Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ysgrif arall yn y gyfres ar ddiwinyddion cyfoes Edward Schillebeeckx Glyn Tudwal Jones I'r anghyfarwydd, mae mynd i'r afael â chyfrolau trwm Schillebeeckx mor anodd ag ynganu ei enw! Gadewch inni gael y broblem honno o'r ffordd i ddechrau, felly. Yr agosaf y medrwn ddod at ddweud ei enw'n iawn yw ei ynganu Skillabakes. 'Dyw hynny ddim mor anodd ag yw'n edrych ar yr olwg gyntaf, ac fel y cawn weld yn y man, dyna'r gwir am ei lyfrau hefyd. Ond gadewch inni fwrw trem dros ei hanes yn gyntaf. EI FYWYD Ganed Edward Cornelis Florentius Alfons Schillebeeckx yng ngwlad Belg ar 12 Tachwedd, 1914. Hanai ei deulu o'r Is- Almaen a hwnnw'n deulu Pabyddol defosiynol. Edward oedd y chweched o bedwar ar ddeg o blant. Cyfrifydd oedd ei dad wrth ei alwedigaeth ac roedd y teulu'n glos a phur ddisgybledig. Bu ei dad yn ddylanwad mawr ar Edward. Cyfeiriodd ato'n ddiweddarach fel "Patriarch o'r Hen Destament, yn ystyr gorau'r gair". Roedd rhyw elfen wrth- glerigol yn y tad. Pan ddaeth Edward adref un waith ar ôl cael ei ordeinio'n offeiriad mentrodd ei fam gynnig mai ef ddylai ofyn bendith wrth y bwrdd bwyd. "Yn y ty hwn, fi yw'r offeiriad", meddai'r tad, gan ddyrnu'r bwrdd. Ac felly y bu. Cafodd y plant eu magu yng ngwirioneddau'r ffydd, a'r ffydd honno'n creu rhyw awyrgylch o barchedig ofn. Yn chwech oed, yn 1920, aeth i'r ysgol gynradd yn Kortenberg a thua'r un pryd ddechrau gweini yn yr offeren. Oddi yno aeth i ysgol y Jeswitiaid yn Turnhout. Bu'n rhaid iddo weithio'n galed iawn yno am fod yr addysg trwy gyfrwng yr iaith Ffrangeg. Roedd y ddisgyblaeth yn llym ac nid oedd Edward yn hoffi'r awyrgylch or-ffurfiol a'r dull di-ddychymyg o ddysgu. Ond cafodd un o'i athrawon, y Tad de Witte, ddylanwad oedd i aros ar y bachgen ifanc. Gweithiwr cymdeithasol ydoedd, ac yn ei gwmni dysgodd Edward bwysigrwydd ffydd weithredol. Dyna egwyddor ei holl fywyd a'i weithiau ar ôl hynny. Dangosodd Edward ddiddordeb yng ngweithiau S. Ignatius Loyola, Sant Dominic, Sant Ffransis a Sant Benedict. Mewn canlyniad, penderfynodd droi'n Dominican. Yn 19 oed aeth i chwilio am yr urdd a dechrau ar ei hyfforddiant yn Ghent. Carai'r awyrgylch yn fawr ac ymgollodd yng ngweithiau'r cyfrinwyr. Daeth i hoffi'r ddisgyblaeth ddefo- siynol: codi rhwng 3 a 4 o'r gloch y bore tra bod "pawb arall yn cysgu". Unwaith bu'n ddigon ffôl i ymffrostio wrth ei dad am hyn mewn llythyr. Ateb digon swta a gafodd. "Fy ngwas i, rhaid i'th fam a minnau godi tair a phedair gwaith bob nos at fabi sy'n crio (roedd y plentyn olaf newydd ei eni). Dyna dipyn llai rhamantus na dy weddïo di". Gwers arall mewn diwinyddiaeth ymarferol! Athroniaeth aeth â'i fryd nesaf, dan gyfarwydd ei Urdd. Yna torrodd y rhyfel allan a bu'n rhaid iddo ymuno â'r fyddin. Cafodd ei symud o Ie i le, ond ni fu yng nghanol y brwydro. Parhaodd i ddarllen ac ysgrifennu'n ddiwyd. Enillodd ei ddoethuriaeth yn 1943 ac ennill lle ym Mharis i barhau gyda'i astudiaethau. Yno, daeth ar draws yr ecwmenydd mawr hwnnw Yves Congar, yn ogystal â'r diwinydd nodedig Chenu. Tyfodd ei ddiddordeb mewn priodi'r Ysgrythur a hanes yr eglwys â gweithgarwch yn y byd. Cyfarfu â Marcsiaid blaengar ac athronwyr gwrth-Gristnogol megis Albert Camus. Dychwelodd i Louvain yn 1947 i ddysgu diwinyddiaeth ac i fod yn gaplan i'r carchar yno. I'r Is-Almaen yn 1958 yn Athro ym Mhrifysgol Nijmegen. Gweithiodd yn galed iawn yno, gan ysgrifennu a derbyn llu o alwadau i ddarlithio hwnt ac yma. Cymerodd ran amlwg yn Ail Gyngor y Fatican ac yn 1965 roedd yn un o syflaenwyr y cylchgrawn Concilium. O hynny ymlaen dechreuodd deimlo tyndra rhwng ei weledigaeth ei hun a'r rhai a geisiai ddal yr eglwys Bab- yddol yn ôl. Cynyddodd yr ofn yn ei enaid na allai'r eglwys ei diwygio'i hun. Gwelodd obaith newydd o gyfeiriad y