Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Gwyn eu byd y rhai sy'n galaru, oherwydd cânt hwy eu cysuro". Y mae fersiwn Luc o'r gwynfyd hwn yn fyrrach ac yn anoddach i'w deall, "Gwyn eich byd chwi sydd yn awryn wylo". Mewn geiriau eraill, gellir dweud, yn ôl Luc, mai'r hyn a olyga lesu yw, "Gwyn fyd y dyn all ddioddef y galar mwyaf chwerw bosibl." Ond ni all hyn fod yn wir, oherwydd fe all galar ddistrywio bywyd, amharu ar ei hapusrwydd, anharddu bywyd dyn, a hyd yn oed ei ladd. Ond ar y llaw arall, er inni ddymuno'n fynych i eiriau Ceiriog gael eu gwireddu yn ein bywyd "Oni fyddai'n haf o hyd, gwyddom yn dda na wnai hynny "Mark Rutherford" H.W. Massingham oedd un o olygyddion disgleiriaf a mwyaf dylanwadol Lloegr yn y cyfnod rhwng y ddau Ryfel Mawr. Pan wnaeth y gosodiad, "Since Bunyan, English Puritanism has produced one imaginative genius of the highest order," cyfeirio yr oedd at "Mark Rutherford" (ffugenw William Hale White, 1831-1913). Hyd y gwn, ni fu anghytuno a'r dyfarniad. Magwyd Bunyan a Hale White yn Nwyrain Canolbarth Lloegr. Bedford oedd eu tref. Ymneilltuwyr oedd y ddau. Calfin cadarn fu Bunyan ar ôl ei droëdigaeth. Wynebodd erlid creulon a charchariad maith yn wrol. Aeth dwy ganrif heibio rhwng Bunyan a Hale White. Erbyn oes yr ail oerasai brwdfrydedd cynnar yr Ymneilltuwyr ac ymgaledodd yr argyhoeddiad crasboeth yn gonfensiwn di-wefr yn hanes amryw o'u disgynyddion mewn llawer lle. Cedwid at lawer o allanolion yr hen ddefosiwn a glynid wrth yr hen ddogmâu o hyd, ond yn rhy ami canlyniad y geidwadaeth oedd ffurfioldeb cul ac anghynnes. ATHROFEYDD DIWINYDDOL Rhoesai Hale White ei fryd yn ddyn ifanc-neu o leiaf rhoesai ei fam ei bryd ar yrfa iddo yng ngweinidogaeth yr byth y tro y chwaith. Onid oes dywediad gan yr Arabiaid: "Heulwen yn unig a wna ddiffeithwch". Y mae bodolaeth y rhan fwyaf o bethau byw yn dibynnu ar law. A dim ond galar a rydd dyfiant i rai o'n profiadau mwyaf gwerthfawr. Yr unig un a all wir gydymdeimlo â ni yw'r un a aeth drwy yr un profiad. "Fe all mai'r storom fawr a'i grym/A ddwg y pethau gorau im". Ac yn sicr, "Nid yw'r lesu'n well yn unman nag yng ngwaetha'r storom gref". Y mae llawer un yn awr ei alar wedi darganfod ei gyd- ddyn a'i Dduw mewn modd na wnaeth erioed o'r blaen. Serch hynny, nid yw hyn yn gwneud dyn yn wynfydedig. Sut felly mae esbonio'r gwynfyd yma? Dim ond yng ngoleuni'r gwynfyd cyntaf y gellir gwneud hynny, gan fod y cyntaf yn ein gosod yng nghysgod y Groes, ac ni allwn ddeall y gweddill o'r gwynfydau heb ddeall y cyntaf. Nid dweud y mae'r Arglwydd fod dyn yn wynfydedig oherwydd ei fod yn galaru. Y mae rhai sydd yn honni eu bod yn galaru, ac yn gwisgo dillad galar, IORWERTH JONES Annibynwyr. Derbyniwyd ef i Goleg yr Arglwyddes Huntingdon yn Cheshunt. Siomwyd ef yn ddirfawr yno. Ni ddarllenai amryw o'i gyd-fyfyrwyr gyfnodolion namyn y papurau enwadol. Ni feddylient am fawr mwy na rhagolygon 'galwad' i 'achos' ffyniannus. Dangosid diddordeb effro yn economi'r farchnad grefyddol. Symudodd Hale White i un o athrofeydd diwinyddol yr Annibynwyr New College, Gogledd Llundain. Siomedig hefyd fu ei brofiad yno, mewn ffordd wahanol. Beiddiodd ef a dau o'r myfyrwyr ereill holi sut yn hollol y ffurfiwyd Canon y Beibl. "Nid oedd hynny'n gwestiwn agored oddi mewn i furiau'r Coleg," oedd dedfryd bendant a swta'r Prifathro. Yr oedd hyn yn 1851 neu 1852. Ni thawelwyd anesmwythyd Hale White. Parhaodd i fynegi amheuon. Heb ragor o ffwdan trowyd ef dros y drws. Ni chaniateid unrhyw drafod ar gwestiwn Ysbydoliaeth y Beibl. yn gwneud hynny dim ond er mwyn cuddio balchder, ymffrost, diffyg meddwl ac annuwioldeb. Dweud y mae lesu, fod y rhai sydd yn galaru yn wynfydedig os ydynt yn dlawd yn yr ysbryd; hynny yw, y rhai a ddônt â'u galar yn wylaidd at droed y Groes yw'r rhai a ddônt yn ymwybodol o'r wyrth: cânt hwy eu cysuro". Y mae'r dyn sydd yn mynd at Dduw mewn duwiol alar am ei bechod yn derbyn ei gysur ac yn cael ei drin, nid fel drwgweithredwr, ond fel gwestai anrhyd- eddus. Y mae'n wynfydedig pan yw'n galaru am ei bechod ei hun ac am ddioddefiadau pobl eraill. Er nad yw hon yn ffordd hawdd ei cherdded, hon yw ffordd wynfydedig y Cristion. Y mae'r Parchg. Alwyn Uoyd yn weinidog gyda'r Annibynwyr ym Mhorthcawl. Traddodwyd y myfyrdodau hyn yn Ysgol Haf gweinidogion yr Annibynwyr yn Aberystwyth ym mis Gorffennaf eleni. WILLIAM HALE WIIITE (Mark Rutherford) Yr adeg honno, meddai un o gofian- wyr Hale White (C.M. Maclean), yr oedd athrawon diwinyddol yn trafod eu myfyr- wyr fel pe baent yn eifr. Clymid hwy wrth bostyn a chaent bori o fewn y cylch cyfyng a ganiatâi'r rhaff, ond ni chaent ar unrhyw gyfrif grwydro ymhellach.