Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Crynodeb o ddarlith ar bregethu gan y diweddar Barchg. Raymond Williams Caerdydd BYD Y PREGETHWR RAYMOND WILLIAMS Mae Hans Küng mewn pennod ar Her Dyneiddiaeth Gyfoes o bob math, yn codi'r cwestiwn 'Cristnogaeth ar Werth?', ac yn y drafodaeth sôn y mae am y perygl i'r eglwys uniaethu â dyneiddiaeth i'r graddau ei bod yn y diwedd yn anodd i'w hadnabod ar wahân. Os mai sefyll dros yr hyn y saif pob dyneiddiaeth iach drostynt a wna'r eglwys, a thros ddim arall, beth yw'r pwrpas o gael eglwys o gwbl? Dadleua fod rhywfaint o wirionedd yn y darlun o eglwysi eithriadol eangfrydig neu agored, sy'n anelu at weithgarwch yn lle gweddi, yn ymrwymo mewn agweddau ymarferol ymhobman mewn cymdeithas, yn cydsynio â datganiadau, eu huniaethu eu hunain â phob menter posibl, a phryd bynnag mae'n bosibl, i gymryd rhan mewn chwyldroadau, o leiaf trwy eu cefnogi trwy eiriau o bell; yn y cyfamser, yn nes i gartref, mae'r eglwysi'n mynd yn wacach, y bregeth yn cymryd arni swyddogaeth newydd, a'r Iwcharist yn mynd yn fwy angof, gyda'r canlyniad fod addoliad cymunedol wedi ei ddi-litwrgeiddio a'i ddi-ddiwinyddio yn dirywio i fod yn grwp trafod a gweithredu cymdeithasol-wleidyddol. Yn ei hanfod, crefydd i'w daearu yw Cristnogaeth, ond cymaint bynnag o angen sydd i'w daearu, ei chladdu a wnaem pe dyneiddiem hi y tu hwnt i bob adnabyddiaeth. Mae popeth o werth a lles sydd gan yr eglwys i'w ddweud wrth ddyn ac am ddyn, a phopeth sydd ganddi i'w wneud dros ddyn mae'r cwbl i gyd yn deillio o'r hyn a gred ac a wyr am Dduw. Felly, pa mor agos bynnag mae'n rhaid iddi fynd at ddynion a mudiadau dynol a dyngarol, ni all barhau i fodoli fel eglwys heb ei seiliau diwinyddol, heb ei chyfraniad unigryw Cristnogol. Faint bynnag sydd gan eglwys i'w wneud, nid yw hynny'n dirymu na disodli dim sydd ganddi i'w ddweud. Mae gweinidogaeth y Gair a'r Ordinhadau, yr addysgu a'r gwasanaethu, yn agweddau nodweddiadol o'r eglwys, ni ddylai hi na'i gweinidog fod mor brysur gyda phopeth arall fel bo gweinidogaeth y Gair yn cael ei hesgeuluso. Dywedwyd rhywbryd yn rhywle fod y gweinidog yn pregethu i'r eglwys gyda'r eglwys, a thros yr eglwys. Rhaid cydnabod bod yr eglwysi yng Nghymru yn eu cael eu hunain mewn argyfwng na welwyd mo'i fath o fewn cof, hyd yn oed gan yr hynaf o'n hynafgwyr! Fel y dywedodd newyddiadurwr yn un o bapurau sylweddol Lloegr rai blynyddoedd yn ôl, 'Mae hyd yn oed y canolfannau pregethu enwog a thraddodiadol yn y wlad, erbyn hyn wedi colli eu gafael ar bobl, a'r cynulleidfaoedd yn lleihau'. Ymateb y pregethwr i'r fath sefyllfa, meddai, yw iddo'i feio'i hun. Ond trwy'r siom a'r methiant, mae'r pregethwr a phregethu yma o hyd! Beth, bellach, am fyd y pregethwr? BYD Y BEIBL Byd y Beibl ydyw. Dyma'i faes myfyr- ei law-lyfr a phorthiant ei feddwl a'i ysbryd. Dyma ran helaeth a sylfaenol ei dreftadaeth ysbrydol. Yma, yn anad dim y trysorwyd y ffydd Apostolaidd y ffydd a draddodwyd unwaith i'r saint. Yn ôl at y ffynonellau Apostolaidd y trown am awdurdod ac am y wybodaeth ysgrifenedig gynharaf o darddiad a datblygiad y ffydd. Ni ellir cael pregethu a anwybyddo bwysigrwydd canolog yr awdurdod hwn, neu a fodlona ar fympwyon neu wybodaeth arwynebol. Mae yno ddyfnderau i'r hen, hen hanes i dreiddio iddynt gyda chymorth yr arbenigwr. Llyfr am ymwneud Duw â dyn yw'r Gair, yr hyn welwyd, a glywyd ac y teimlodd ein dwylo am Air y Bywyd, a chyda meddwl agored, a hyd yn oed beirniadol, y mae edrych ar yr hen, hen hanes, er mwyn i'r Gair yng Nghrist gerdded allan o'r geiriau. Mae cyfoeth pob ymchwil ac ysgolheictod yn ganllaw i ddeall yn well y cefndir a'r cyd-destun y dywedwyd ac yr ysgrifennwyd y pethau hyn gyntaf oll. Ond cofir, ar yr un pryd, iddynt gael eu sgrifennu fel y credom mai Iesu yw Mab Duw. Mae turio i storfeydd yr arbenigwyr a'r esbonwyr yn gymorth amrhisiadwy, ond nid gwaith y pregethwr yw mynd a'i siop waith i'r pulpud, ond y cynnyrch yn unig! R. Ifor Parry yn ei lyfr "Ymneilltuaeth" ddywedodd yn y chwedegau bod tynged ymneilltuaeth yn dibynnu ar ddiwylliant crefyddol. Erbyn hyn gwelir deffro ymhob cangen o'r Eglwys i bwysigrwydd Ysgrythur a deall o'r ffydd a draddodwyd unwaith i'r saint. Nid oes cymaint o fri, yn y traddodiadau cyfarwydd, ar wybod a thrafod y Gair, er bod adfywiad hwnt ac yma. Mae angen addysgu er mwyn cymhwyso'r saint i waith gweinidogaeth, mae angen am- ddiffyn yn erbyn y rhai fydd yn pedlera gwahanol ffurfiau