Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dlsgwyliriymgeiswyramyweinidogaethdreuliorhanowyliau'rhaf ar leoliad cenhadol. Yn yr ysgrif hon y mae Angharad Roberts yn sôn am fis a dreuliodd ar ystad Penrhys, Y Rhondda. BYWYD Dosbarth iseiblaidd noson waith dechrau am chwarter wedi saith. Darllen o gwmpas y cylch, ychydig adnodau yr un yn ein tro, gwrando ar air o eglurhad am gefndir y darn ac yna trafod y neges. Pob math o gwestiynau'n codi canolrwydd yr atgyfodiad; hanesiaeth Adda ac Efa; sut i dystio yn y gwaith, er gwaethaf gwawd ein cydweithwyr; sut i rannu'n ffydd gydag aelodau digred ein teuluoedd; sut i ateb dadleuon Tystion Jehofa; beth yw'r ddysgeidiaeth sy'n sylfaen i bwyslais yr Eglwys Bentecostaidd ar siarad â thafodau y rhain i gyd yn cael eu trafod, yn ogystal â phrif neges yr adnodau a ddarllenwyd, cyn i ni adael am naw o'r gloch. Ymhle ceir astudiaeth feiblaidd fel yna tybed gyda phob un wedi cyfrannu a'r drafodaeth yn fyw ac yn bwrpasol? Ai yn un o gapeli mawr ein trefi Prifysgol lle ceir cynulleid- faoedd o bobl ddysgedig sy'n hoff o ddarllen a thrafod? Ai yng ngefn gwlad, yn y Fro Gymraeg, lle mae'r hen fywyd traddodiadol yn dal yn fyw a'r bobl yn dal eu gafael ar y "pethe"? Efallai fod cyfarfodydd noson waith fel hyn i'w cael yno, ond nid am y rhieni yr wyf am sôn yma. Disgrifiad sydd gennyf o nos Iau yn niwedd Awst y llynedd mewn ystafell fechan ddiaddurn yng Nghanolfan Gymdeithasol Penrhys, y Rhondda Astudiaeth Feiblaidd wythnosol Eglwys Unol Penrhys. DIM BYD OLL YNO Mae stad Penrhys yn enwog; stad o dai cyngor wedi eu gollwng yn swp ar ben y bryn ym mhell o bob man, ar y mynydd rhwng y Rhondda Fawr a'r Rhondda Fach. Cymuned ddifreintiedig o deuluoedd wedi eu gorfodi i fyw yno oherwydd tlodi neu ailgartrefu gorfodol. Nid oes ganddynt siawns am H.P. na chredyd os yw eu cyfeiriad ym Mhenrhys. Hyd yn ddiweddar, uchelgais pob un oedd cael symud oddi yno. Nid oes dim byd oll yno dim meddygfa na fferyllydd, dim ond un siop fwyd a phrisiau honno yn adlewyrchu ei monopoli. Nid oes yno na llyfrgell na laundrette; nid oes bwll nofio na chae chwarae, na hyd yn oed le i gael 'paned gyda ffrindiau. Mae'r tai ymhell o'r ffordd I He daw'r bws, ac y maent wedi eu cydgysylltu â llwybrau a grisiau a phob rhwystr arall y gellir ei ddychmygu i wneud bywyd yn anodd i fam ifanc â llwyth o siopa a baban mewn pram. Y mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn ddi-waith. Yn ystod y mis y bûm yno bu cyrch cyffuriau gan yr Heddlu un ben bore. Torrwyd i mewn i'r siop, dro arall i'r capel, a'r injan dân yn fflachio'i olau glas am hanner nos wrth ddod i ddiffodd tân a gynheuwyd gan blant wrth chwarae yn y sbwriel. -BYWYD SBWRIEL A'R BLODAU Sbwriel dyna fy argraff gyntaf o Benrhys. Sbwriel ymhob man, ar hyd bob llwybr, ac o dan droed ymhob man. Ond na, nid yw hynny'n hollol wir. Ar ambell i gornel 'roedd trigolion y tai cyfagos wedi creu gardd fechan, plannu llwyni ac ambell i flodyn yn y tir nad oedd namyn sbwriel adeilad wyr ar y gorau, ac wedi llwyddo i'w chadw er gwaethaf yr hinsawdd cymdeithasol a thymhorol. Y darlun sy'n aros yn fy nghof o Benrhys yw'r cladding newydd y mae'r Cyngor wrthi'n ei roi i wella'r tai a lliwiau'r waliau newydd mor dlws mewn gwrthgyferbyniad â'r glaswellt. Sefais droeon ar garreg drws y ty lle 'roeddwn yn lletya ac edrych heibio'r tai dros y dyffryn, a bryniau a chymoedd Morgannwg ar eu gorau yn harddwch haul mis Awst. Tebyg hefyd yw'r darlun o bobl Penrhys. Yng nghanol y tlodi, y diweithdra, y broblem gyffuriau a'r dwyn, yng nghanol bydreddi bywyd, y mae gardd fechan, sef Eglwys Unol Penrhys. Yng nghanol y tlodi, y diweithdra, y broblem gyffuriau a'r dwyn, yng nghanol bydreddi bywyd, y mae gardd fechan, sef Eglwys Unol Penrhys." Megis gardd ddyfradwy, 0 aroglau'n llawn, Boed fy mywyd Arglwydd Fore a phrynhawn. Hyd y gwn ni, ni chanwyd yr emyn yna erioed ar Benrhys. Ond er hynny atebwyd y weddi sydd ynddi. Mae bywyd yr eglwys fel gardd sy'n perarogli dros y stad. ADDOLIAD YN GANOLBWYNT Mae hi'n eglwys sy'n cyfarfod i addoli yn aml. Ar fore Llun a bore Mercher yn ogystal â bore a phnawn Sul. Efallai hanner dwsin, efallai deg ar hugain, yn dod ynghyd mewn ystafell sydd wedi ei neilltuo ar gyfer yr eglwys yn y Ganolfan Gymdeithasol. Rhai yn cyrraedd mewn pryd, eraill yn hwyr; plant i mewn ac allan ac ar draws ac ar led. Rhai wedi