Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dichon y bydd darllenwyr cyson y golofn hon yn cofio inni drafod y gair APOSTOLOS o'r blaen, yn Rhifyn lonawr/Chwefror 1990 o Cristion. Dychwelwn yn anuniongyrchol at y gair eto, y tro hwn wedi gweld dyfynnu'r Pab loan Paul II yn y ddadl ynghylch ordeinio merched. Honnir iddo ddweud na ddylid ordeinio gwragedd am nad oedd merch ymhlith yr Apostolion safbwynt y byddai Bedyddwyr y De yng Ngogledd America a llawer i Brotestant uniongred arall yn ei Amenio, er gwaethaf y ffaith mai i'r Pab y tadogir y dyfyniad! Ond a yw'n bosibl fod merched ymhlith yr Apostolion? Ni ellir amau fod y merched yn chwarae rhan amlwg ym mywyd yr Eglwys Fore, yn ôl tystiolaeth y Testament Newydd ei hun mwy amlwg, efallai, nag yr awgyma'r cyfeiriadau atynt. Er enghraifft, ni fyddai neb yn amau fod merched ymhlith y saint a'r etholedigion y cyfeiria Paul atynt yn fynych yn ei epistolau; ond a ydym yn sylweddoli eu bod hefyd ymhlith y brodyr y mae'n eu cyfarch? Gwir mai "brawd" yw ystyr ADELPHOS, ond pan ymddengys yn y lluosog gall olygu "fellow-Christians" (geiriadur Souter) neu "fellow believers" "fellow man" (geiriadur yr United Bible Societies). Prin y byddai neb, felly, yn gwrthwynebu cyfieithu geiriau Paul yn Philipiaid 1:12: "Yr wyf am i chwi wybod, frodyr a chwiorydd fod y pethau a ddigwyddodd i mi wedi troi, yn hytrach, yn foddion i hyrwyddo'r efengyl Ond a fyddem yn fodlon caniatáu fod merched yn gynwysedig yn yr un gair pan ymddengys yn adnod 14? Os felly, dengys fod merched o'r dechrau yn chwarae rhan weithredol yn y gwaith o ledaenu'r efengyl: [Daeth] yn hysbys trwy'r holl Praetoriwm ac i bawb arall mai er mwyn Crist yr wyf yng ngharchar, a bod y mwyafrif o'r brodyr a'r chwiorydd, oherwydd i mi gael fy ngharcharu, wedi dod yn hyderus yn yr Arglwydd, ac yn fwy hy o lawer i lefaru'r gair yn ddi-ofn. Ac oni ddylid credu mai "i fwy na phum cant o'r brodyr a'rchwiorydd" (I Cor. 15:6) yr ymddangosodd yr Arglwydd atgyfodedig? Beth, felly, am y gair Apostolos? A yw hi'n bosibl fod merched ynghudd yn y gair ac i'w canfod ymhlith yr Apostolion y cyfeirir atynt mor fynych? Dyma lle mae'n rhaid ystyried JUNIA neu JUNIAS, a ddaw i'r golwg yn Rhufeiniaid 16:7: Anerchwch Andronicus a JUNIA, fy ngheraint a'm cyd-carcharorion, y rhai sydd hynod ymhlith yr apostolion, y rhai hefyd oeddynt yng Nghrist o'm blaen i (BC). Cyfarchion iAndronicus a JWNIAS, sydd o'r un genedl â mi, ac a fu'n gyd- carcharorion â mi, gwyr amlwg ymhlith yr apostolion, a oeddyn Gristnogion o'm blaen i (BCN) Gan fod yr enw'n ymddangos fel gwrthrych y ferf yn y Groeg, ei ffurf yw JUNIAN, a sylwodd William Edwards mewn nodyn gwaelod-y-ddalen: "Gall y gair fod y naill rhyw neu y HaH"-a'r cwestiwn a gyfyd yn naturiol, felly, yw, A ddaw yr enw JUNIAN o JUINA (enw gwraig) neu JUNIAS (enw dyn)? Mae'n amheus a fyddai dadl yn codi o gwbl ynghylch yr ateb i'r cwestiwn onibai fod Andronicus a JUNIA(S) "ymhlith yr apostolion". Y mae JUNIA yn enw Rhufeinig cyffredin a chyfarwydd ar ferch; ond yn ôl C.E.B. Cranfield, nid oes un enghraifft ar gael mewn hen destunau o ddyn yn cael ei alw'n Junias! Er hynny, y mae'r mwyafrif o esbonwyr cyn Cranfield (1979) a John Ziesler (1989) wedi ceisio osgoi dod i'r casgliad fod merch ymhlith yr Apostolion. Safbwynt Hans Lietzmann oedd bod y cyfeiriad at Apostolion yn y cyd-destun yn profi mai enw dyn sydd yma; a threuliodd llawer o ysgolheigion eraill eu hamser yn dyfalu pa enw gwrywaidd a gynrychiolir gan y ffurf JUNIAN. Un ateb poblogaidd yw bod Junias yn dalfyriad o Junianus (fel y mae Silas yn dalfyriad o Silvanus). Geilw hyn am acen grom yn y Groeg, ac er bod acen grom i'w gweld mewn testunau modern, nid ymddangosodd tan y ganrif hon-yn wir, y mae pob testun cyn y nawfed neu'r ddegfed ganrif yn cael ei ysgrifennu heb nodi'r acenion o gwbl! Ail ffordd o osgoi cydnabod fod merch ymhlith yr Apostolion yw trwy ddadlau mai ystyr trydydd cymal yr adnod oedd bod yr Apostolion eu hunain yn mawrygu And- ronicus a JUNIA nid bod y ddau hynny yn amlwg ymhlith yr Apostolion. Ffordd arall eto, yw ysgrifennu "apostolion" ag "a" fach, gan awgrymu fod y Testament Newydd yn arddel dau dosbarth o Apostolion, sef y Deuddeg a Phaul ar y naill llaw, a 'negesydd' neu 'gynrychiolydd eglwys' (W.B. Griffiths) ar y llaw arall. Ond a yw hyn yn gyson â deffiniad Paul o gymwysterau Apostol sydd gwestiwn arall. Ymddengys, felly, fod enwi JUNIA yn Rhufeiniaid 16:7¾"Gwraig yn cyflawni gwaith Apostol" yn dipyn o embaras lawer o Gristnogion ein cyfnod ni ac yn "dipyn o sioc i'r gwrth-hyrwyddwyr hawliau benywod" (Dafydd G. Davies, Dod a Bod yn Gristion). Yr hyn sy'n ddiddorol ac yn arwyddocaol yw nad oedd felly i'r Tadau Eglwysig. Nid oes amheuaeth eu bod hwy yn derbyn mai merch oedd JUNIA yn wir, ambell waith y maent yn cyfeirion ati hi fel JULIA, fel y gwna o leiaf un darn o'r Testa- ment Groeg ei hun sy'n dyddio o'r ail/drydedd ganrif. Tynnodd Chrysostom sylw i'r ffaith fod JUNIA yn wraig ac yn apostol a bod Paul yn ei chanmol yn fawr. Yn ôl un arall o'r Tadau, gwr a gwraig oedd Andronicus a JUNIA, tra bod neb llai nag Origen yn awgrymu eu bod hwy ill dau ymhlith y deuddeg a thrigain a gomi- siynodd yr Arglwydd lesu i fynd allan yn ei enw (Luc 10:1-16)-rhywbeth a fyddai'n cadarnhau hawl JUNIA i'w galw'n Apostol. Nid yw hawlio fod JUNIA ymhlith yr Apostolion yn ateb pob dadl ysgrythurol sydd gan y sawl a wrthwyneba ordeinio merched i'r Weinidogaeth ond y mae'n tanseilio un o'r rhesymau a ystyrir ymhlith y goreuon. D. HUGH MATTHEWS ATEBION I'R CWIS YSGRYTHUROL 1. Genesis 8:22 2. Genesis 4:3 3. Salm 104 4. Medi ei cynhaeaf gwenith. (1 Samuel 6:13) 5. Agur, fab Jace (Diarhebion 30:8-9) 6. a'r neb a edrycho ar y cymylau ni feda" (Pregethwr 11:4). 7. Amos (8:1-2) 8. Gweler Galatiaid 5:22 9. loan Fedyddiwr (Mathew 3:8) 10. Gweler 1 Corinthiaid 3:6.