Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ar grefydd hen a newydd wrth ein drysau. Bydd rhain yn gwybod beth a gredant, a'r unig ffordd inni fedru delio'n foddhaol â'r sefyllfa yw ein bod ninnau hefyd yn medru rhoi rheswm dros y gobaith sydd ynom. Beth bynnag arall felly sydd yng nghawell saethau'r pregethwr, a pha offer bynnag, o'r holl gyfoeth mewn llenyddiaeth a drama sydd at ei wasanaeth, ei Feibl yw ei brif lyfr, ac yn ôl at y ffynonellau Apostolaidd yn arbennig mae'n rhaid troi, ac o'r rheiny mae cloddio. Hanfod cyntaf byd y pregethwr yw Duw y Gair y mae iddo dystiolaeth yng Ngair Duw. BYD EI GYFNOD Os, ar y naill ochr, y mae'n ofynnol gwybod pa amser o'r dydd yw hi o ran astudiaethau ac esboniadaeth, ar y llaw arall, y mae'n angenrheidiol gwybod pa amser o'r dydd ydyw hefyd yn gymdeithasol a gwleidyddol. Nid yw hyn yn golygu bod disgwyl i bregethwr fod yn awdurdod ar bopeth neu yn feistr ar wleidyddiaeth, ond y mae'n golygu bod angen ymwybyddiaeth o'r byd y mae'n byw ynddo, a'i fod yn byw yn yr un byd â phob un arall. Mae angen ymwybyddiaeth, 0 leiaf, o'r sefyllfa a'i chwestiynau cymdeithasol a gwleidyddol, er mwyn cyhoeddi'r Gair i'r byd hwnnw. Un byd ydyw ein byd, a daeth yn amlycach fyth mai cyd-ddibynnu neu gyd-ddiflannu fydd ein tynged. Nid ag arallfyd annelwig mae a fynnom ni, ond â'r un bywyd, a'r un byd y gweledig a'r anweledig, yr ysbrydol a'r materol. Un byd yw byd Duw, a phechod yw ei rannu a'i rwygo! Mae'r eglwys a'r pregethwr yn byw yn yr un byd â phob un arall yn anadlu'r un awyr, yn dibynnu ar yr un bara ac yn yfed o'r un dwr, mae ffactorau cymdeithasol, gwleid- yddol ac ecolegol, sy'n anwahanadwy (i enwi tri yn unig), yn rhan o'i fyd a'i fywyd. Gellir sôn am lawer arall sy'n perthyn i'n byd a'n bywyd cymdeithasol, ac am y problemau cymdeithasol y mae dyn yn eu creu iddo'i hun, heb sôn am y rhai a grëir gan ffactorau gwleidyddol. Sut mae pregethu i'r diwaith, y difreintiedig? Beth yw ystyr pregethu i bobl y trydydd byd am Deyrnas Dduw os nad oes dim i'w ddweud wrth eu newyn a'u cyflwr? Ni ddylai'r eglwys na'i gweinidog fod mor brysur gyda phopeth arall fel bo gweinidogaeth y Gair yn cael ei hesgeuluso. Daeth Iesu i roi bywyd yn ei helaethrwydd, ac mae iachawdwriaeth yn air cyfoethog iawn sy'n golygu iechyd a chyfanrwydd. Fe geir yn yr Efengyl hedd, maddeuant, meddyginiaeth ac iachawdwriaeth. Nid rhywbeth ar gyfer y byd a ddaw yn unig, ond gan ddechrau yn y byd hwn, cyhoeddi wna'r pregethwr y gwerth a roes Duw ar ddyn, a dangos nad oes bellter mor fawr na fedr ei gariad Ef ei rychwantu. Os yw'r Groes yn dweud rhywbeth, fe ddywed fod Duw yn mynd hyd yr eithaf dros fyd a grëodd, garodd, brynodd. Un byd sydd gan Dduw ac a roes Duw inni i'w gyfan- heddu. Y gwyddonydd John Polkinghorne sgrifennodd am un byd gan ein hatgoffa mai dwy ffordd o esbonio a o ddeall neu ddisgrifio yr un byd yw crefydd a gwyddoniaeth. Nid gwrthdaro ond cyd-ddeall yw'r nod. BYD CYD-EGLWYSIG Y peth pwysicaf erbyn hyn yw parhad y dystiolaeth GRISTNOGOL, yn fwy na goroesiad enwadau a charfannau. Eto, nid dewis rhwng y ddau a'n hwyneba, ond y cyfle i gyd- weithio mewn ysbryd o undeb Cristnogol, heb unffurfiaeth. Mae'n wir dweud bod y gair 'eciwmenaidd' mewn rhai cyfeiriadau yn air brwnt, a chawn ein hunain mewn sefyllfa lle na wrandewir ar neb ond o'r un enwad, neu o'r un pwyslais diwinyddol. Mae'n rhyfedd sut mae pwnc undeb yn rhannu! Tristwch o'r mwyaf yw polareiddio ymysg yr enwadau, a hyd yn oed o fewn yr enwadau eu hunain. Beth, yn enw pob rheswm, sydd gan yr eglwys i'w ddweud neu ei ddangos i fyd rhanedig ynglyn ag undeb neu frawdgarwch onid oes ganddi ei hun fesur o undeb neu unoliaeth. Her fawr i eglwysi yn y byd cyfoes yw dangos realiti cymod. Mae'n siwr fod gan Efengyl y Cymod rywbeth i'w ddweud wrth fyd anghymodlon. Mae deffroad ymysg crefyddau mawr y byd, yn enwedig Islam, yn ein herio i gadarnhau ein safbwynt a'n cyfraniad Cristnogol gyda golwg ar heddwch a chymod. Arbenigedd yr Eglwys yw casglu a chynnwys ac uno mewn teulu, ac nid bod yn anghynhwysol. Ys dywed rhywun, "Tynasant hwy gylch i'm cau i allan, ond fe dynnodd Ef gylch i'm cadw i mewn." Nid mater o ysu am fod yn union fel eraill-boed Babyddion neu Anglicaniaid, neu ddim arall mohoni ond mater o glosio at ein gilydd ymhob cylch o dystiolaeth Gristnogol y mae'n bosibl, er mwyn grymuso honno a chael digon o ras i arddel ein gilydd mewn goddefgarwch Cristnogol ac ysbryd cymodlon. Tybed a yw'n bosib bellach i feddwl am y dyfodol yng Nghymru heb roddi mwy o ystyriaeth i weinidogaeth bro? A oes rhaid aros i'r to syrthio cyn gollwng gafael, ble mae adeiladau yn faich trymach ar gynulleidfaoedd llai? Ers blynyddoedd bellach mae'r flaenoriaeth wedi ei roddi i adeiladau yn lle gweinidogaeth a gwaith cenhadol yr eglwysi. Heb os nac ond bai, bydd y deng mlynedd olaf hyn o'r ganrif yn dyngedfennol. Mae'r conundrum cyfundrefnol yn rhan o fyd y pregethwr. Ni all na fegir consyrn, a gobeithio yr enynnir gweledigaeth yn y cylch arbennig hwn. Pa ddiben sydd i gadw drws adeilad yn agored os yw drws trugaredd a chonsyrn yr eglwys am ei chymuned wedi cau? Pa ddiben sydd i gadw'r gorlan os yw'r defaid ar wasgar a neb i'w chyrchu? Syrth arnom gyfrifoldeb, nid yn unig tuag at y rhai oddi mewn, ond hefyd at y gwasgaredig, y diwaith a'r di-gartref a'r diobaith yn ein cymunedau. Os oes gan Dduw air i bob dyn a phob cyflwr, rhaid llafurio i'w wybod, a rhaid cyd-weithio er ei gyflwyno'n gredadwy i'n cymdeithas. Mae gan eglwysi gyfle, gyda'i gilydd, i fod yn llais dros y gwan, i uniaethu â'r tlawd, a diogelu aelwyd gydymdeimladol ble gall y distadlaf deimlo'n gartrefol. Beth bynnag fu patrymau'r gorffennol, rhaid byw heddiw a gweithio ar gyfer yfory, a hynny heb ymgolli mewn breudd- wydion gwag am y dyfodol, a hefyd heb hiraethu am ddyddiau euraid na fu. Rhaid mentro ymhob oes i wrando a dilyn yr Ysbryd sy'n chwythu lle y mynno. Nid ysbryd yr oes, nid ysbryd dyn, ond Ysbryd nerthol Duw. Mae hwnnw'n