Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Golygyddol 3 O'r Cyngor Ysgolion Sul 3 Archesgob Newydd 4 Barry Morgan I Gweddi Dechrau'r Flwyddyn 4 Tudor Davies I Bywyd Newydd Bywyd Crist 5 Angharad Roberts Edward Schillebeeckx 7 Glyn Tudwal Jones Yn y Dechreuad 9 Aled Rhys Wiliam Profiad Ysgrifennydd 10 D.J. Elwyn Evans I Cwis Ysgrythurol 10 Haydn Davies George Fox a Chymru 11 Herbert Hughes ond fod o'i hun yn leicio gwneud hynny' 13 Dewi W. Thomas Y Gwynfydau 14 W. Alwyn Lloyd Woodbine Willie 16 lorwerth Jones I Menter Mewn Cenhadu 17 Marian Lloyd Roberts Llythyrau 18 Yng Ngrym yr Ysbryd Glân 19 Noel A. Davies I Gweddi Abades Oedrannus 20 Owen Williams Gair o'r Gair 21 D. Hugh Matthews Yr Ysbrydolrwydd a Gollwyd 22 Nia Rhosier Y Gornel Gweddi 23 Cylchgrawn dau-fisol yw 'Cristion' a gyhoeddir gan Fwrdd Cyhoeddi ar ran yr eglwysi canlynol: Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Yr Eglwys Fethodistaidd, Yr Eglwys yng Nghymru, Undeb Bedyddwyr Cymru ac Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Golygydd: E. ap Nefydd Roberts, Y Coleg Diwinyddol Unedig, Aberystwyth SY23 2LT. Ffôn: 0970-624574 neu 828745. Ysgrifau, llythyrau, llyfrau i'w hadolygu i'r cyfeiriad hwn. Cynllunydd: Marian Delyth. Trysorydd: John Wìlliams, Saunton, Maesdu Ave., Llandudno. Cadeirydd y Pwyllgor Rheoli: Maxwell Evans Ysgrifennydd y Pwyllgor: W.H. Pritchard. Cylchrediad a Hysbysebion: Alun Creunant Davies, 3 Maes Lowri, Aberystwyth. Ffôn: 0970-612925 Argraffwyr: Gwasg John Penry, 11 Heol Sant Helen, Abertawe. Rhaglenni Clybiau Plant "'Does ganddo ni ddim plant erbyn hyn." Dyna yw cwyn llawer eglwys, a'r hyn a olygir yw nad oes plant yn perthyn i aelodau ac felly mai amhosibl yw cynnal Ysgol Sul neu unrhyw fath o weithgarwch i blant yn ystod yr wythnos. Eto, yn amlach na pheidio, y mae digon o blant yn y gymdogaeth, llawer ohonynt, er yn blant i fewnfudwyr, yn Gymry bach rhugl, diolch i ym- drechion yr ysgol leol. Ond nid yw'r capel neu'r eglwys yn gweld maes cenhadol yn eu mysg, a hynny'n aml oherwydd diffyg gweledigaeth, neu ddiffyg egni, neu ddiffyg arweinwyr. Bu adeg pan oedd diffyg adnoddau a syniadau ar gyfer rhaglenni i gynnal gweithgarwch ymhlith plant. Ond nid yw hynny'n esgus mwyach. Ers rhai blynydd- oedd bu'r Ganolfan leuenctid yn y Bala yn cynhyrchu deunydd rhagorol ar gyfer Casgliad newydd o ganeuon Cristnogol cyfoes Yn ddiweddar cyhoeddwyd, trwy gydweithrediad y Gynghrair Efengylaidd, gasgliad o 200 o ganeuon Cristnogol cyfoes yn dwyn y teitl Grym Mawl. Y mae Clybiau Hwyl Hwyr gyda phlant. Cyhoedd- wyd y diweddaraf Hwyl Hwyr 7 Llyfryn Canllawiau Arweinydd ym mis Hydref y llynedd. Meddai Delyth Wyn Lloyd, Trefnydd Gwaith Plant Eglwys Bresbyteraidd Cymru a chynhyrchydd y llyfryn, "Bob blwyddyn byddaf fel rhan o'm gwaith fel Trefnydd Gwaith Plant yn cynhyrchu llyfryn ar gyfer arweinwyr clybiau plant Cristnogol. Mae prinder mawr mewn deunydd o'r math hwn yn y Gymraeg a gwn bod nifer o athrawon Ysgol Sui ac athrawon ysgol ddyddiol yn defnyddio rhai o'r syniadau sydd gan- ddynt." Ac y mae digonedd o syniadau am raglenni, gweithgarwch a gwasanaethau yn y llyfryn hwn. Ceir cyfresi penodol ar wahanol themáu, megis Cynhaeaf, y Nadolig, y Pasg, Sam Styfnig (sef damhegion lesu), Wil Wal a Traed. Gellir defnyddio'r cyfresi naill ai'n wythnosol neu fel thema clwb gwyliau. O fewn pob sesiwn ceir syniadau am weithgarwch, caneuon, ffilmiau ac yn y blaen yn ategu prif bwynt y stori Feiblaidd a ddefnyddir. Y mae'n galonogol bod yna ar hyd a lled Cymru nifer o glybiau plant yn gysylltiedig â'n heglwysi yn cyfarfod yn rheolaidd neu'n achlysurol i ddwyn plant i glyw'r efengyl ac o dan ei dylanwad trwy weithgareddau amrywiol llawn hwyl a difyrrwch. Bydd arweinyddion y clybiau hyn yn croesawu'r pecyn hwn o ddefnyddiau fel cynorthwy gwerthfawr a ffynhonnell syniadau a dulliau. Am gopïau neu ragor o wybodaeth, cysylltwch â Delyth Wyn, Trefnydd Gwaith Plant, Y Coleg, Y Bala, Gwynedd. Y mae Delyth hefyd ar gael i estyn cymorth a chyfarwyddyd, i gyfarfod â phlant eich clwb, neu i'ch helpu chi gyda'ch trefniadau. Peidiwch ag oedi i gysylltu â hi. cynnwys y casgliad yn gyfieithiad o Power Praise ac y mae'r caneuon yn dilyn yr un drefn, felly gellir defnyddio'r copi cerddor- iaeth sydd mewn bodolaeth yn barod. Yn y cynnwys ceir rhai o'r caneuon Cristnogol mwyaf poblogaidd a gaiff eu canu heddiw- rhai ohonynt yn addolgar, eraill yn fyfyrgar, yn dawel, yn fywiog ac yn llawn gorfoledd; caneuon yn wir sy'n gweddu i unrhyw achlysur o addoliad. Fe allai Grym Mawl chwyldroi'r addoliad mewn capeli ac eglwysi ledled Cymru. Lansiwyd y gyfrol gan WIGWAM yng nghapel Seion, Stryd y Popty, Aberystwyth, nos Wener, Tachwedd 8fed. Fe'i gwerthir am 60c y copi. Am gopïau neu fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r Gynghrair Efengylaidd, 136 Heol Casnewydd, Y Rhath, Caerdydd CF2 1DJ. Ffôn: 0222 497248.