Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLESTRI HEN A NEWYDD Mae'n arferol ar ddechrau blwyddyn newydd i atgoffa'n gilydd mewn pregeth, anerchiad ac ysgrif, o'r elfennau hynny yn ein Cristionogaeth sy'n cyfeirio at "newydd-deb" yr efengyl y dyn newydd, ffordd newydd, nef newydd, daear newydd, bywyd newydd. Ond gan mai creaduriaid enbyd o geidwadol yda ni fel crefyddwyr, buan iawn y byddwn ni wedi llithro'n ôl i'r hen rigolau, i sôn am yr un hen bethau, yn yr un hen ddulliau, yn yr un hen adeiladau ger bron cynulleidfaoedd sy'n brysur heneiddio! Y mae sawr henaint yn drwm ar gymaint o'n crefydda traddodiadol. Yn awr ac yn y man fe gawn ein herio i newid ein ffordd, i ymysgwyd o'n syrthni, addasu'n haddoldai, i fywiogi'n gwasanaethau ac greu delwedd gyfoes. Ond nid oes gennym mo'rweledigaeth na'r awydd na'r egni i roi cychwyn arni. Y TRYSOR A'R LLESTR Y mae'r Apostol Paul yn cymharu'r efengyl i drysor a'r eglwys i lestr pridd. "Y mae'r trysor hwn (sef yr efengyl) gennym mewn llestri pridd (sef ffurfiau a chyfundrefnau crefyddol), i ddangos mai eiddo Duw yw'r gallu tra rhagorol (2 Cor. 4:7). Y mae'r trysor yn ddigyfnewid, ond y mae'r llestri yn dadfeilio ac yn darfod. Y mae'r adnod hon yn gallu bod yn esgus i gyfiawnhau ein methiant a'n haneff- O'r Cyngor Ysgolion Sul FFAIR Y GAIR Nos Wener, Tachwedd 1af yr oedd Canolfan Waunfawr yn fwrlwm o siarad a chwerthin. Hon oedd noson Ffair y Gair. Beth yw Ffair y Gair? Wel noson ydyw bobl ifanc ddod at ei gilydd mewn awyrgylch Gristnogol i gael hwyl. Mae yna gemau fel Blockbusters Beiblaidd a Give Us A Clue ac yna, i ddiweddu'r noson, disgo. Llanwyd y neuadd gan swn y grwpiau pop diweddara: Benganffs, Sobin a'r Smaeliaid, Yr Anrhefn, Betty Boo enwi ond ychydig. 0 ie, ac ychydig o fiwsig y saithdegau gadw'r DiscJockey, Aled Davies, yn hapus! Trefnwyd y noson gan Gyngor Ysgolion Sul Rhanbarth Arfon. Nid dyma'r Ffair y Gair gyntaf i gael ei threfnu, fodd bynnag. Cynhaliwyd y gyntaf y llynedd yn Neuadd Ysgol Friars, Bangor, ond credaf ei bod yn deg imi ddweud fod yr un eleni wedi bod ychydig yn fwy llwyddiannus. 'Roedd mwy o bobl ifanc yno ac 'roedd yn fwy hwyliog. GOLYGYDDOL eithiolrwydd. Llestri pridd yda ni ar y gorau, yn frau ac yn ddarfodedig. Y trysor sy'n bwysig. Ond yn ôl ymresymiad Paul y mae'r llestri hefyd yn bwysig, oherwydd hebddynt y mae perygl i'r trysor fynd i golli. Tasg pobl Dduw ym mhob oes yw can- fod llestri newydd addas i ddiogelu'r trysor ac i'w gyflwyno i eraill. Fe dybiwyd ar y dechrau fod hen lestr Iddewiaeth yn ddigon cymwys i gludo'r trysor, ond buan iawn y gwelwyd fod honno'n darfod ac yng Nghyngor Jerwsalem penderfynwyd gadael yr hen lestr ar ôl a mentro cyfrwng newydd sbon-y genhadaeth i'r cenhedloedd. DWYFOLI'R CYFRWNG Ym mhob cyfnod fe geir rhai sy'n ceisio llunio llestri mwy addas i gludo'r trysor, ond cânt eu gwrthwynebu a'u llesteirio gan amddiffynwyr yr hen draddodiadau. Tyndra rhwng pobl y llestri a phobl y trysor fu hanes yr eglwys erioed. Tuedd pobl y tra- ddodiad yw dwyfoli'r llestri, boed rheini'n batrwm arbennig o weinidogaeth, neu'n ffurf arbennig o Iywodraeth eglwysig, neu'n ddull arbennig o addoli, neu'n fynegiant arbennig o gred. Ond dadl pobl y trysor yw mai pethau sy'n darfod yw'r "llestri" hyn i gyd a bod galw am lunio cyfryngau a phatrymau a dulliau newydd o weinidogaeth a chenhadaeth ar gyfer pob oes. Un gwyn sydd gennyf yn anffodus, a hynny yw fod llawer ohonom ni bobl ifanc yn teimlo'n gryf yn erbyn cael plant bach mewn nosweithiau o'r fath. Noson i bobl ifanc oedran ysgol uwchradd oedd hi ond 'roedd yno ychydig o blant tua deg oed. Mae'n rhaid i'n capeli ni heddiw ddysgu gwahaniaethu rhwng plant a phobl ifanc. Ar wahân hyn, roedd y noson yn hwyliog dros ben. Rhaid diolch Aled Davies, trefnydd yr Ysgolion Sul yn y Gogledd, am weithio mor galed. Daeth â'i siop fechan gydag ef fel arfer. Diod leddfu'r syched aruthrol ar ôl dawnsio cymaint, a chreision i'r rhai llyglyd. Ac wrth gwrs ei siop Iyfrau. Roedd Ffair y Gair yn gyfle gwych i Gristnogion ifanc gael cymysgu a chael hwyl. A dyna a ddigwyddodd. 'Roedd yn dangos nad peth sych a boring yw Cristnogaeth fel y cred llawer o ieuenctid heddiw. Yn hytrach 'roedd yn dangos gymaint o hwyl sy'n bosib ei gael. Mererid Mair Williams, Caernarfon. Egwyddor ganolog y traddodiad Diwygiedig yw ecclesia reformata et semper reformanda (yr eglwys ddiwygiedig yw'r eglwys honno sy'n wastad yn agored i'w diwygio). O bosib mai mewn perthynas â'r egwyddor hon, yn enwedig o'i haddasu i ffurf y weinidogaeth, y mae'r rhwystr pen- naf i undeb eglwysig, ond rhaid ymatal rhag mynd ar ôl y sgwarnog honno! Y mae Ysbryd Duw am lunio llestri newydd ar ein cyfer a rhaid bod yn agored i gael ein diwygio, ein hail-lunio a'n hadnewyddu ganddo. Gwelwn batrymau newydd o addoli yn datblygu, dulliau newydd o genhadu a phatrymau newydd o weinidogaeth ac o wasanaeth i'r byd yn ymddangos. DUW YN CREU Ymateb ceidwadwyr, o bob lliw a llun, yw mai chwarae â'r allanolion yw hyn i gyd: pwyso ar ddyfeisgarwch dynol yn hytrach nag ar achubiaeth ddwyfol. Ond y mae hynny'n gamddealltwriaeth ddybryd o natur a gweithgarwch Duw. Yn ei llyfr diweddar ar y Fam Julian o Norwich y mae Grace Jantzen yn egluro ar- wyddocâd cred y Fam Julian yng ngweithgarwch Duw y creawdwr. Duw y creawdwr yw'r Duw sydd yn dal i greu, yn wastad ar waith, yn dwyn trefn o anrhefn, bywyd o farwolaeth, y newydd o'r hen. Y mae Cristnogion wedi pwysleisio athrawiaeth y cadw ar draul athrawiaeth y creu. Y canlyniad yw colli'r ymwybyddiaeth o weithgarwch presennol Duw. Y mae ef yn ein gwahodd i gydweithio ag ef i ddwyn newydd-deb y deyrnas i fywydau pobl, i'w eglwys ac i'w fyd. E. ap N.R. A OES YSGOL SUL ACW? Rwyn siwr bod y mwyafrif ohonom wedi mynychu'r Ysgol Sul yn gyson ar ryw adeg o'n bywydau ac wedi cael budd mawr o berthyn iddi. Cawn dystiolaeth gyson gan amryw am ddylanwad yr Ysgol Sul ar eu bywydau, trwy ddylanwad y dysgu, y cymdeithasau a'r rhannu. Yn anffodus, gwydom am eglwysi a phentrefi hyd yn oed, lle nad oes yna Ysgol Sul bellach ar gael, sy'n amddifadu ein plant a'u hieuenctid o'r cyfle ddysgu am ein Harglwydd lesu Grist. Os yw hyn yn wir am eich sefyllfa chi, ac y carech fynd ati newid y sefyllfa, beth am gysylltu â ni drafod y posibiliadau? Mae yna ddau ohonom yn gweithio i ddatblygu gwaith yr Ysgol Sul, a medrwn weithio yn lleol gyda chi hyrwyddo Ysgol Sut newydd. Os ydych am fentro, cysylltwch â ni, a medrwn gyfarfod â chi i drafod y posibiliadau. D. Aled Davies, Swyddog Datblygu