Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

A ddylid sôn am y Beibl cyfan fel 'Gair Duw'? GAIR DUW A GEIRIAU DYNION Yn Eglwys Loegr, y drefn yn awr yw dweud "Dyma air yr Arglwydd" ar ôl darllen rhannau o'r Beibl. Ar un Sul yn y flwyddyn un o'r darlleniadau yw Numeri 15:32-36, sy'n sôn am ddyn a welwyd yn casglu coed ar y Saboth. "Dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, 'Rhodder y dyn i farwolaeth; y mae'r holl gynulliad i'w labyddio y tu allan i'r gwersyll'. Felly daeth yr holl gynulliad ag ef y tu allan i'r gwersyll a'i labyddio, fel yr oedd yr Arglwydd wedi gorchymyn i Moses, a bu farw." Pan adroddodd caplan un o golegau Rhydychen y geiriau "Dyma air yr Arglwydd" ar ddiwedd y darlleniad yma clywodd rai o'r myfyrwyr yn gwneud swn i ddangos eu hanghymeradwyaeth; dangos nad oeddent yn ystyried y geiriau hyn yn air yr Arglwydd o gwbl, (John Barton: People of the Book). GAIR DUW? Credaf fod yr arfer o alw'r Beibl yn "Air Duw" yn fwy cyffredin yng Nghymru nag yn Lloegr. Ar ddiwedd y darlleniadau o'r Beibl dywedir: "Bendithied yr Arglwydd y darlleniad hwn o'i air". A'r enw Cymraeg a roddwyd i The Scripture Union yw nid "Undeb yr Ysgrythur" ond "Undeb y Gair". Am amryw resymau byddai'n well inni sôn am y Beibl neu'r Ysgrythur yn hytrach nag am Air Duw neu Y Gair 1. Nid yw Gair Duw yn enw priodol ar y cyfan o gynnwys y Beibl. Y mae yna lawer o bethau y dylem eu darllen mewn eglwys a chapel nad yw Gair Duw yn enw addas iddynt. Geiriau dynion i Dduw, nid geiriau Duw i ddyn, yw'r gweddïau a'r emynau sydd yn y Beibl, yn y Salmau er enghraifft. 2. Nid y Beibl, yn bennaf yw Gair Duw, ond ein Harglwydd Iesu Grist, "y Gair a wnaethpwyd yn gnawd". 3. Nid pobl sy'n credu'r Beibl yw Cristnogion, ond pobl sy'n credu yng Nghrist, credu Efengyl lesu Grist Mab Duw. 4. Yr oedd yr Efengyl honno'n cael ei chyhoeddi a'i chredu cyn bod Beibl, cyn i air o'r Testament Newydd gael ei ysgrif- ennu; a gallai'r Efengyl barhau i gael ei chyhoeddi a'i derbyn pe bai pob Beibl yn diflannu oddi ar wyneb y ddaear. 5. Gall yr arfer o'i alw'n "Air Duw" ychwanegu at y math o barch anwyboduí. a hanner ofergoelus i'r Beibl sy'n gyffredin iawn yn awr. I lawer o bobl nid yw'n llawer mwy na pheth lwcus i'w gadw yn y ty, llyfr F.M. JONES na fydd neb yn ei agor na meddwl amdano; dim ond chwilio amdano a'i roi ar fwrdd y parlwr ar gyfer y gweinidog pan fydd cynhebrwng yn y teulu. PARCH AC ANWYBODAETH Y mae'r cyfuniad hwn o barch eithafol i'r Beibl ac anwybodaeth ynghylch ei gynnwys yn y mwyafrif mawr o bobl yn ei gwneud yn hawdd iddynt gael eu twyllo gan eraill sy'n camddefnyddio'r Beibl i'w dibenion eu hunain. Bu rhai'n camddefnyddio'r Beibl i "brofi" fod Duw o blaid brenhiniaeth, gan gyfeirio at 1 Samuel 9 a 11; ac eraill yn "profi" ei fod yn gwrthwynebu brenhiniaeth trwy gyfeirio at 1 Samuel 8 a 12! Peth hawdd yw i rywun, trwy ddewis adnodau o'r Beibl yn ofalus a'u dehongli yn ei ffordd ei hun, "brofi" ei fod ef yn iawn, "profi" fod Duw yn ei Air yn dweud yr un peth ag yntau. Dyna beth a wnaeth Ronald Reagan yn 1985, pan honnodd ei bod yn iawn i America wario'n helaeth ar arfau rhyfel trwy ddyfynnu, "Os bydd brenin ar ei ffordd i ryfela yn erbyn brenin arall, oni fydd yn gyntaf yn eistedd i lawr i ystyried a all ef, â deng mil o filwyr, wrthsefyll un sy'n ymosod arno ag ugain mil?" (Luc 4:31). Dywedodd yn ddiweddarach fod y Beibl yn rhoi ateb i bob cwestiwn a phob problem sy'n ein hwynebu ni a bod rhai diwinydd- ion wedi dweud wrtho fod ei ddefnydd o'r Beibl yn hollol briodol (Kathleen C. Boone: The Bible Tells Them So, t. 21). Yn Ionawr 1991 dywedodd ei olynydd, George Bush, fod y rhyfel yn erbyn Irac yn gyfiawn a bod yr Unol Daleithiau a'i chynghreiriaid on the side of God, a dyfynnodd yr adnod: "Gwyn eu byd y rhai addfwyn, oherwydd cânt hwy etifeddu'r ddaear", adnod sydd wedi arfer cael ei defnyddio i gyfiawnhau heddychiaeth, (The Independent 3 o Ionawr 1991). (Allan o "What is the Bible?" John Barton) CAMDDEFNYDDIO'R BEIBL Mae'n siwr fod miliynau o bobl America wedi llyncu dadleuon Bush a Reagan, yn rhannol am eu bod wedi dyfynnu o'r Beibl, heb sylweddoli mai camddefnyddio'r Beibl yr oeddent. Canlyniad yw hyn i'r cyfuniad o barch at y Beibl ac anwybodaeth ynghylch ei gynnwys. Y mae hyn yn agor y drws i bobl gael eu denu, nid yn unig gan ddadleuon Bush a Reagan, ond hefyd gan Dystion Jehofa ac eraill. Twyllir hwynt i feddwl eu bod yn ymostwng i awdurdod y Beibl, i awdurdod Duw yn ei Air. Ymostwng y maent mewn gwirionedd i awdurdod pwy bynnag sy'n dewis pa adnodau o'r Beibl i'w pwysleisio ac yn dewis sut i'w dehongli. Y mae pawb ohonom sy'n pregethu yn gwneud rhywfaint o'r un peth. Trwy godi testun a phregethu yr ydym yn dewis rhai adnodau i'w pwysleisio ac yn eu dehongli yn ein ffyrdd ein hunain. Ond nid oes yna lawer o berygl yn hyn, heblaw ein bod yn honni mai ein dewis ni o adnodau i'w pwysleisio yw'r unig ddewis cywir, a honni mai ein safbwynt ni yw safbwynt Duw yn ei "Air". Byddai'n llawer iawn gwell pe bai yna lai o barch i'r Beibl, a mwy o barodrwydd i roi sylw manwl i'w gynnwys. Yn hytrach na thrin y Beibl fel gair anffaeledig Duw yn rhoi ateb parod i bob cwestiwn, dylem weld ynddo'r geiriau sy'n eiriau dynion meidrol a phechadurus yn ogystal â bod yn air Duw- a all ein help i ddod wyneb yn wyneb â'r Efengyl, ac i ymateb mewn ffydd. O ddechrau yn y fan yma, gydag Efengyl Iesu Grist, gallwn weld gwerth a phwysigrwydd y Beibl oherwydd ei dystiolaeth i'r Efengyl, ond heb ddisgwyl cael perffeithrwydd nac anffaeledigrwydd ynddo.