Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DOD YNGHYD MORGAN D. JONES Ni all neb o garedigion Eglwys Dduw edrych ar y sefyllfa grefyddol yng Nghymru heddiw heb dristáu wrth weld olion mor amlwg o'r mawreidd-dra arswydus hwnnw sydd wedi ymledu fel parlys difaol dros ein heglwysi, gan fygu bron bob ymgais a wneir i fegino'r fflam sy'n llosgi mor isel y dyddiau hyn ar allorau'n gwlad. Mae gweld ambell ddiadell fechan yn dygnu ymlaen dan faich y gost o gynnal a chadw hen adeiladau mawr adfeiledig yn hytrach nag ystyried cam pendant ymlaen at undod eglwysig, yn ddigon i beri i ddyn feddwl ei bod yn ddiffygiol nid yn gymaint mewn graslonrwydd ag mewn synnwyr cyffredin. Clywais aelod yn dweud yn ddiweddar ei bod yn ddyletswydd arnom gadw'n capeli ar agor o barch i'r tadau, tra oedd un arall o'r farn y byddai eu hangen arnom pan ddelai'r diwygiad hir- ddisgwyliedig. Eithr mae'r ddau fel ei gilydd yn euog o fethu wynebu'r sefyllfa fel y mae a gweithredu yn ôl anghenion yr oes. Ei bryder ynglyn â chyflwr dybryd a dyfodol ansicr yr eglwysi a barodd i Gyngor Eglwysi Rhyddion Cymraeg Cwm Llynfi (cylch Maesteg) benderfynu yn ddiweddar wneud arolwg ar holl eglwysi'r cwm er mwyn archwilio'r sefyllfa'n drwyadl, a gweld beth a ellid ei wneud i'w gwella. Ar ôl trafod canlyniadau'r arolwg, penderfynwyd gofyn i bob eglwys ystyried ei sefyllfa a'i dyfodol ei hun yn ofalus, apelio am fwy o gyd-ddealltwriaeth a chydweithediad, a rhoi sylw arbennig i'r angen am undod eglwysig. Clywsom gan aelod o un o eglwysi'r cwm ei bod ar fin cau, tra oedd eraill o'r farn na allant barhau am fwy na blwyddyn neu ddwy. MEDDWL YN HUNANOL Yr hyn sy'n wirioneddol drist yn y sefyllfa bresennol yw hwyr- frydigrwydd llawer o'n heglwysi i gydnabod yr angen am undod. Ymddengys ei bod yn well ganddynt gredu mai ewyllys Duw yw eu bod yn dal ymlaen i'r diwedd yn eu nerth eu hunain, gan wadu'r gwirionedd sydd yn yr hen ddihareb enwog, "Mewn Undod y mae Nerth". Y gwir amdani yw bod llawer o'n heglwysi heddiw yn fwy chwannog i feddwl yn hunanol am eu parhad eu hunain nag am wir genhadaeth yr eglwys, sef gweini i fyd trallodus. Fe fuasai gan yr Apostol Paul, pe buasai byw heddiw, lawer o bethau hallt i'w dweud wrth yr eglwysi yn wyneb eu claearineb, eu difaterwch a'u cyndynrwydd. Mae'n anodd deall paham na all pobl a gafodd y fraint o wrando am hir flynyddoedd ar draethu Efengyl y cariad a'r cymod yng Nghrist, sylweddoli fod yr amser wedi dod i weithredu mewn modd cadarnhaol yn nannedd y drygau hynny sydd heddiw yn bygwth y dystiolaeth Gristnogol yn ein tir.