Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Eglwys, onid ydym ninnau'n barod i fentro mewn ffydd i dderbyn her ei Ysbryd? Yn wyneb yr anhawster cynyddol a gaiff ysgrifenyddion ein heglwysi i lenwi pulpud, onid da o beth fyddai mynd ati i drefnu oedfaon undebol rheolaidd, unwaith y mis, dyweder, neu bob deufis? Fe olygai hynny, wrth gwrs, ryw fesur o ad- drefnu gyda phregethwyr yn gorfod newid eu cyhoeddiadau, ond ni ddylai hynny fod yn rhwystr anorfod. Unwaith y sefydlir y patrwm fe ddylai pethau redeg yn esmwyth ddigon. Un o'r arweddau tristaf sy'n dal i flino'r Eglwys Gristnogol heddiw yw'r hwyrfrydigrwydd a welir mewn rhai cylchoedd i ganiatáu i aelodau o wahanol draddodiadau crefyddol ymuno wrth fwrdd y Cymun Sanctaidd. Onid y diweddar gyn- Archesgob Temple a ddywedodd fod hyn yn warth ar Eglwys Dduw? Nid yw hyn yn rhwystr ymhlith yr eglwysi Anghyd- ffurfiol bellach, trwy drugaredd, er bod lle i ofni nad oes llawer o awydd mewn rhai mannau i gynnal Cymun undebol. O ddechrau cydaddoli ar y Sul, nid hwyrach y gwelid mwy o awydd ymhlith yr eglwysi i gynnal cyfarfodydd undebol yn yr wythnos hefyd. CYDWEITHIO Yn y trydydd lle, trwy Gydweithio. Mae'r baich o gynnal yr achos yn pwyso mor drwm ar lawer o'n heglwysi heddiw fel nad oes ganddynt na'r ynni na'r adnoddau i ymgymryd ag unrhyw weithgarwch y tu allan i'w muriau eu hunain. Wrth gydweithio'n gytûn gallai nifer o eglwysi mewn cymdogaeth gyflawni llawer mwy gyda'i gilydd nag ar wahân o'r dylet- swyddau hynny y gellid yn rhesymol eu disgwyl gan Eglwys Dduw. Pan fo'n well gan eglwys fesur ei llwyddiant wrth y ffigurau yn ei mantolen ar ddiwedd blwyddyn nag ar faint ei gwasanaeth i'r gymdeithas o'i hamgylch, nid yw hi'n cyfiawnhau ei bodolaeth fel rhan o gorff Crist. 'WYNEB IESU' Eithr i fod yn deg, mae'n rhaid cydnabod cefnogaeth barod ein heglwysi i achosion da feI Cymorth Cristnogol, y Genhadaeth, ac un neu ddau o achosion teilwng eraill, ond y perygl yw iddynt fodloni ar y rheini a methu gweld yr angen am fod o wasanaeth mewn cyfeiriadau eraill. Mae mudiadau dyngarol fel Rotary, y Llewod ac eraill yn cyflawni gwaith rhagorol yn y gymuned leol ac ar lefel ryngwladol. Pe deuai nifer o eglwysi lleol at ei gilydd a chyfuno eu hadnoddau, fe allent hwythau hefyd ymgymryd â mwy o waith cymdeithasol gan fynd i'r afael â rhai o'r problemau hynny sy'n ein blino heddiw. Sut y gallwn yn ein heglwysi gyfiawnhau cadw miloedd o bunnau yn segur yn y banc tra bo miliynau o'n cyd-ddynion yn gweiddi allan am gymorth? "Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt." Yn y pethau hyn oll mae gan ein Cynghorau Eglwysi lleol ran bwysig iawn i'w chwarae i gymell ein heglwysi i ddod at ei gilydd, ond yn anffodus, nid yw'r cyrff hynny yn mwynhau'r gefnogaeth a haeddant mewn rhai cylchoedd. Mae un peth yn sicr, sef ei bod yn rhaid i rywun neu rywrai symud ar fyrder i atal dirywiad pellach. Dylai'r ffeithiau a'r ffigurau digalon a nodir gan Yr Athro Glanmor Williams yn ei adroddiad diweddar, "Y Cymry a'u Crefydd:; ein sobri i gyd a pheri inni ymysgwyd o'n difaterwch parlysol. Uwchlaw pob peth, mae'n ofynnol inni fel eglwysi ymostwng gerbron Duw mewn gweddi daer i ymbil arno am ei faddeuant ac am ei arweiniad diogel. Yn goron ar y cyfan, erfyniwn am dywalltiad o'i Ysbryd Glân. Heb yr anadl o'r uchelder ni fydd ein trefniadau bregus ni ond megis esgyrn sychion. Y mae Mr. Morgan D. Jones, Maesteg yn gyn-athro ysgol, yn bregethwr lleyg ers blynyddoedd ac yn gyfrannwr cyson i Cristion a nifer o gylchgronau eraill. Beth am y darlun hwn mewn geiriau gan Turgenev o wyneb Iesu? 'Gwelais fy hun mewn breuddwyd yn wr ifanc, bron yn fachgen, mewn eglwys bren â'r nenfwd isel iddi. Disgleiriai'r canhwyllau gwêr main yn smotiau coch o flaen hen ddarluniau o saint. 'Roedd cylch o oleuni lliw o amgylch pob fflam fechan. Yr oedd yn dywyll a phwt yn yr eglwys ond safodd llawer o bobl o'm blaen. Yn sydyn daeth rhyw ddyn ataf o'r tu ôl a sefyll wrth fy ochr. 'Wnes i ddim troi ato ond ar unwaith teimlais mai'r dyn hwn oedd Crist. Cafodd teimlad o chwilfrydedd ac arswyd y llaw uchaf arnaf. Gwneuthum ymdrech ac edrych ar fy nghymydog. Wyneb fel wyneb pob un, wyneb fel wyneb pawb. Edrychai'r llygaid ychydig i fyny yn dawel a thra'r gwefusau ar gau, y wefus uchaf fel pe bai yn gorffwys ar yr un isaf: y farf wedi ei rhannu'n ddwy; y dwylo wedi eu plethu ac yn llonydd; a'i ddillad fel rhai pawb arall. A meddylais. 'Pa fath Grist yw hwn dyn mor gyffredin. Na all hyn ddim bod.' Troais ymaith. Ond nid oeddwn ond prin wedi troi fy llygaid oddi wrth y dyn cyffredin hwn pan deimlais eto mai Crist, mai neb arall ond Crist a safai wrth fy ochr. Ac yna'n sydyn suddodd fy nghalon a deuthum ataf fy hun. Dim ond yma y sylweddolais mai union wyneb fel yna wyneb fel wyneb pob dyn yw wyneb Crist: (0 'Credu a Chofio; Ysgrifau Edwin Prycejones, Gol. R. Tudurjones, Gwasg John Penry, t. 105).