Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Portread o'r Parchedicaf Alwyn Rice Jones, Archesgob newydd yr Eglwys yng Nghymru, gan Barry Morgan, Archddiacon Meirionnydd. ARCHESGOB NEWYDD Ar y pymthegfed o Hydref 1991, yn Eglwys y Drindod, Llandrin- dod, etholwyd yr Esgob Alwyn Rice Jones, Esgob Llanelwy ers 1982, yn Archesgob Cymru. Ef yw'r degfed archesgob ers y datgysylltiad a'r ail o esgobion Llanelwy i'w ethol yn archesgob. Cafodd ei fagu yng Nghapel Curig yn esgobaeth Bangor a threuliodd ran helaeth o'i weinidogaeth yn yr esgobaeth honno, fel curad yn y Felinheli, Caplan Mudiad Cristnogol y Myfyrwyr yng ngholegau Gogledd Cymru, Cyfarwyddwr Addysg yr esgobaeth a Warden Ymgeiswyr am urddau, cyn mynd ymlaen i fod yn ficer Porth- madog a chanon eglwys gadeiriol Bangor. Symudodd wedyn i fod yn Ddeon Aberhonddu. Cafodd yr Archesgob ei addysg yn Ysgol Ramadeg Llanrwst. Enillodd radd yn y Gymraeg yng Ngholeg Dewi Sant Llanbedr cyn mynd ymlaen i Gaergrawnt i astudio diwinyddiaeth. Cwblhaodd ei addysg yng Ngholeg Mihangel Sant, Caerdydd. Mae'n briod â Meriel, merch o Lanfairfechan, ac mae ganddynt ferch, Nia, sydd newydd briodi. Yn ogystal â bod yn esgob Llanelwy, ef yw cadeirydd Adran Addysg y dalaith, y mae yn aelod o Cytûn, yn is-gadeirydd Bwrdd Cenhadaeth y Dalaith, Cadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol S4C, ac ef sy'n gyfrifol ar fainc yr esgobion am bwyllgor hyfforddi a dewis ymgeiswyr am urddau sanctaidd. Mae'r gwaith yma, a'i yrfa hyd yn hyn, wedi llywio ei syniadau a'i ddiwinyddiaeth. Mae gan yr archesgob newydd ber- sonoliaeth gynnes. Fel ei ragflaenydd, mae'n medru cymysgu'n rhwydd â phob math o bobl ac mae ganddo'r ddawn i'w gwneud i deimlo'n gartrefol. Ar ôl gweithio yng nghefn gwlad a thref mae'n deall y gwahanol broblemau sy'n wynebu'r eglwys. Yn Gymro i'r carn, mae'n sylweddoli o'r tu fewn y broblem aruthrol sy'n wynebu plwyfi Cymraeg eu hiaith. Mae ganddo'r ddawn i wrando'n ofalus ar bobl a thrwy wrando mae'n aml yn medru dehongli safbwyntiau gwahanol bobl i'w gilydd a thrwy wneud hynny hyrwyddo trafodaeth. Mae'n gadeirydd gwych, yn rhoi cyfle i bawb ddatgan barn ond hefyd yn gwybod pa bryd i ddod â thrafodaeth i ben a symud i benderfyniad. Oherwydd y doniau yma y mae pobl a chyrff tu allan i'r eglwys wedi ceisio ei gyngor ac y mae'n aelod o bwyllgor ar gyffuriau a sefydlwyd o fewn Sir Clwyd. Ato ef y trodd y Cyngor Sir am gadeirydd gwrthrychol i drafod dyfodol llywodraeth leol o fewn y Sir. Mae'n tueddu i weithio'n rhy galed a bydd rhaid iddo ofalu ei fod yn barod i rannu rhai o'i gyfrifoldebau a sicrhau bod ganddo amser i ddarllen, astudio ac ymlacio. Y mae'r archesgob newydd o blaid ordeinio gwragedd yn offeiriaid ac mae hyn yn mynd i fod yn bwnc llosg yn yr Eglwys yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd nesaf. Yn ei esgobaeth ei hun bu'n gefnogol iawn i'r merched sydd wedi eu hordeinio'n ddiaconiaid a phenodwyd rhai ohonynt i fod yn gyfrifol am blwyfi. Er ei fod o'r farn y dylid ordeinio merched y mae hefyd yn ymwybodol o'r ffaith y gall hyn rhwygo'r Eglwys. Nid yw'n ddyn sy'n rhuthro i mewn i unrhyw beth a bydd wedi trafod yn ofalus gyda'i gyd-esgobion ac wedi cymryd cyngor oddi wrth eraill cyn symud ymlaen. Yn sicr bydd addysg ac ecwmeniaeth yn cael rhan flaenllaw yn ei weinidogaeth fel archesgob. Mae'n teimlo'n gryf y dylid rhoi mwy o sylw i hyfforddi lleygwyr oherwydd y mae'n credu bod dyletswydd ar holl bobl Dduw i weinidogaethu i'r byd. Ni chred fod gweinidogaeth yn gyfyngedig i'r weinidogaeth ordeiniedig. Dyma fydd un pwyslais yn ei archesgobyddiaeth ar gyfer y ddegawd efengylu. Gwel yr eglwys fel cymuned o bobl yn gwasanaethu'r byd, gyda phob aelod bedyddiedig yn defn- yddio'i wahanol ddoniau er lles y gymuned leol. Bydd yn cyd weithio'n agos hefyd ag arweinwyr eglwysi eraill, yn enwedig y rhai sydd mewn perthynas gyfamodol â'r Eglwys yng Nghymru, oherwydd yn ystod ei gyfnod fel ficer Porthmadog gweithiodd yn agos iawn â'r offeiriad pabyddol ar y naill law, a gweinidogion yr Eglwysi Rhyddion ar y llaw arall. Mae ei wraig Meriel wedi bod yn gefnogol tu hwnt iddo drwy ei weinidogaeth. Dymunwn bob bendith iddynt ar gychwyn eu cyfrifoldebau newydd. GWEDDI DECHRAU BLWYDDYN Am weld dechrau blwyddyn newydd, Fythol Dduw rhown glod i Ti: Dy drugaredd sy'n dragywydd, Ac ni ddarfu amdanom ni; Dy ddaioni a'n cynhaliodd Drwy'r blynyddoedd aeth o'n hôl, Dy ryfeddol ras a'n ceisiodd Er ein holl grwydradau ffôl. Ein Tad graslawn rho d'arweiniad Inni i'r dyfodol cudd, Ym mhob profiad ac amgylchiad Tywys ni yng ngolau ffydd; Cwyd ein bryd uwchlaw'r daearol, I weld ystyr bod a byw: Profi hedd dy gwmni nefol Yn dy waith, ein Tad a'n Duw. Arglwydd amser wyt, yn ddechrau Ac yn ddiwedd popeth sydd; Dysg i ninnau gyfri'n dyddiau A'th gydnabod Di bob dydd: Dy adnabod drwy Grist Iesu, Treulio'n heinioes, -Ti a'i rhoes: Byw yng Nghrist i'w wasanaethu Ar ein taith hyd ddiwedd oes. TUDUR DAVIES, Uanrhystud.