Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GORNEL .WED I "Bydded imi glywed yr hyn a lefara'r Arglwydd Dduw, oherwydd bydd yn cyhoeddi heddwch i'w bobl ac i'w ffyddloniaid, ac i'r rhai uniawn o galon" (Salm 85:8)' "Mewn llawer dull a llawer modd y llefarodd Duw gynt wrth y tadau yn y proffwydi, ond yn y dyddiau olaf hyn, llefarodd wrthym ni mewn Mab" (Heb. 1:1). Yr wyt ti, Arglwydd, yn llefaru wrthym yng ngwirioneddau dy Air sanctaidd, yn anadliadau dy Ysbryd ynom, yn nhystiolaeth ac addoliad dy Eglwys, yn nwyster a thawelwch ein gweddïau, ac yn arbennig ym mherson a bywyd dy Fab Iesu Grist. Cynorthwya ni yn awr i ymdawelu, i sefydlu ein meddyliau arnat, ac o glywed dy lais yn sibrwd yn ein heneidiau, i ymateb i ti mewn moliant a gwir weddi. Rhown ddiolch i Dduw am iddo lefaru wrthym mewn amrywiol ffyrdd ac am bob cyfle a gawn i ymglywed â'i Air Diolch i ti, O Dduw, nad wyt wedi tewi erioed. Yr wyt wedi llefaru mewn llawer dull a modd, trwy broffwydi, apostolion a saint yr oesau. Ond molwn di am inni glywed dy leferydd, a gweld ac adnabod dy wedd yn dy Fab Iesu Grist- gwir lun dy natur a'th ogoniant. Diolch i ti am dy Air sy'n dweud amdano, ac am i ni glywed dy lais yn siarad wrthym drwyddo: y llais sy'n ein galw o'n cysgadrwydd a'n syrthni; y llais sy'n dwysbigo ein cydwybod ac yn deffro ynom awydd i'th geisio; y llais sy'n barnu meddyliau ein calonnau ac yn ein hargyhoeddi o'n hangen a'n tlodi; y llais sy'n ein galw i ddilyn Iesu, i ymwadu â'r hunan, a chodi'r groes bob dydd a'i ganlyn; y llais sy'n galw pawb sy'n flinedig a llwythog i bwyso arno ef am nerth a gorffwysfa. Am holl seiniau'r greadigaeth sy'n dweud amdanat, am hyfryd eiriau Iesu sy'n dwyn bywyd i'n heneidiau, ac am oleuni dy Air sy'n llusern i'n llwybr: rhown ddiolch i ti, O Dduw. Gweddiwn amfaddeuant Duw am bopeth ynom sy'n ein hatal rhag ymglywed â'i lais ac ymateb i'w Air Maddau inni, O Dad, fod ein bywydau mor llawn prysurdeb a swn fel nad ydym yn clywed sibrydion dy Ysbryd o'n mewn. LLAIS Maddau inni fod hudoliaeth pethau a phleserau yn ein gwneud yn fyddar i'th alwadau. Maddau inni fod ein syrthni a'n segurdod yn ein gwneud yn ddi-hid o'th orchmynion. Treiddia drwy ein dychmygion ofer a gwna i ni ymwybod â'th agosrwydd. Distewa derfysg ein gofidiau o'n mewn a dwndwr seiniau gwag y byd oddi allan. Agor ein clustiau i'th Ief ddistaw fain, fel y clywom dy hyfrydlais ac y deallom dy eiriau o ras a maddeuant. Gweddïwn dros bawb mewn angen, ar iddynt glywed llais y nef a derbyn cysur a chymorth yn eu helbulon Cyflwynwn i ti, O Dad, y rhai sy'n dyheu am glywed dy lefarydd ynghanol eu gofidiau a'u hanghenion. Wrth y sawl sydd mewn afiechyd a phoen, dywed air i'w nerthu. Wrth y sawl sydd mewn tristwch ac anobaith, dywed air i'w cysuro. Wrth y sawl sydd mewn amheuaeth a dryswch meddwl, dywed air i'w gwroli. Wrth y sawl sydd wedi pellhau oddi wrthyt, dywed air i'w galw'n ô1. Wrth y sawl sydd mewn awdurdod dros eraill, dywed air i'w cyfarwyddo a'u goleuo. Wrth y sawl sy'n defnyddio geiriau i gyfathrebu, i hyfforddi ac i gynghori, dywed air i'w cywiro a'u harwain. Wrth y sawl sy'n pregethu'r efengyl ac yn dweud am Iesu, dywed air i'w hysbrydoli a'u cadarnhau. Ac wrth bob un ohonom, pan deimlwn ein ffydd yn wan a'n sêl yn pallu, Dywed air fy Nuw, Torred dy leferydd Sanctaidd ar ein clyw er mwyn y Gair tragwyddol ei hun, Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.