Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PROFIAD y5«lf&)K)/DD D.J. ELWYN EVANS Pan ofynnwyd i mi fod yn ysgrifennydd y Taberaacl, King's Cross yn 1984 fe ddychrynais, gan nad oedd profiad gennyf o'r fath gyfrifoldeb. Sôn am ddechrau cyn dysgu! Ar ben saith mlynedd roeddwn yn ymddeol gan fy mod am ddychwelyd i Gymru i fyw wrth ymollwng o'm galwedigaeth. Wrth edrych yn ôl beth yn ben- naf a ddaw i'm cof? Ar y dechrau fe ddywedais nad oedd gennyf na'r diddordeb, na'r amser, na'r gallu i wneud pob dim fy hunan yn enwedig a minnau'n byw wrthyf fy hun. Mae'n ddynol i weithio ond yn Gristnogol i gydweithio. Dyna'r nod er creu personau ac er budd i gymdeithas pob cymdeithas. DEFNYDDIO'R TALENTAU Bu ymateb yr Eglwys yn rhyfeddol rhai yn ymateb i alwad a gofynion yr adeiladau; eraill i oedfaon y plant; y gwragedd o dan arweiniad "Trefnydd y Lluniaeth" yn gwneud gwaith o safon arbennig; y gerd- doriaeth yng ngofal dwylo a thraed cerd- dorol yr organydd, a diolch am drysorydd yn ail i neb. Ar ben hyn, Cymdeithas Lenyddol ddwy waith y mis yn ystod y gaeaf a chwrdd gweddi yn gyson drwy'r flwyddyn. Wrth feddwl am yr holl weithgarwch hwn beth yn union oedd ar ôl i'r Ysgrifennydd ei wneud? Diogelu, ychwanegu at a chef nogi gweinidogaeth yr holl saint. Y mae'r Weinidogaeth yn dechrau gyda'r pulpud dau gyfarfod y Sul ar hyd y flwy- ddyn. Pan fo gweinidog rhaid i'r Ysgrifen nydd fod yn gefn iddo os nad yw, yna dychrynaf o feddwl am y dryswch a achosir. Rhaid diogelu nad oes gair na gweithred angharedig tuag at y gweinidog yn tarfu ar ein cyffes a'n cred. Mewn eglwys gydag aelodau a chysylltiadau ar hyd a lled Cymru, rhaid gwahodd gweinidogion o bob rhan o'r wlad (heb gyfyngu'r gwahoddiad i un enwad) ac y mae hyn yn galw am rywun i "gadw'r mis". Yn y Tabernacl "cadw'r flwyddyn" yw'r profiad bron yn ddieithriad. Nid ydym yn defnyddio'r talentau lleyg yn llawn o fewn ein heglwysi, ac yr ydym wedi darganfod cyfoeth wrth gychwyn ar y gwaith hwn. CREU TEULU Cyd-weddïo, cyd-weithio a chyd-ddyheu yw'r nod. Gyda'r cyhoeddiadau ni fûm mor llwyddiannus. Gadael y gwaith i'r ysgrif- ennydd a wnaed a bu hyn yn rhwystr i eraill gael y profiad. Pan fo eglwys yn wasgaredig y mae'n anodd dal cysylltiad â phob aelod ac ardal. Rwy'n meddwl i mi ddefnyddio'r cyhoeddiadau fel "Papur Bro Llafar", ond mae'r grefft o gyfyngu'r cyhoeddiadau i amser rhesymol yn grefft brin ac anodd i'w datblygu. Y mae gweinidogaeth galwadau ffôn yn anhepgorol fel canllaw i greu "teulu" ac i ddangos gofal dros yr aelodau. Hyd yma rwyf wedi sôn am waith o fewn yr eglwys yn unig. Rhan yw hyn o gyfrifoldeb ysgrifennydd. Mae'r gwaith o gyd-gysylltu ag eglwysi a chymdeithasau eraill yn allweddol. Heb y naill a'r llall mae'r eglwys leol yn dioddef. Y mae gwaith ysgrifennydd yn cyfuno swyddogaeth "Prif Weinidog" ac "Ysgrifennydd Tramor", gan gofio mai gwasanaethu yw amcan y weinidogaeth leyg yn ogystal â'r ordeiniedig. Y PERYGLON Gyda golwg ar swyddogaeth mor amlochrog, mae yna ddau berygl: naill ai bod yn unben neu gwamalu yn y gwaith a bod yn "shoni bob ochr". Y mae cynnal Cwrdd Eglwys yn fisol yn rhwystr i'r fagl gyntaf heb sôn am fod yn ddisgyblaeth ar yr aelodau. Ond beth am yr ail berygl? Rhaid ymwrthod â'r demtasiwn i ostwng safonau er mwyn ennill poblogrwydd ar- wynebol simsan ar y naill law, a gwisgo masg parchusrwydd ffals ar y llaw arall. Pwy yn wir a fyddai am fod yn ysgrifennydd eglwys? Ond yr oedd yn fraint cael bod yn Ysgrifennydd y Tabernacl, a'r fraint yn troi'n fendith gyda'r blynyddoedd. Ai dyna'r wobr? Tybiais felly, a digon oedd. Ond er hynny fe ddangosodd yr aelodau eu gwerthfawrogiad a chyflwyno rhodd hael y tu hwnt i'm haeddiant. Yn wyneb hyn, 'does dim i mi wneud ond arswydo. Bydded bendith yn brofiad pob ysgrifen- nydd eglwys. Y CWIS YSGRYTHUROL LLYFR ECSODUS 1. Beth oedd gyfrif bod Moses wedi ffoi o'r Aifft i Fidian? 2. (a) Beth oedd enw offeiriad Midian? (b) Pa sawl merch oedd ganddo? 3. Pa un ohonynt a gafodd Moses yn wraig iddo? 4. Pa ateb oedd Moses i roi i'r bobl pe gofynent enw'r sawl â'i hanfonodd atynt? 5. Beth oedd y deg pla yn ôl eu trefn? 6. Pa sawl ffynnon a pha sawl palmwydd oedd yn Elim? 7. (a) Pwy oedd i wrando materion y bobl tra bod Moses yn y mynydd? (b) Am ba hyd o amser y bu Moses yn y mynydd? 8. (a) 0 ba fetel y gwnaethpwyd y llestri ar gyfer holl waith y tabernacl? (b) Pwy oedd i gadw golwg ar lamp y tabernacl o'r hwyr hyd y bore? 9. "Nid yw'r cyfoethog i roi mwy, na'r tlawd i roi llai, na hanner sicl." At ba offrwm y cyfeiria'r geiriau hyn? 10. Pa beth ddigwyddai pan fyddai Moses yn mynd i mewn i babell y cyfarfod? Haydn Davies, Caerfyrddin (Yr atebion ar dudalen 17)