Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Treuliodd Hale White gyfnod digalon yn Llundain wedi'r diarddel; ond llwyddodd i ddod o hyd i waith ar ris isel yn swyddfa Chapman y cyhoeddwr. Daeth i nabod 'George Eliot', ond yr oedd yn rhy swil i barhau'r cyfeillgarwch. Ymhen hir a hwyr sicrhaodd swydd yn y Gwasanaeth Sifil, ac o dipyn i beth dyrchafwyd ef o adran i adran, nes iddo o'r diwedd esgyn i safle o bwys yn y Morlys. Yno y bu nes iddo ymddeol. YSBRYD A PHRESENOLDEB Yr oedd Hale White yn fwy o Undodwr na dim arall o ran ei olygiadau diwinyddol; ond darganfu fod Undodwyr ei gyfnod, at ei gilydd, wedi suddo i rigolau mor farwaidd â'r Annibynwyr a adwaenai. Credai yn ei galon fod mwy o fywyd ym marddoniaeth Wordsworth nag yn naliadau ail-law'r Ymneilltuwyr cyfundrefnol. Dysgodd Wordsworth ef nad oedd Duw wedi ei rewi oddi mewn i fframwaith credo. Ysbryd a Phresenoldeb ydoedd a amlygir mewn llawer dull a modd i'r sawl sy'n disgwyl wrtho'n wylaidd. Nid oedd Ymneilltuwyr nodweddiadol trefi bychain Lloegr ynghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ffigurau arwrol. Etifed- dasant grefydd wirioneddol, a pharhau i ddilyn ei defodau ymhell ar ôl i'r grym mewnol golli ei rialiti. Adweithio yn erbyn y ffurfioldeb a'r parchusrwydd a wnaeth llawer enaid hydeiml yng nghyfnod Victoria. Ni fu'r broses yn un hapus yn hanes amryw o'r gwrthryfelwyr. Nid ymdeimlodd Hale White yntau â rhyw ryddhad gogoneddus. Rheid- rwydd mewnol a osodwyd arno gan ei gydwybod a'i ddeall. Meddiannwyd ef am hydoedd gan iselder ysbryd dybryd. Yn araf deg y daeth i'w ran y tangnefedd serennaidd sy'n nodweddu blynyddoedd ei aeddfedrwydd. El WAITH LLENYDDOL Ni fu heb symbyliad yn swyddfa Chapman i lenydda yn ei oriau hamdden. Dechreuodd gyfrannu 'Llythyr o Lundain' i wahanol bapurau taleithiol o bwys. Cyfieithiodd Ethic Spinoza. Lluniodd Iyfr sylweddol, gwerthfawrogol ond heb fod yn anfeirniadol, ar John Bunyan. Cyhoeddwyd rhai storïau byrion o'i waith, a nifer o ysgrifau ar bynciau crefyddol, llenyddol ac athronyddol. Methais ddod o hyd i'w draethiad ar Lyfr Job. Yn ei flynyddoedd olaf (ac wedyn) y cyhoeddodd Gwasg Prifysgol Rhydychen dair cyfrol o ddetholion o'i Ddyddlyfrau. Yn y cyfrolau amrywiol a goludog hynny teflir golau eglur ar ei deithi meddyliol ac ysbrydol. Dichon mai ynddynt hwy y caiff y darllenydd na wyr am ei gynnyrch y rhagarweiniad gorau i astudiaeth o'i bersonoliaeth a'i waith. Yr oedd tad Hale White (un o'r dryswyr yn Nhy'r Cyffredin) yn hoff o'r hen ddiwinydd William Burkitt. Hoffai ddyfynnu sylw hwnnw am arddull, "Y mae gwydr lliw yn brydferth, ond gwydr plaen yw'r mwyaf buddiol hwnnw sy'n gadael i mewn fwyaf o olau." Chwilir yn ofer am 'sgrifennu gwych' yn llyfrau'r mab yntau: eglurder ac unplygrwydd yw ei rinweddau. Prif gamp lenyddol 'Mark Rutherford' yw'r nofelau a gyhoeddwyd yn wythdegau a nawdegau'r ganrif ddiwethaf: pedair nofel go iawn, a dwy gyfrol 'hunangofiannol' sydd yn nofelau fwy na heb. Cyrhaeddodd 'Mark Rutherford' anterth ei boblogrwydd yn y blynyddoedd yn union cyn Rhyfel 1914-18. Cyhoeddodd Hodder and Stoughton argraffiadau rhad o'r nofelau mewn cloriau celyd. Parhâi eu cefndir hanesyddol-ymrysonfeydd gwleidyddol a chrefyddol hanner olaf y ganrif ddiwethaf-yn ddigon ystyrlon o hyd i fod o ddiddordeb i gryn fintai o ddarllenwyr. Ni chwenychai 'Mark Rutherford' boblogrwydd, ond yr oedd ei gydwybod gymdeithasol yn fwy cymeradwy ar y pryd na'r unigolyddiaeth grabol a ddaeth i fri digywilydd yn wythdegau ein canrif ni. "Let no man judge Communist or Anarchist," meddai Hale White yn daer, "till he has asked leave to work, and a 'Damn your eyes!' has rung in his ears." Parhaodd Hale White yn Biwritan. Parchai gryfder moesol a deallol ei dreftadaeth ar ei gorau. Camarweiniol fuasai gadael yr argraff i'r dadrithio crefyddol a ddaeth i'w ran yn wr ifanc ei bellhau'n llwyr oddi wrth bob capel. Dylan- wadwyd yn drwm arno gan bregethu didwyll a byw Caleb Morris, y Cymro o Sir Benfro a weinidogaethai gyda'r Annibyn- wyr yn Fetter Lane. Câi'r llenor faeth i'w feddwl a'i enaid wrth addoli yn y gynulleidfa honno. Y Beibl oedd prif Iyfr Hale White ar hyd ei oes, a pharhaodd awdurdod yr lesu'n ganolog uwchlaw pob awdurdod arall. Y mae'r Gwirionedd dwyfol yn ddigyfnewid, meddai Hale White, ond dirywio yw hanes y dillad dynol y gwisgir ef ynddynt, a rhaid eu newid a'u diwygio er mwyn peidio â gwneud cam â'r Gwirionedd. PORTREADAU O FERCHED Erbyn heddiw goddiweddwyd rhannau helaeth o'i nofelau gan wacter ystyr ymddangosiadol. Y mae gormod o ddiwinydda ynddynt i fod at ddant paganiaid ein cyfnod ni, a gormod o sgeptigiaeth i foddhau traddodiadwyr digwestiwn. Ffeministiaid a achubodd ei gam. Chwe blynedd yn ôl cyhoeddodd Gwasg Hogarth argraffiadau mewn cloriau papur o ddwy o'i nofelau, Clara Hopwood a Catherine Furze. Y mae portreadau 'Mark Rutherford' o ferched yn eithaf gwahanol i'r disgrifiadau afreal a geir fynychaf mewn nofelau a luniwyd gan wrywod yn y ganrif ddiwethaf. Ceir merched arwynebol yn ei nofelau ef, ond nid yw'r rheini hyd yn oed yn rhy neis i fod yn wir. Cymeriadau craff, cryf, yw merched mwyaf atyniadol 'Mark Ruther- ford'. Mewn cymdeithas a oedd ar y cyfan yn ddigydymdeimlad, brwydrent yn eofn yn erbyn rhagfarn a dirmyg-weithiau'n llwyddiannus ac weithiau fel arall mewn cyfnod cyn bod fawr o gydnabod gan nemor neb ar iawnderau merched. Y mae'n rhaid imi dystio fy mod ers blynyddoedd lawer-er dyddiau coleg yn wir-yn hoffi troi at Iyfrau 'Mark Rutherford'. Nid oes ynddynt ddihangfa munud awr i fyd ffansïol a phleserus. Yn y llyfrau cynnar yn arbennig y mae penbleth bodolaeth yn boen a blinder. Ond mae onestrwydd disyfl a diwenwyn yr ymagwedd at fywyd, a dillynder dirodres yr arddull, yn donic nad yw ei rin yn pallu. Y CWIS YSGRYTHUROL Y CYNHAEAF 1. Pa Ie mae'r geiriau hyn i'w gweld: "Pryd hau, a chynaeaf, ac oerni a gwres, a haf, a gaeaf, a nos, ni phaid holl ddyddiau y ddaear"? 2. Pa Ie mae'r cyfeiriad cyntaf at aberthu cynnyrch y tir? 3. Pa Salm yw'r gyfoethocaf yn ei chyfeiriadau at natur? 4. Wrth pa waith oedd trigolion Bethsemes pan gyrhaeddodd yr arch yn ôl o wlad y Philistiaid? 5. Geiriau pwy yw'r rhain: Na ddyro i mi na thlodi na chyfoeth; portha fi â'm digonedd o fara. Rhag i mi ymlenwi a'th wadu di a dywedyd, 'Pwy yw yr Arglwydd?' A rhag i mi fyned yn dlawd a lladrata a chymryd enw fy Nuw yn ofer"? 6. Gorffennwch yr adnod yma: "Y neb a ddalio ar y gwynt, ni heua 7. Pa broffwyd a welodd mewn gweledigaeth fasgedaid o ffrwythau haf? 8. Pa rinweddau mae Paul yn eu rhestru fel "ffrwythau yrYsbryd"? 9. Pwy ddywedodd, "Dygwch gan hynny ffrwythau addas i edifeirwch"? 10. Llanwch y bylchau yn yr adnod yma: a blennais, a ddyfrhaodd, ond a roddes y cynnydd. Haydn Davies, Caerfyrddin (Atebion ar dudalen 18)