyd a phob llesgedd ymhlith y bobl. Nid oedd yn rhaid i'r bobl chwilio am y Bugail Da gan iddo ef fynd i chwilio amdanynt hwy. Y mae Mathew yn crynoi gwaith y Gwaredwr i dri ymadrodd: 1. "Dysgu yn eu synagogau." Y mae'n tynnu o Ysgrythur yr Hen Destament ac yn atgoffa'r bobl o addewidion mawr Duw. Mae'n sôn am y Meseia a addawodd Duw i'r Genedl o amser Moses ymlaen. 2. "Pregethu Efengyl y Deyrnas". Dweud y mae fod yr ysgrifau hyn wedi eu cyflawni a bod teyrnas Dduw wrth law, yn wir y mae'n bresennol yn awr. "Y mae'r amser wedi ei gyflawni, ac y mae teyrnas Dduw wedi dod yn agos. Edifarhewch a chredwch yr Efengyl". 3. "Gan iacháu pob afiechyd a phob llesgedd ymhlith y bobl". Dysgodd, pregethodd, iacháodd. Nid rhyfedd felly i'r sôn amdano fynd trwy Syria. Dilynodd tyrfa fawr ef ac yr oedd yn llwyddiant mawr. Oni ddylai fod wedi ymfalchïo yn y fath boblogrwydd? Yn sicr yr oedd yn falch o weld pobl yn dod ato, ond tybed pa mor gywir oedd eu cymhellion? Felly, "Pan welodd lesu y tyrfaoedd, aeth i fyny'r mynydd". Fe fyddwn yn sôn yn aml am lesu'n dod atom, ac y mae digon o enghreifftiau o hynny yn yr ysgrythur. Ond yma y mae'n cadw draw ac yn cilio i unigedd y mynydd. Dyma'r tro cyntaf iddo wneud hyn, ond nid dyma oedd y tro olaf. Y mae fel pe bai'n fwriadol yn ei gwneud yn anodd i'r bobl ddod ato. Nid yw am ganfasio na defn- yddio unrhyw bropaganda i ddenu neb, ond i'r gwrthwyneb y mae'n creu anawsterau. Ac yn y modd yma fe'i gwelwn yn nithio'r gau oddi wrth y gwir rai sydd am ei gwmni. A dywedir wrthym i'w ddisgyblion ddod ato, ac ar ddiwedd y Bregeth ar y Mynydd y mae'n amlwg fod y gair "disgyblion" yn golygu llawer mwy na'r Deuddeg, oherwydd darllenwn, "Synnodd y tyrfaoedd at yr hyn yr oedd yn eu dysgu". Yma ar y mynydd, gwelwn ef yn tynnu ato y rhai a ystyriai'n ddisgyblion gan roi iddynt ddarlun o'r hyn a olyga wrth "deyrnas Dduw". Ac mae'n ddiddorol sylwi fel y mae'n cydnabod ac yn gwneud defnydd o'r awydd am hapusrwydd neu ddedwyddwch. Dechreua'r Bregeth â'r gair MAKAROI, a gyfieithir yn wynfyd neu ddedwyddwch, a defnyddir y gair wyth gwaith yn olynol. Y mae'n union fel petai'n dweud, "Yr ydych yn chwilio am ddedwyddwch, ac onid un o uchelgeisiau dyn ar hyd ei fywyd yw i ddod o hyd i'r dedwyddwch hwn? Wel, gwrandewch," meddai lesu, "fe'i cewch gennyf fi, mynegaf i chwi ei gyfrinach, a dangosaf i chwi sut i ddod o hyd iddo." Ym ymha Ie, neu ym mha gysylltiadau, y deuir o hyd i'r trysor gwerthfawr hwn? Fe'i ceir yn y cysylltiadau rhyfeddaf: "Dedwydd yw y tlawd a'r rhai sydd yn cael eu herlid". Mae rhywbeth o'i Ie fan yna, siwr o fod, oherwydd yn ôl ein safonau ni y mae'r gosodiad yn gwbl gyfeiliornus. Ond y mae'n mynd ymlaen i ddweud rhagor, "Dedwydd yw y rhai sy'n galaru, y rhai add- fwyn, y rhai anghenus, y trugarogion, y pur o galon a'r heddychwyr". Y rhain, o bawb, a gaiff eu cysuro, etifeddu'r ddaear, eu bodloni, derbyn trugaredd, gweld Duw a'u galw'n feibion iddo. Mae'n amlwg fod ei syniad ef o ddedwyddwch yn hollol wahanol i'n syniadau ni. Edrychwn ar yr wyth gwynfyd yn eu tro. Yn gyntaf, "Gwyn eu byd y rhai sy'n dlodion yn yr ysbryd, oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd". Cyn mynd gam ymhellach, rhaid i ni benderfynu beth yw ystyr bod yn dlawd yn yr ysbryd. Beth oedd ei ystyr i lesu Grist? Y mae rhai ysgolheigion yn dadlau mai allan o'r gwynfyd hwn y tyf y gweddill o'r "Y tlodion yn yr ysbryd" gwynfydau. Yn sicr y mae'n allwedd i'r deyrnas, ac yn grynodeb o'r gweddill. Yn bendant, nid yw'n fendith i'r gwangalon, nac i'r di-asgwrn-cefn chwaith, y rhai sydd heb ysbryd. Nid rhai gwan, ofnus a ddisgrifir yma. Pwy yw'r rhai sy'n "dlawd yn yr ysbryd?" Ni ellir enwi unrhyw grwp arbennig. Y mae cronicliad Luc o'r gwynfyd hwn yn fyrach, ac efallai, yn nes at y gwreidd- iol, a'r hyn a ddywed Luc yw, "Gwyn eu byd y rhai sy'n dlawd". Fe all cyfoeth droi yn falchder. Y mae'r dyn llwyddiannus yn fynych yn anghofio ei fod yn gardotyn gerbron Duw, tra bo'r tlawd, ar y llaw arall, yn gwybod ei fod yn gwbl ddibynnol arno, ac y mae'n gallu canu gyda gonestrwydd, "Ar ei drugareddau, yr ydym oll yn byw". Y mae felly'n wynfydedig. Ond yn sicr y mae angen ychwanegiad Mathew, yr ysbryd", oherwydd nid yw tlodi ynddo ei hun yn dwyn bendith; i'r gwrthwyneb, gall droi'n faich ac yn surni. Y cwestiwn sy'n rhaid i ni ei ofyn yw, Pwy yw'r tlawd yn yr ysbryd? Yn sicr, nid y ni sydd i benderfynu hynny ond Duw ei hun. Ac efallai mai o fewn byd ffydd a gweddi y mae deall y "tlodi" hwn. Y mae'r tlawd a'r anghenus, er iddynt gael eu gorthrymu gan y drygionus, yn parhau yn dduwiol eu hargyhoeddiad ac yn dduwiol eu ffordd. Onid dyna a ddywed y Salmydd: "Un tlawd ac anghenus wyf fi, ond y mae'r Arglwydd yn meddwl amdanaf" (Salm 40:17)? Dim ond y dyn a ddaw wyneb yn wyneb â Duw sy'n dlawd yn yr ysbryd. Fe wyr yn y fan honno pa more isel yw ef a pha mor uchel yw Duw. Wyneb yn wyneb â Duw yng Nghrist y Groes yr ydym yn dlawd yn yr ysbryd. Y Groes yn unig a ddywed wrthym ymhle y safwn ni. Pan drown ein cefnau ar y Groes, fe beidiwn â bod yn dlawd yn yr ysbryd, ac awn i ystyried ein hunain yn gyfoethog a chryf, yn dda ac uniawn. Dim ond wrth droed y Groes, y collwn ein syniad ffug o gyfoeth, nerth, daioni a chyfiawnder ac y peidia'r pethau hyn â bod. Y tlodion yn yr ysbryd yw y rhai sydd yn dod o dan gysgod y Groes. Saif y Groes a ddiwedd y Bregeth ar Mynydd yn ogystal â'i dechrau: "Gwyn fyd y rhai sydd yn sefyll yng nghysgod y Groes, oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd."