Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"People are the words with which God tells his story Ar yr un trywydd, mae'n dweud yng nghorff y llyfr: "The church is not the kingdom of God, but ii bears symbolic witness to that hingdom It does so by doing for men and women here and now in new situations what Jesus did in his time. Beth am hyn fel enghraifft o ffydd yn y dyfodol? 'I shall be with you to the end of time', means that as Christians we may hope that the content of the good news that is called the gospel is so powerful, surprising and definitŵe that there will always be enough people, men and women, to stand in the church movement-around-the-gospel and to be willing to hand on the torch of Christian belief and in so doing build the church." Dyna eiriau un sydd, trwy ei ofal ei hun dros barhad yr eglwys, yn cynhesu ein calon ac yn adfer ein gobaith. Yr un yw effaith ei esboniadaeth bob amser. Codi a wna ei esboniadaeth o'i brofiad ei hun ac yna mae'n symud ymlaen i ddehongli'r Ysgrythur a thraddodiad yr eglwys ar gyfer gweithredu cymdeithasol a gwleidyddol. Down i adnabod unrhyw ddiwinydd orau trwy ddarllen ei bregethau. Yno bydd yn angori ei syniadau mewn profiad. Gan y Dominiciaid y dysgodd Schillebeeckx bwysigrwydd defosiwn. "Fedrwch chi ddim siarad am Dduw heb eich bod yn gyntaf yn siarad â Duw", meddai. Un o'i gyfrolau mwyaf gwerthfawr yw God Among Us the Gospel Proclaimed. Casgliad o bregethau ac anerchiadau ydyw. Nid yn unig y mae'n hynod ddarllenadwy ond mae hyfyd yn ddyfynadwy. Yma y ceir rai o'i illustrations gorau. Mae un o'r un genedl â Schillebeeckx wedi ei gymharu â Karl Barth. Ar un olwg, mae hynny'n ymddangos yn gymhariaeth od. Enghraifft o ieuo anghymarus hyd yn oed. Ac eto, unawdwyr yw'r ddau ohonynt. Meddylwyr gwreidd- iol, ffres a chynhyrchiol dros ben! Cewri yn eu gwahanol ffyrdd. Efallai nad ydym yng Nghymru eto wedi ei lawn werthfawrogi, ond byddwn ar ein hennill o fynd i'r afael â'i waith, a gwrando ar ei ddwy neges ganolog gobaith i'r eglwys ac iachawdwriaeth i'r byd. Y Parchg. Glyn Tudwal Jones yw gweinidog gofalaeth Tŵr Gwyn, Bangor. YN Y DECHREUAD Nid ar Adda ac Efa 'roedd y bai Am gwymp y ddynol ryw o'r Wynfa Goll; Roedd gwendid amlwg yn y defnydd crai Y gwnaed ohono'r greadigaeth oll. Rhyw nwyon yn y gofod aeth ar dân, A'r ffrwydrad a esgorodd ar y sêr A bydoedd y bydysawd maith achlân. Ond wedyn fe aeth pethau braidd yn flêr. Damweiniau sydd yn llywio cwrs ein byd; Daeargrynfeydd a chyfnewidiol hin; Gwamalrwydd sydd wrth wraidd y drefn i gyd- Mympwyon diesboniad Natur flin. Mae'r hanes hwn mor hen â'r byd ei hun; Roedd sarff yn Eden cyn bodolaeth dyn. Does fawr o sôn am bechod gwreiddiol nawr Na chred yng nghwymp a damnedigaeth dyn; Ac eto, mae rhyw anesmwythyd mawr Yn cadw'r byd o'r Betws ar ddi-hun. Euogrwydd a chydwybod sydd o hyd Fel baich ar war y Cristion cryfa'i ffydd Yn erlid cwsg â'u cyhuddiadau mud A llethu'r ysbryd dewraf nos a dydd. Nid rhyfedd hynny 'chwaith: mae ynom reddf Sy'n cymell dyn i dywallt gwaed ei frawd; Fel pob creadur arall, dilyn deddf Rhyw Natur ddidrugaredd yw ein ffawd. Ychydig is na'r engyl? Choelia'i byth! Yn iaith chwedloniaeth dyna beth yw myth. Aled Rhys Wiliam I II